Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr 2026 – beirniadaethau barddoniaeth
Cystadleuaeth y Gadair - ‘Newid’
Calonogol oedd tynnu pedwar ymgais ar ddeg allan o’r pecyn a gyrhaeddodd trwy law’r ysgrifennydd; ond dyma araf sylweddoli wedyn fod yr ornest hon yn profi nad yn ôl ei swmp mae barnu safon cystadleuaeth. Cystal i mi addef ar y cychwyn mai cystadleuaeth ychydig yn brin o weledigaeth a gwefr oedd hon, at ei gilydd.
Y prif wendid oedd yn nodweddu gwaith trwch yr ymgeiswyr oedd diffyg cynildeb. Cyfrwng ymatalgar ydi barddoniaeth yn ei hanfod – mae yna reswm ei fod yn creu effaith ac yn cyflawni swyddogaeth wahanol i waith yr awdur rhyddiaith, neu’r dramodydd. Mae angen i fwyafrif llethol y cystadleuwyr eleni ddarllen a gwrando ar fwy o farddoniaeth, a bod yn llawer iawn mwy hunanfeirniadol. Gofyn iddynt eu hunain – pam fy mod i’n dewis barddoni’r profiad hwn, a sut mae’r dewis hwnnw yn mynd i effeithio ar y ffordd yr ydw i’n ei fynegi? Mi ddywedodd Louise Glück, y diweddar fardd ac ysgrifydd Americanaidd – ‘Poetry survives because it haunts, and it haunts because it is simultaneously utterly clear and deeply mysterious’, a dwi’n meddwl y gallai beirdd y gystadleuaeth hon gymryd rhywbeth o’r syniad hwnnw – y gall darn o farddoniaeth fod ar unwaith yn groyw, yn ddistylliad o brofiad, ac hefyd â rhyw gyfriniaeth neu amwyster yn ei gylch. Rhy aml y cefais fod yr ymgeiswyr hyn yn mynd ar goll yng nghors y naill elfen neu’r llall, heb eu plethu’n brofiad trawiadol a chyfoethogol i’r darllenydd.
Gan ei bod hi’n gystadleuaeth go niferus, rydw i am gyfyngu fy sylwadau o’r llwyfan i’r rhai sydd agosaf at y gadair, ac felly’n ffurfio’r dosbarth cyntaf i bob pwrpas. Ond mae yna feirniadaeth ysgrifenedig sy’n cyfeirio at waith pob ymgeisydd – a bydd y sylwadau hyn ar gael gan yr eisteddfod ac i’w darllen ar fy ngwefan (*gweler isod).
Yn y dosbarth uchaf hwnnw mae pedwar bardd – tri, mae’n deg dweud, nad ydynt ymhell ar y blaen i’r rhai sydd oddi tanynt, ond bod ganddynt well gafael ar eu syniad a’r modd y cafodd ei wireddu. Mae’r tri ohonynt yn rhagori mewn gwahanol ffyrdd; ond dim un ohonynt ym mhob ffordd.
Beetroot yw llais mwyaf cyfoes y gystadleuaeth. Er bod y gerdd rydd hon, ‘Does Dim yn Newid’ angen sylw i gywiro cryn dipyn o wallau iaith a gramadeg, mae yma fardd yn sicr. Perthynas garwriaethol docsig a bortreadir yma, a’r modd y twyllir y llefarydd i aros yn y berthynas honno, er gweld yr holl arwyddion nad yw pethau fel y dylent fod. Yn gelfydd iawn, mae Betroot yn llwyddo i adeiladu penillion o amgylch un ddelwedd, ond bod y ddelwedd honno’n troi ar ei hun i gynrychioli dwy wedd ar y berthynas:
Gwên sy’n gryman,
Yn beryglus o ddisglair,
Dyna oedd gennyt ti;
Ac fel cryman, holltaist ti
Fy nghalon
Yn ddwy;
Mae anghynildeb yn brigo mewn dweud mwy uniongyrchol, fel ‘Dylwn i [fod] wedi dianc rhag dy loches / Cyn iddo ddechrau llosgi’ – diangen yw llinellau o’r fath pan fo’r anesmwythyd yn cael ei fynegi mor arswydus o gofiadwy mewn mannau eraill:
Mae angen cyfieithydd
I weddill y byd ddeall
Trais dy dynerwch.
Mae’n ardderchog ar brydiau, ac oherwydd yr anwastadedd y mae hi’n ddrwg gen i ddweud fy mod i’n credu y gall Betroot ganu gwell na’r gerdd hon.
Nebo, wedyn, yw llais mwyaf disgybledig y gystadleuaeth. Cyflwynodd ddilyniant o bump o gerddi byr, tynn a diwastraff, a theitl pob un yn weithred sy’n cyfrannu at y ‘newid’ sydd yma: ‘Cyrraedd’, ‘Dadlwytho’, ‘Gorffwys’, ‘Ailwefrio’, ac ‘Ailgychwyn’. Yn llinellau byrion bach o ddau neu dri gair y torrir cerddi Nebo gan amlaf. Portreadir y broses adnewyddol hon gan fwyaf trwy ddelweddau morwrol – llong yn cyrraedd glan cyn angori a dadlwytho’i nwyddau yw’r llefarydd hwn sy’n cyrchu rhyw fath o hafan feddylgar:
Gollwng angor
a gwacáu
cypyrddau’r
meddwl.
Mewn gwirionedd, gellir darllen y cerddi hyn yn drosiadol neu’n llythrennol – fel disgrifiad o wyliau morwrol gyda saib ar lannau heulog, pell; neu fel rhywbeth sy’n digwydd o fewn hanner awr o ymgilio rhag y byd i fyfyrio, neu ddarllen llyfr.
Braidd yn orymdrechgar, a chymysglyd ar brydiau, yw rhai o gymhariaethau Nebo (Cysgu fel seithennyn / cyn boddi mewn / gelli gandryll / o lyfrau) ac mae’n anodd weithiau gweld union effaith torri’r llinellau yn un gair ar y tro – gall hyn mewn gwirionedd wneud y gwaith o guddio ymadroddion sydd braidd yn brin o farddoniaeth:
Y daith yn tynnu
i’w therfyn
a’r bennod
ar fin
dod i ben.
Mae Harry Beck yn cynnig syniad gwreiddiolach nac eiddo’u cydymgeiswyr. Ceir yma ddilyniant o bedair cerdd wrth i’r bardd ‘newid’ rhwng gwahanol leins ar rwydwaith drenau tanddaearol, gan fapio, yn ôl labyrinth yr underground, daith y llefarydd o Gymru i Lundain ac yn ôl. Synhwyrwn mai un sy’n gyfarwydd iawn â’r ddinas yw llais y cerddi; un a fu’n byw neu’n gweithio yma yn y gorffennol. Trwy lygaid astud yr arsyllwr hwn, cawn reiat amryliw o gyfeiriadau at leoliadau a chymeriadau’r mannau y mae’n ymweld â nhw; a sylw penodol i olion a dylanwad y Cymry yma ac acw – o Duffy, i Cynog Dafis i ‘Big Ben’ ei hun: Syr Benjamin Hall. Yn y gerdd ‘Piccadilly’ cawn fawl i’r gŵr a rydd i Harry Beck ei ffugenw – y drafftsmon a luniodd am y tro cyntaf y mapiau deiagramatig cyfarwydd hynny o orsafoedd Llundain:
Hwylusydd,
A thywysydd i ni’r tyrchod tanddaearol
Dan balmant bras prifddinas.
Dyma fardd â gweledigaeth unigryw, a chryn hyder a chwareustra ieithyddol wrth geisio gwireddu’r hyn yr oedd am ei gofnodi (‘cwmpeini dryw [triw?] / i griw’r Tiwb: unigryw wyt’). Does dim eiliad ddiflas yng ngherddi Harry Beck, yn sicr, ond hwyrach mai’r brwdfrydedd a’r cyflymder hwnnw sy’n achosi i’r trên adael y cledrau ar adegau hefyd – mewn sawl man, mae swmp y cyfeiriadau yn medru llethu’r darllenydd, neu linellau’n ymestyn yn rhyddieithol, orddisgrifiadol rhagom:
A thu hwnt i Whitechapel, ymlwybra’r District at y dwyrain draw.
Ond yma’n Westminster (er treigl tri degawd, a mwy,)
Unir y melyn a’r gwyrdd ar fap: yn gennin Pedr o atgof cynnes ...
Serch hyn, dyma lais cynnes, diffuant, ddaeth â rhywbeth newydd i’r gystadleuaeth hon.
Mae Beetroot, Nebo a Harry Beck gyfuwch â’i gilydd, reit wrth droed y gadair.
Bardd ydi Broc Môr, wedyn, sy’n gwrthddweud fy nisgwyliadau a’m gobeithion i fel beirniad; oherwydd y testun a ddewiswyd ganddynt yw ‘newid’ ei hunan, fel cysyniad – ac nid rhyw ymgorfforiad o newid, neu sefyllfa gyda newid yn rhan ohoni. Yn reddfol, rydw i’n tueddu i feddwl fod ar gerddi llwyddiannus mewn cystadleuaeth fel hon angen y sefyllfa ddiriaethol honno – ymwneud pobl benodol â’i gilydd neu’r byd o’u cwmpas a dweud sy’n hoelio fy meddwl i ar bethau cadarn, hyd yn oed wrth ymdrin â syniadau mawr, haniaethol. Ond fel hyn y mae cerdd Broc Môr yn agor:
Nid yw newid yn curo ar y drws.
Mae’n troi’r clo’n dawel
ac yn symud y dodrefn
tra byddwn ni’n cysgu.
Mae rhywbeth hunanfeddiannol, mesuredig a doeth am ddull Broc Môr o ganu. Nid mewn delweddau newydd a llachar y mae camp y gerdd hon – yn wir, ar ryw olwg, mae’r rheiny’n eithaf treuliedig (cwrs afon a chylchdro tymhorau yn arwyddo treigl amser, er enghraifft) – ond yn y modd y’u defnyddir, ac fel y tynnir sawl syniad ynghyd ym myfyrdod y bardd ar newid. A chan y bardd hwn, heb os, y ceir clo mwyaf trawiadol a dyrchafol y gystadleuaeth:
Ac yma –
ar drothwy’r hyn nad yw’n sicr –
mae newid yn sefyll
nid fel gelyn,
ond fel garddwr,
â phridd dan ei ewinedd,
yn gwenu’n dawel
wrth blannu’r nesaf ohonom.
Er y gallwn fod wedi dadlau’r achos dros gadeirio Beetroot, Harry Beck neu Nebo, mae ymgais Broc Môr yn arbed cryn hollti blew ar fy rhan i, gan i mi gael fy swyno fwyfwy gan hyder tawel y bardd hwnnw gyda phob darlleniad; a Broc Môr, felly, ydi bardd cadair Y Ffôr eleni.
*Cystadleuaeth y gadair – y cerddi eraill
Ffugenwau’r un ymgeisydd yw Gwynfor, Mererid a Gwawr; ac rydw i wedi derbyn o leiaf ddwy o’r cerddi hyn i gystadlaethau eraill yn ddiweddar. Tydw i ddim yn or-hoff o’r math hwn o ailbobi, ond mae perffaith hawl i wneud. Yr hyn a olygir gan y penderfyniad, fodd bynnag, yw ei bod hi’n amlwg iawn nad at y testun hwn yn benodol y cyfeiriodd y bardd eu cerdd/i; cerddi cyffredinol yw’r rhain, y gwelwyd bod modd cyfiawnhau eu cyflwyno ar y testun.
Roedd cerddi Pencoed yn un dryswch mawr i mi. Nid oeddwn yn hollol siwr a oeddwn i fod i ganfod cysylltiad rhwng y pedair cerdd unigol, neu ai myfyrdodau cwbl ar-wahân ar wahanol fathau o newid oedd yma. Credaf fod Pencoed yn ceisio llunio cyffyrddiadau cynganeddol – ac yn llwyddo weithiau (‘Natur â’i dawn naturiol’, ‘i ŵr, heliwr yr heli’) – ond os mai dyma’r bwriad, mae’r gynganedd ychydig yn bell o afael y bardd i’r syniadau a fynegir fod yn huawdl a dealladwy.
Byddwn wedi gwerthfawrogi isdeitl, neu gliw o leiaf, wrth frig y casgliad mydr ac odl hyderus a gafwyd gan Pendyffryn. Synhwyrais fod rhyw hanes yma, a bod y cerddi o ganlyniad yn bachu ar yr hanes hwnnw – mae’n amlwg fod 21 Medi 2024 yn ddyddiad arwyddocaol yn hynny o beth, a bod Pendyffryn hefyd yn lleoliad o bwys i’r cerddi. Yn anffodus (er i mi wneud ychydig o waith ymchwil), ni allwn ddod o hyd i’r cefndir, ac felly mae’n ddrwg gen i ddweud i’r casgliad ddisgyn braidd yn fflat, a theimlo’n ailadroddus, er sicred y grefft, a thlysed ambell bennill ac ymadrodd.
Mae cynnig Onnen yn rhy fyr i gael ei ystyried o ddifrif fel ymgais am y gadair. Er nad oes yn rhaid i feirdd ymestyn hyd y 100 llinell llawn a ganiateir; mae disgwyl eu bod yn defnyddio’r cynfas ehangach i lunio rhywbeth mwy uchelgeisiol, o leiaf, na cherdd y gellid bod wedi ei chyflwyno yng nghystadleuaeth y delyneg. Cerdd syml y gellir ei dychmygu’n gweithio’n dda fel cân sydd gan Onnen:
Mae’r byd yn newid pob dydd,
yn [ll]anast bom,
yn brofedigaeth newydd,
yn fynydd o rwbel
nad oedd yno ddoe.
Mae’r ail bennill yn cyferbynnu trwy gynnig delweddau mwy gobeithiol. Dyma waith diffuant, heb os.
Hanes unigolyn sydd wedi eu taro gan gyflwr sy’n achosi nam ar eu golwg a gawn yng ngherdd Gweld y newid. O gyfnod plentyndod, cawn ddisgrifiad o ‘allu gweledol’ y llefarydd yn datblygu ac yn mireinio, o’r ‘Chwiliais, edrychais’ cyntaf un wedi’r geni, nes cael teithio’r byd yn oedolyn a synnu ‘at ysblander euraidd Eglwys San Pedr / at gywreinrwydd gorchestol y Coliseum’. Clywn wedyn am y clafychu, a’r gobeithio am roddwr organau er mwyn gallu derbyn trawsblaniad cornbilen er mwyn adfer y golwg. Annwyl iawn yw’r mynegiant o ddiolchgarwch – a pheth euogrwydd hefyd – am gael gweld eto, a rhyfeddu drachefn at y byd. Er fod y pwnc yn un dirdynnol ac angerdd y bardd yn amlwg, pentyrrog ac anfarddonol yw’r dull yn amlach na pheidio:
Dysgais
am achubiaeth annisgwyl.
Llywodraeth Cymru f’achubiaeth.
Newidwyd Deddf,
newidwyd disgwyliadau,
newidwyd y geiriau,
newidiodd popeth.
Hwyrach y byddai Gweld y Newid wedi cael gwell hwyl ar fynegi’r hyn oedd ganddynt i’w ddweud ar ffurf rhyddiaith.
Mae ymgais Tatws yn gerdd mor chwerw â’r coffi sy’n chwarae rhan ganolog ynddi. Golygfa mewn siop Costa sydd yma, wrth i gymeriad ‘archebu, ynteu frefu / Caramel iced latte for me please’. Rhyw ddrama fach rhwng y mewnol a’r allanol sy’n dod wedyn, wrth i’r cymeriad hwn ddisgwyl am y baned. Credaf mai’r hyn sydd yma yw beirniadaeth ar ragrith yr unigolyn sydd, mae’n debyg, â syniadau penodol am y siop goffi hon a’i Seisnigrwydd – ond nad yw chwaith yn fodlon gwneud protest o’r sefyllfa trwy archebu yn Gymraeg. Tro’r gerdd yw mai ‘Diolch, dydd da iti’ yw’r cyfarchiad gan y gweinydd y tu ôl i’r cownter, gan wyrdroi’r disgwyliadau. Gwendid y gerdd yw nad yw hyn yn gwbl glir; mae’r mynegiant, er yn gofiadwy a thrawiadol ar adegau (‘baner wen mor chwydlyd o felys â’r hufen sy’n boddi dy ddiod’), yn llithro’n ormodol i’r niwl.
Y newid a welwyd ym mro’r llefarydd yw byrdwn cerddi Gwyliwr. Maent yn gweld fel y bu Eryri unwaith ‘yn gaer i’n cadfridogion’ – yn fur daearyddol oedd yn gwarchod yr iaith cyn i ‘donnau swnami / sgubo dros ei chopaon’. Delwedd frawychus yw hon, a wnaeth i mi feddwl yn gyntaf am yr argyfwng hinsawdd yn fwy nag argyfwng iaith; mae’r ddau yn gysylltiedig, wrth gwrs. Yn yr un modd y gwêl ‘Lleyn’ (sillafiad Seisnig bwriadol, mae’n debyg) yn yr ail gerdd, ac mae’r diweddglo yn anobeithiol a thywyll wrth weld gadael y fro ‘yn sgerbwd bregus / heb dyrau dy gymreictod’. Cerdd gryfaf Gwyliwr yw ‘Gobaith’, yr olaf yn y casgliad, lle daw newydd-ddyfodiad – cymar efallai – sy’n cofleidio hunaniaith ac iaith yr ardal, gan wrth-ddweud ofnau’r llefarydd:
Llithraist yn dawel i’n haelwyd ni
A chofleidio ein traddodiad.
Gwisgaist ein hesgidiau,
Gwelaist y gwahanfur oedd rhyngom
Ac ymrwymaist i oresgyn ein dieithrwch [...]
Byddai mwy o’r tynerwch hwn i’w groesawu yn y cerddi agoriadol, sy’n medru teimlo’n bregethwrol, braidd.
Mae Mostar yn dod yn agos at griw goreuon y gystadleuaeth – tybiaf wrth y llais mai’r un bardd â Harry Beck sydd yma, ond hwyrach fy mod yn anghywir. Ymdeimlais yn fawr â’r sefyllfa – sef rhai a fu’n gyfeillion mynwesol ar un adeg sydd bellach wedi ymbellhau, a rhyw dawelwch dienw wedi tyfu yn y gagendor rhyngddynt. Yn ‘Golff’, y gerdd gyntaf, defnyddir y clubhouse caeedig fel trosiad o’r berthynas rhwng y ddau ffrind:
Ond, ers sbel fach nawr, synhwyraf absenoldeb
yn hen clubhouse clud ein cwmniaeth.
Tawelwch, yn niffyg neges destun;
gwacter, lle bu gwahoddiad;
a drws yn glep
ar fwyniant y blynyddoedd cynt.
Mae’n aneglur i mi a yw ‘Pontydd’, ail gerdd Mostar, yn cyfeirio at yr un berthynas neu gyfeillgarwch wahanol (gan fod datrysiad o fath, os ydw i’n deall yn iawn, ar ddiwedd y gerdd gyntaf), ond yr un syniad sydd yma eto – a’r bardd y tro hwn yn ymwelydd â thref Mostar ym Mosnia a Hertsegofina, lle chwalwyd pont fwaog hardd ‘yn erchyllterau’n Nawdegau ni / gan rannu’r dref gyfan, yn ddau’. Gobaith y bardd yw, os gall y ‘glannau gelyniaethus’ ym Mostar rhynddynt godi pont, y gall y ddau ffrind wneud yr un fath. Gor-ganu’r syniad, gan arwain at aneglurder, sy’n atal y bardd hwn – sy’n amlwg yn alluog – rhag dod i safle uwch yn y gystadleuaeth.
Englyn - ‘Cof’
Daeth deuddeg englyn i law, ac mi ges i fy mhlesio gan mor uchel oedd safon y gystadleuaeth ar y gwastad – pe’u rhannwn yn ddau ddosbarth, does dim llawer o’r englynion na fyddent yn cyrraedd y cyntaf, mewn gwirionedd.
Yn anffodus, mae llinell agoriadol englyn Y Blawd Hwdini yn wallus – ‘Oer yw lludw’r llwydni’. Ymgais agos iawn ati ar groes-o-gyswllt sydd yma – ond byddai angen ateb yr ‘n’ yn ‘llwydni’ i’w chywiro. Y tu hwnt i hynny, mae yma ddweud grymus a thrawiadol:
Gardd o lwch a welwch chi,
Blodau lle’r oedd bwledi.
Pâr o englynion i’w cymryd gyda’i gilydd yw cynigion Mwsogl, sy’n cyferbynnu ‘diwrnod gwael’ a ‘diwrnod gwych’ yng nghyd-destun ‘Cof’. Dengys yn effeithiol beth mor chwerwfelys yw effaith dwyn i gof yr hyn a fu – gall fod yn rhywbeth sy’n ein tynnu i lawr, o dan y don, neu os yw’r atgofion iawn yn brigo:
cawg o leisiau croesawgar;
stŵr sgwrs fy hen filltir sgwâr.
Mae angen bod yn wyliadwrus gyda llinellau fel yr olaf yma nad oes yn rhaid pwysleisio’n rhy fwriadus wrth ddarllen er mwyn i’r gynghanedd weithio. Yn sicr, mae’n rhaid sgipio’n go gyflym dros ‘fy hen filltir’ os am dderbyn y llinell fel y mae, h.y. cynghanedd sain gyda stwr/s gwrs yn ffurfio’r odl. Os mai cynghanedd draws a fwriadwyd, yna mae ‘s’ heb ei hateb ar ddechrau’r llinell, ac mae’r curiad yng nghanol y llinell yn dal i dynnu sylw ato’i hun.
Adeiladodd Rhidyll eu henglyn at linell glo ardderchog – oherwydd hynny mae’n anorfod fod gweddill y pennill yn pylu ac yn ymddangos braidd yn gyffredin yn ei hymyl! Ond dyma fynegiant digon arswydus eto o sut y daw’r cof i’n hawntio, ac fe gynhelir y syniad fod ‘sŵn’ i’r cof o’r dechrau hyd y diwedd – mae’n ‘gân alaeth’ ac yn ‘arswyd amhersain’, ac yna’n
hen synau sy’n atseinio
fel cnocell yng nghell fy ngho’.
Syniadaeth ddigon tebyg i Mwsogl, hefyd dros ddau englyn, sydd gan Gwyn, ond mae englynion yr ymgeisydd hwn yn llifo ychydig yn rhwyddach, a’r dweud rhywsut yn adleisio o un englyn i’r llall gan eu gwneud yn gyfosodiad effeithiol iawn. O’r ‘hiraeth hir-dymhorol / am hen oes na ddaw mwy’n ôl’ yn yr englyn cyntaf, symudwn at ryw gofio mwy bwriadol-gadarnhaol yn yr ail:
Heddiw ni fynnaf gladdu y dyddiau
dedwyddaf. Fe ddeffry’r
hen amser, a goferu
i ail-fyw yn ôl a fu.
Roedd hi’n braf cael ambell englyn ysgafn i dorri ar y myfyrio dwys, a dyna a gafwyd gan Maggie. Twyllodrus o grefftus yw pennill o’r fath, sy’n ymddangos mor ffwrdd-â-hi ar y wyneb:
Ni wn i beth yn union – ddigwyddodd
i guddio’r cyrff meirwon.
Nid y fi wnaeth fynd i Fôn,
a niwlog yw’r manylion.
Roedd englyn Cae yn yr un ... cae, ond bod yr ysgafnder yn fwy swreal:
Eiliadau i dyfu blodyn. Munud
i hwsmona mochyn.
Dwy awr i fwydo pob dyn.
I fforddio eiddo, blwyddyn.
Fe’m hatgoffodd o gymarebau sy’n enghreifftio, dyweder, hanes y ddaear pe byddai hanes y ddaear yn un diwrnod pedair awr ar hugain. Hynny yw, yr hyn a ddywedir yma yn y bôn yw bod fforddio eiddo yn agos at amhosib. Gwreiddiol iawn.
Rhiant yn colli gafael yn ei chof sy’n ganolog i englyn Mab:
Heibio i bob ymwybod, yn ei niwl
mae ’na iaith yn datod,
a’i doe sydd yn mynd a dod
o afael min ei thafod.
Dyma ymgais grymus, lle mae’r iaith a ‘ddoe’ y cymeriad yn gwbl annatod – ac wrth i’r naill ddadfeilio, felly’r llall hefyd. Ac rydym mewn byd tebyg yn englyn Pensynnwr, ond miniogrwydd y cof sydd fel maen melin y tro hwn, yn hytrach na cholli gafael arno:
Ei gysur yw segura’n ei oes aur,
ond suro wna’i wynfa
o ailchwarae’r dyddiau da
â dim o’i ffrindiau yma.
Mae hyd yn oed dianc i felystra’r gorffennol yn chwerwi wrth sylweddoli mai atgof yn unig ydyw, a bod cwmni bore oes wedi mynd o un i un, gan adael y cymeriad hwn yn ynysig, er ei fod yn ôl pob tebyg yn ei ‘oes aur’. Dirdynnol iawn, eto.
Annisgwyl a heriol oedd ymgais Ailgylched, sy’n cicio yn erbyn Amod 9 yn rheolau’r eisteddfod hon, sef na chaniateir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial wrth lunio cyfansoddiadau ar ei chyfer:
Nid un neis yw Amod 9, y gwahardd
rhag AI, ein canllaw
i ddoe helaeth beirdd hylaw:
gwreiddiol OEDD y gerdd ail-law.
Er fy mod yn saff fod tafod Ailgylched wedi’i sodro’n dynn yn eu boch, mae yma ar ryw lefel gwestiwn difyr am yr hyn yr ystyriwn yn newydd ac yn wreiddiol, yn enwedig mewn oes lle mae’n anodd iawn profi’r naill ffordd neu’r llall, a’r ffin rhwng dylanwad a llên-ladrad yn niwlog a symudol. Hoffais yr ymgais pryfoclyd hwn, a newydd-deb y trawiadau – gan ymddiried yn llwyr yng ngonestrwydd Ailgylched, ac mai trawiadau dynol ydynt!
Aeth englyn Larry i frig y pentwr ar y darlleniad cyntaf:
Holi Taid? Na, haws peidio. Er ei oed,
be ŵyr hwn? A heno,
yn ddi-hid yn ei wydd o,
yn y gwagle, dwi’n Googlo.
Cefais y mynegiant hwn o ddifaterwch (nad yw’n ddifaterwch llwyr, wrth gwrs, gan fod y llefarydd yn llawn sylweddoli’r eironi erbyn lleisio’r profiad), a’r syniad fod y taid yn yr olygfa bron fel hen ddyfais nad oes obaith ganddo ddarparu’r math o lifeiriant gwybodaeth diddiwedd a ddaw o’r peiriant chwilio, yn affwysol o drist. I mi, daw troad mwyaf effeithiol yr englyn rhwng y llinellau olaf – ‘yn ei wydd o, / yn y gwagle’ – lle cyfaddefir fod bod ym mhresenoldeb yr hen ŵr gyfystyr a bod mewn gwagle, mewn faciwm.
Hon oedd cystadleuaeth orau’r adran farddoniaeth eleni, heb os, ac roedd y crafu pen wrth ddidoli’r tri uchaf yn grafu pen o’r math gorau! O ryw fymryn, rydw i’n cadw Larry ar y brig, lle glaniodd yr englyn o’r cychwyn – rhwng y lleill, mae hi’n agos iawn. Y tro hwn, ac yn ôl chwaeth y beirniad hwn yn unig, Ailgylched sy’n ail, a Pensynnwr yn drydydd – gyda gwaedd ychwanegol o ganmoliaeth i englynion Cae, Maggie a Mab.
Telyneg - ‘Llais’
Cerddi’r un ymgeisydd, neu ymgeiswyr tebyg iawn i’w gilydd, yw gwaith Dilys, Gwawr a Myfanwy. Penillion telyn hiraethus a thraddodiadol eu cywair yw’r rhain – Dilys yn hel atgofion am ‘ffatri laeth Pont Llanio’, Myfanwy am y pyllau glo lle cofiant eu cyndadau ‘yn mynd i’r dyfnder du’; a’r cryfaf o’r tri o ddigon, ymgais Gwawr ar baentio darlun o’r machlud mewn tref glan môr – Aberystwyth, o bosib, o ystyried y cyfeirio at y ‘lleisiau ffraeth undonog’ sy’n llunio ‘dawns / ar siawns uwch bae patrymog’. Mae yna gryn dlysni ym mhenillion Gwawr, ac nid ar chwarae bach y cynhwysir odl gyrch ym mhob pennill; ond rhaid gwylio i hynny beidio maglu gormod ar y dweud (‘Pan yno beintia’r dŵr mewn chweil / Yn rhuddgoch, fel y ddeilen’).
Cerdd deimladwy yw ymgais Merch annwyl, sy’n ystyried cadair sy’n aros ‘yng nghornel y stafell / Yn atgof, yn brociwr.’ Down i ddeall mai cadair perthynas i’r llefarydd (rhiant, mae’n debyg) a fu farw yw hon, a bod y llefarydd hwnnw’n methu’n lân â mentro i eistedd ynddi. Yn dilyn diagnosis o gancr, a chyfnod gobeithiol (‘Dychwelyd i’ch bywyd llawn bwrlwm’), clywn sut yr ailddarganfuwyd y clefyd yn y pancreas cyn yr ailglafychu a’r brofedigaeth. Mae clo Merch annwyl yn dyner-obeithiol, ac yn ein tywys yn ôl at ‘lais’ y testun:
Rhywbryd fe eisteddaf
Yn ei chôl
I’ch clywed eto.
Er y dwyster diffuant, mae hon yn gerdd a deimlai braidd yn hirwyntog i gymryd ei lle yn gyfforddus yng nghystadleuaeth y delyneg, ac mae’r mynegiant yn afrwydd mewn sawl man, yn enwedig wrth geisio ymgyrraedd at odl.
Yma y cawn fod y gystadleuaeth yn ymrannu’n ddwy, a’r hanner sy’n weddill yn codi i dir cryn dipyn yn uwch.
Cryfhau wrth fynd rhagddo y mae telyneg hen-ffasiwn (yn y ffordd orau) Hiraethus, sy’n sôn am y cof yn diffygio wrth gyrraedd ‘oed addewid’. Pe byddai pennill cyntaf Hiraethus mor slic â’r ail, mae’n debyg y byddent wedi codi o leiaf un safle. Tra bod ôl straen ar ambell linell yn y bennill agoriadol wrth geisio taro’r odl (‘’Roedd teithio nôl mewn amser / Fel troedio ar wyn ôd’), mae’r ail hanner yn llifo’n gwbl naturiol:
Ond pan gyrhaeddais lwybr,
Lle bûm yn cadw oed,
’Roedd llais o’r garreg ateb
Mor fywiog ag erioed.
Gan Ifs y daw trawiadau mwyaf cyfoes y gystadleuaeth – ac mewn ffordd, y telynegu tynnaf. Cerdd gryno yw hon, o safbwynt rhiant sydd yn hyrddiau’r galar amrwd o golli mab – synhwyrwn fod y golled honno o ganlyniad i gyflwr ei iechyd meddwl. Cawn ddyfyniad gan Liam Gallagher wrth frig y gerdd:
Playing the guitar on my own ... alone ... but someday, gonna be heard.
Ac mae’n amlwg mai dyma oedd cysur a mynegiant y mab hwn wrth geisio torri trywydd trwy dywyllwch ei fyd yntau:
Strymio galarus gitâr,
a chordiau Oasis
yn seinio unigedd dy fyd [...]
Mae’r ‘acwsteg yn ingol’ ac yn adleisio ‘sen / y rhai sy’n mynnu / byddaru’ – mae’r rhiant yn gweld mai dyma gri’r bachgen i gael ei dderbyn am bwy ydyw, a chael teimlo’i fod yn perthyn. Ond daw hynny’n rhy boenus o hwyr gyda’r sylweddoliad fod y rhai fu’n ei ddilorni bellach, am y tro cyntaf, am sylwi arno’n iawn. Mae’r dweud yn foel a diwastraff, a’r bardd yn llwyddo i gynnal y ddelweddaeth gerddorol ar hyd y delyneg. Mae’r llinellau hyn yn y pennill olaf yn arbennig, yn drawiadol iawn:
A heno, fy mab,
plycio’n galed mae plectrwm dy boen
ar linyn calon mam [...]
Mae penillion Brynglas yn canu â hyder di-herc:
Mae’n ddistaw yma heno,
ni chlywir gŵyn y gwynt,
aeth sgwrs y cwsmer olaf
ers dwyawr ar ei hynt.
Siop ‘a oedd yn galon / cymuned ger y traeth’ sydd yma – ‘oedd’ yn mynd â ni i’r gorffennol am fod hon yn siop sydd wedi cau am y tro olaf. Mae rhyw ‘newid byd’ wedi dod, a hwnnw’n ddienw – ymddiried Brynglas ynom i lenwi rhai bylchau, ac mae hynny’n nodweddu ysgrifennu telynegol da, i’m meddwl i. Bwlch rhy llydan i’r darllenydd hwn, fodd bynnag, oedd ceisio deall ymddangosiad yr ‘Un’ [priflythrennog, gan awgrymu’r Dwyfol] mwya sydyn yn y pennill olaf. Trois ar fy sawdl yn f’ôl at frig y dudalen, gan feddwl fy mod wedi camddarllen, ac mai cerdd am gapel yn cau sydd yma; ond does dim digon i awgrymu hynny.
Diflannodd bwrlwm bellach,
ond pery Un o hyd
i sibrwd geiriau gobaith
a derbyn breichiau’r byd.
Mae’n sicr yn gelfydd, ac mae rhyw gyfriniaeth yma sy’n gwneud i mi deimlo fod y bardd yn sicr o’u pethau, ond cefais drafferth dal gafael yn hanfod y delyneg. Ymddiheuriadau i Brynglas, os methais â’u deall. Maent ymhlith y safleoedd uchaf, waeth beth am hynny.
I Dyndyrn yr awn yn nhelyneg Afon Gwy. Mae rhywbeth o ‘Ffrind’, soned anfarwol gan Gerallt Lloyd Owen, yn yr alarnad fach hon, wrth i’r llefarydd gofio cyfarfyddiad penodol, mewn man penodol, am amser penodol, gyda gwrthrych ei gerdd – a deall, gyda blynyddoedd yn rhes rhyngddynt a’r ennyd honno, fod y ferch honno, Julie, wedi marw.
Julie
Mae dy lais di
Yn dawel heddiw, wrth lannau Tyndyrn;
Yng nglân dincian Afon Gwy
Sy’n llapio’n dawel. Adlais wyt,
Yn hen waliau’r Abaty [...]
A thrwy fynd â ni i Abaty Tyndyrn, mae Afon Gwy yn rhoi eu hunain mewn sgwrs â neb llai na William Wordsworth, a ddaeth heibio ar dramp un dydd o haf 1798 a esgorodd, maes o law, ar gerdd – ‘Lines Written a Few Miles above Tintern Abbey’. Mae llefarydd y gerdd hon yn llawn ymwybodol o’i bresenoldeb heddiw, hyd yn oed:
Tybed beth wnâi’r hen fardd
O’n dedwyddwch ni: dau ddieithryn,
Yn cyfrin gwrdd, yn y coed
Am ryw ddwy awr, ddeng mlynedd yn ôl?
Cusanu’n unig, cyn inni adael [...]
Yr hyn a wna’r bardd yn feistrolgar o fewn ychydig linellau yma yw ystumio amser a graddfa i bob cyfeiriad – ymestynna ganrifoedd i’r gorffennol at rywun a fu unwaith yn yr un man daearyddol; deng mlynedd, hefyd, i’w orffennol ei hun, a thynnu’r elfennau hynny amdano i grynhoi’r cyfan o amgylch y gusan untro, cyn i’r ddau fywyd fynd rhagddynt i’w cyfeiriadau cyferbyniol eu hunain, heb obaith ailuno. Daw’r delyneg yn grefftus yn ei hôl i’w man cychwyn, wrth i’r llefarydd ailgrwydro’r mannau cyfarwydd
A chanfod dy lais
Am byth, yn sisial dail
A chân yr adar
Ar dyner lannau Afon Gwy.
Nid yw telyneg Afon Gwy, mae’n wir, y fwyaf caboledig ddaeth i law; byddwn yn gweithio rhai llinellau eto – gallai fod dwtsh yn fyrrach hefyd, o gynilo rhywfaint yng nghrombil y gerdd. A byddai angen rhoi sylw pellach i ramadeg, a threigladau’n enwedig, cyn y gallai ymddangos mewn print. Eto, ac er gwaethaf y pethau hynny, nid oedd yr un gerdd yn y gystadleuaeth a’m cyffyrddodd i’r un graddau; ac am hynny, gallaf faddau llawer.
Afon Gwy sy’n arwain y ffordd, gydag Ifs yn ail a Brynglas yn drydydd.
Limrig - i gynnwys y llinell ‘yr oeddwn yn wir wedi dychryn’
I osod y cart o flaen y ceffyl am eiliad, dyma ddatgan fod teilyngdod yn y gystadleuaeth hon, yn dilyn fy mhenderfyniad dadleuol i atal y wobr yng nghystadleuaeth y limrig yn Eisteddfod Llanaelhaearn, a yrrodd si o anghrediniaeth hyd Ganolfan y Babell.
Mae angen i Croes ddychwelyd at eu cynnig er mwyn unioni’r mydr. Mae rhythm limrig yn bwysig iawn – ac yn rhan o’r hyn sy’n cyfrannu at ysgafnder neu ddoniolwch y mesur. Gwrandewch ar limrigwyr Y Talwrn i gael syniad o’r hyn a ddisgwylir, ac ailweithio llinellau fel ‘Wrth weld y ficer yn noethlymun’ ac ‘A’i floneg yn wir fel toes’. Mae’r syniad yn un digon doniol, os braidd yn anwreiddiol.
Mae Fflur, Alaw, Betsan a Sioned yn haeddu rhyw fath o wobr cyfraniad arbennig, gan mai un ymgeisydd yw’r bedair, a’r bedair rhyngddynt wedi cyflwyno ugain o limrigau ar y llinell osod. Mae hwyl i’w gael yng nghwmni rhai o’r penillion hynny, ond roedd hi’n anodd peidio teimlo y gallai’r awdur, o lunio llai ohonynt, fod wedi rhoi mwy o sylw i daro’r ergydion yn lân. Mae nifer ohonynt hefyd yn troedio tir cyfarwydd iawn ar faes y limrig – roedd hi’n braf cael cwmni gwraig y ficer, serch hynny. Yn wrthrychol, efallai mai limrig Alaw am y ‘ddau ddyn o Ruthun’ yw’r mwyaf llwyddiannus o ran nodweddion y ffurf – dydi hi ddim yn limrig yr ydw i ar frys i’w hailadrodd ar goedd, fodd bynnag.
Mae ymgais Y Blawd Hwdini yn chwarae ar y syniad o fethu treiglo; gwnaeth hynny’n ddigon twt ond mae’n hen syniad erbyn hyn, a hen dderwen Caerfyrddin sy’n ‘gwarchod y dref / rhag bygythiad o lif gan ’rhen Myrddin’ yw ysbrydoliaeth limrig hanesyddol Mesen. Roedd tro trwstan meddwol Twpsyn yn gynnig digon derbyniol hefyd.
Mae Wayne Rooney a Bwci Bo wedi anelu eu limrigau yn syth at dalcen y beirniaid – ia, limrigau amdana i ydyn nhw! Er bod Wayne Rooney yn hynod sylwgar wrth gyfeirio at y ffaith fod gen i ‘goesau go fain’ a bod hynny’n odli’n gyfleus iawn â fy nghyfenw, ac wedi codi gwên gydag abswrdiaeth eu sefyllfa, credaf mai Bwci Bo gafodd yr hwyl orau arni:
Synhwyrais fod un yn fy nilyn,
Yr oeddwn yn wir wedi dychryn,
Roedd e’, Iestyn Tyne,
Ar feic, oedd heb tsaen,
Yn pedlo fel diain, a gwneud englyn.
Mae limrig Crwydryn yn un bach digon clyfar, gan fod ergyd yr englyn yn y weithred o’i llunio:
Wrth chwilio am odl i gychwyn
Yr oeddwn yn wir wedi dychryn,
Ond ddisgwyliais i fyth
Ffeindio’r awen yn syth
Ar y bws o Gaergwrle i Sychdyn.
Ymgais crafog gan Llygad Dyst wedyn:
Yr oeddwn yn wir wedi dychryn
Pan glywais am ’steddfod yn Brooklyn,
A Trump gyda’i gledd
Yn ymbil am hedd,
Â’r dyrfa yn gweiddi ‘dihiryn’.
Rhwng y tri a ddyfynwyd y mae hi, er nad yw’n gystadleuaeth arbennig o gofiadwy – Bwci Bo yn gyntaf, Llygad Dyst yn ail, a Crwydryn yn drydydd.