Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn 2025 - beirniadaethau llên
Cystadleuaeth y Gadair - Cyrraedd
‘Cyrraedd’ oedd y testun, a chyrhaeddodd saith o gerddi neu gasgliadau o gerddi i’w cloriannu. Roedd hi’n gystadleuaeth amrywiol – o ran cynnwys, arddull ac ansawdd. Ymdriniaf â hwy ym mras drefn eu teilyngdod, o’r gwaelod i’r top.
Cerddi o fawl i genhadon yw dilyniant Mòrar, ac mae’n deg dweud y cefais drafferth gyda’r rhain. Gall cyfeiriadaeth fod yn arf defnyddiol – ond canlyniad ei orddefnyddio yw cerddi trofaus a thrymaidd, ac fe ges i ormod o bwdin, a thagu. Mae’n rhaid i mi hefyd gwestiynu i ba raddau y mae’r diffyg cymhlethdod yn yr ymdriniaeth o genhadon Cristnogol o Gymru yn teithio i India yn gydnaws ag ymwybyddiaeth yr oes sydd ohoni; yn enwedig wrth ystyried sut y mae’r bardd hwn ar brydiau’n cyfleu’r ‘arall’. Rhydd y llinellau a ganlyn argraff o ansawdd a moeseg y canu:
Poenus ei chamrau dan bwysau’r gwres,
ei bochau’n chwyddiedig, ei nerth yn ddiflanedig –
troes yn llwybr-colledig o fodolaeth dreuliedig
ymhlith cydwaladwyr mewn pellennig
wlad, dieithriaid
na lefarent fel hi gynildeb na chariad na dealltwriaeth [...]
Mae Plentyn cael yn gwneud ymgais gyda’r ffugenw i gyfieithu’r term ‘foundling’ – hynny yw, plentyn a adewir gan riant neu rieni gwaed i’w ddarganfod a’i fagu gan eraill. Dyma sy’n gefnlen i’r bryddest:
Oeddet, roeddet yn blentyn siawns.
Ond daethost yn blentyn cael.
Cael dy adael, cael dy ddarganfod, cael dy ymgeleddu.
Cyffes y fam ifanc sydd yma; merch a feichiogodd yn dilyn cael ei threisio a phenderfynu gadael ei babi yn lle cael erthyliad. Bellach, daeth y dyddiad y bydd y plentyn hwnnw a fabwysiadwyd gan eraill yn troi’n ddeunaw oed, a chyda hynny’r siawns y byddant am wybod hanes eu gorffennol. Nid fy lle i yw penderfynu ar ddilysrwydd y profiad a fynegir yma, ond o safbwynt beirniadol, tydi’r canu ddim yn arbennig o argyhoeddiadol. Wrth gwrs, profiad blêr ac ‘anfarddonol’ (yn yr ystyr draddodiadol) sydd yng ngherdd Plentyn cael, ond mae’r duedd i bentyrru llinellau pytiog, digyswllt yn flinder mewn cerdd mor estynedig.
Mai yr ail, dy ddyddiad geni.
A’r lleoliad arbennig,
y mangre ddewisiais i’th adael.
Ie, i’th adael.
Ond gwyliais o bellter y darganfyddiad,
y cynnwrf.
Teimlais foddhad, a gollyngdod,
diosg fy nghyfrifoldeb.
Ac felly ymlaen.
Cerdd wedi’i llunio o benillion telyn hiraethus eu cywair a gafwyd gan Merch y Mynydd, sy’n gosod y gwaith ar safle Capel Blaencaron, ar y mynydd ger Tregaron:
Mewn gwisg o ddillad carpiog llwyd
Yn edrych yn ddigalon,
Mae’r capel bychan ar y bryn
Lle unwaith bu oedfaon.
Disgrifiad sydd yma o addoldy sydd bellach yn adfail, ac yn yr adfeilio hwnnw, yn rhagweladwy ddigon, fe wêl y bardd drosiad o adfeiliad crefydd y Gymru Gymraeg wledig. Y ‘cyrraedd’ yn y gerdd hon, fe dybir, yw’r llefarydd yn cyrraedd y man lle deuai yn blentyn i addoli. Er bod yma grefft, ac nad yw diffyg newydd-deb ynddo’i hun yn beth gwael, teimlwn mai mynegiant uncyfeiriad a hirwyntog oedd yma i sentiment y gellid bod wedi’i gywasgu i delyneg fyrrach, gynilach.
Stori garu yw cerdd rydd Y Frân Wen, sy’n dechrau’n llawn rhamant wrth i ddau gariad ifanc gwrdd ar draeth; cawn wedyn awgrym o’u gwahanu trwy ‘swildod, diffyg trafod, coleg, / a bywyd’ cyn i’r un llwybrau eu haduno yn eu henaint, a hwythau bellach â phlant ac wyrion. Os yw’r bardd yn colli’i afael o bryd i’w gilydd, gall hefyd ganu’n atmosfferig, yn enwedig wrth greu argraff o arfordir deheuol Llŷn, Trwyn Cilan a meini Bytilith:
Fe dafla y golau o Gilan
ei lewyrch unwaith eto
tua’r Gorllewin,
i losgi brodwaith y Tylwyth Teg
ac i sychu eu gwlybaniaeth
oddi ar y rhedyn,
y bysedd cŵn a’r casnod
sy’n cynnal y cloddiau cerrig.
Tro mwyaf annisgwyl y gystadleuaeth oedd y newid wrth gyrraedd caniad olaf Y Fran Wên, sy’n carlamu mwyaf sydyn i benillion mydr ac odl comig wrth i’r cariadon ailfagu fflam ar yr hen aelwyd:
Wyddai neb ond hi ac yntau
Be’ ddigwyddodd fyny’r grisiau,
Ffawd fu’n ffeind, ni wnaeth neb ffeindio,
Pan ddaeth cyfle gwnaethon eto.
Nid crefft na chynnwys y penillion hyn oedd y rheswm i mi gael trafferth eu cymryd o ddifri, ond yn hytrach y whiplash prydyddol a gefais o’r newid cywair llwyr. Diolch am godi gwên ar ddiwedd ‘y siwrnai orffwyll’ gyda dychweliad ‘Dau oedd wedi hen wirioni / Nôl at wyrion a wyresi’.
Mae’r drindod o gerddi penrhydd a dderbyniwyd gan Meira yn nes at yr hyn y gobeithiwn ei gael gan un oedd am ennill cadair. Yr Atgyfodiad sydd yma, gyda’r cerddi wedi eu teitlo yn ôl tri lleoliad arwyddocaol: ‘Mynwent’, ‘Gwesty’, a ‘Tŷ’. Gyda’r penawdau amwys hyn, a moelni’r manylion a ddatgelir inni, mae ansawdd ddiamser i’r cerddi sy’n apelio’n fawr ataf. Fe’u gwerthfawrogaf yn bennaf am y dramâu bychan sydd ynddynt:
Rhith o ferch
yn ymlwybro
drwy’r cysgodion.
Gall Meira ganu’n ymatalgar-afaelgar; wedi dweud hynny, mae’r un mor dueddol o ganu’n llac a haniaethol:
Bwrlwm o ddryswch
mewn diffeithwch
o unigrwydd.
Byddai dangos hynny gyda delwedd neu weithred yn fwy effeithiol o’r hanner. Anwastad yw’r casgliad o’i gymryd yn ei gyfanrwydd, felly.
Fel mae’n digwydd y tro hwn, dau fardd caeth y gystadleuaeth yw’r ddau sydd ar ei brig.
‘Cyrraedd’, ac yna mewn cromfachau, ‘Haf 2025’, yw’r pennawd uwch casgliad Pilyn, sy’n mynd â ni i sawl cyfeiriad. Dyma fardd effro, sy’n tristáu at ffawd plant Gaza, dioddefaint ffoaduriaid, ac ymdriniaeth y wladwriaeth â phrotestwyr; mae’n cyfeirio hefyd at osod baneri Lloegr ar bolion, ac arlywyddiaeth Trump. Tu thraean olaf y casgliad, mae Pilyn yn gweld gobaith yng ngenedigaeth ŵyr bychan a chawn gip o hunanbortread y llefarydd ei hun yn y gerdd olaf – a’r unig gerdd rydd – ‘Rhybudd’, llefarydd sy’n ymwrthod yn ogoneddus â’i heneiddiad ei hun:
Dwi nawr yn ddigon hen
i wisgo porffor
a het goch sy ddim yn fy siwtio
a gwario’n arian ar frandi
a menyg haf [...]
[...] ond yn lle hynny
dwi’n herio fy mhenliniau
wrth ddringo mynyddoedd
a chwarae padel [...]
I ddwyn dweud da gan feirniad arall, Grug Muse, mae’n debyg mai’r hyn sydd yma yw casgliad o gerddi da, yn hytrach na chasgliad da o gerddi. Hynny ydi, mae yma ormod o flas pethau wedi eu tynnu ynghyd i ffitio’r testun; a doedd gen i ddim ymdeimlad cryf erbyn gorffen darllen o hanfod yr hyn yr oedd y bardd am ei ddweud. Byddwn wedi hoffi gweld mwy o gymysgu rhwng yr arsylwi newyddiadurol bron sydd mewn cerddi fel ‘Gaza’ ac ‘Y Môr’, a’r tynerwch personol a geir yn ‘Y Gobaith’ a ‘Rhybudd’. Codai hynny’r cyfanwaith i dir uwch a gosod y bardd, eu teulu a’u hamgylchiadau yn eu lle yn yr un byd â’r newyddion sy’n cael ei belydru o bell ac agos.
At hynny, fe deimlwn mewn sawl man i ramadeg a chystrawen y Gymraeg gael eu llurgunio at ddibenion cerdd dafod. Mae’r llinell agoriadol, ‘Un bychan gwag y bochau’, yn un enghraifft; ‘Un bychan gwag ei fochau’ y byddai rhywun yn dymuno ei ddweud (a gallai ‘Yn fach a gwag ei fochau’, er enghraifft, achub y gynghanedd hefyd); neu ‘er risg fwy yw’r wisg y fan / addoli’. Y gamp gyda barddoniaeth – o unrhyw fath – yw cydbwyso crefft a mynegiant; ni ddylai llinell gywir o gynghanedd ddigwydd ar draul cywirdeb iaith ac ystyr.
Serch hyn, does gen i ddim amheuaeth na fyddai Pilyn yn deilwng o’r gadair pe na bai Gwylan wedi cystadlu.
Mae gafael Gwylan ar y gynghanedd a’r mesurau caeth yn llawer sicrach – tybiaf mai bardd cryn dipyn yn fwy profiadol sy’n canu y tro hwn. Dwy gerdd – dwy awdl fer – a’u cwmpas a’u gweledigaeth yn llawer tynnach nac eiddo Pilyn, a gafwyd. Trwy gyfrwng cerddi i ddau o famaliaid y môr – y morlo a’r morfil – mae Gwylan yn cyfleu effaith gweithredoedd dyn ar gynefinoedd arfordirol. Yn ‘Cân y Morloi’, mae’r llefarydd yn un o griw sy’n ymweld ag Ynys Enlli, ac yn glanio’n drystiog a bostfawr:
Nid rhuddin pererinion oedd inni
ni ddenwyd ein calon
i herio dawns a berw’r don
ar alwad y gorwelion
gan naws ac awen oesoedd;
– ynys deg am loddest oedd!
Ond wrth i’r criw dethol fwynhau gwledda ‘yn yr haul dan wenau’r ha’’, daw crioedd iasol y morloi i’w haflonyddu; nodau sy’n peri iddynt deimlo fod ‘rhyw ias fain o’r oes a fu – yn y sŵn, / yn chwa o annwn i’n hamgylchynu’. Cyfleu neges y mae cân y morloi am yr ynys a’u cynefin fel y bu ‘cyn dyfod dynion’. Ac mae’r ail gerdd, ‘Morfil ar goll’ – sef y fwyaf trawiadol o’r ddwy – yn codi rhai o’r un ystyriaethau, ond mewn modd mwy ysgytwol oherwydd ei diriaeth creulon.
Darlunio corff morfil yn golchi i’r lan ger Porth Neigwl wna’r bardd, ac mae’r canu’n wirioneddol gofiadwy wrth wneud hynny:
Y mae yno fel mynydd,
a’i laniad ar doriad dydd
eisoes yn peri dryswch,
mewn dŵr bas, fel carcas cwch [...]
Aiff y llefarydd ati i fyfyrio wedyn am y grymoedd a yrrodd y creadur mawreddog hwn yn rhy agos i’r lan (‘Ai cynnwrf dyfroedd cynnes / a wnaeth iddo nofio’n nes [?]) cyn ei ddychmygu yn ei lawn ogoniant byw a galaru am na chaiff weled ‘ei lawn ogoniant ar led, / o’r cefnfor yn brigdorri’. Yn niwedd y morfil ‘ar estron dywod’, gŵyr Gwylan fod arswyd llawer mwy yr argyfwng hinsawdd yn gysgod ar ei drasiedi unigol, a gallu asio’r ddeubeth hynny, fel asio’r ‘c’nesu’ a ‘gwae’r cyn-oesau’ yw’r gamp yma.
Mae cerddi Gwylan yn hynod ddyfynadwy, a chefais foddhad mawr o’u darllen. Rhaid crybwyll eu bod, o dro i dro, yn estyn am drawiad gor-rwydd neu’n peidio herio digon ar linell allai fod yn well; ond manion mewn lleiafrif ydynt. Dyma’r unig fardd y teimlwn yn gwbl ddiogel yn eu dwylo o’r cychwyn hyd y clo. Llwyr deilynga gadair Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn 2025.
Cadair yr Ifanc (dan 25 oed)
Llongyfarchiadau i Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn ar gyrraedd ohoni ei hanner canmlwyddiant, ac er mwyn nodi’r achlysur hwnnw y cyflwynir prif wobr ychwanegol eleni, sef Cadair yr Ifanc i feirdd dan 25 oed. Gofynnwyd am gerdd neu gasgliad o gerddi heb fod dros gyfanswm o 60 llinell ar destun agored. Ymgeisiodd saith, ac maent yn ymrannu’n ddau ddosbarth yn ôl fy safonau i – ail ddosbarth, sy’n cynnwys cerddi Tegid, Carreg, Coeden a Cacan Ffenast; a dosbarth cyntaf, lle ceir gwaith Adlais, Y Gwrthgiliwr, a Nodyn.
Mae’r rhai sydd yn yr ail ddosbarth megis dechrau ar eu taith i fyd barddoniaeth, ac maent i’w canmol am fentro, ac am fwynhau chwarae â sŵn geiriau. Tegid a gafodd fwyaf o hwyl arni o’r beirdd hyn – a hynny am iddynt wneud bro eu mebyd yn ganolbwynt i’r gerdd ‘Bala Wa’, gan roi mwy o benodolrwydd a bywiogrwydd i’r dweud am dwristiaid di-hid yr haf:
Bala High Street a’r White Lion
A welan nhw ym mro dy febyd;
Muriau amhersonol sydd o’u cwmpas
Ond yr Aran a’r Arenig sy’n gefn i mi.
Tuedd ymhlith y lleill oedd i ysgrifennu’n fwy ystrydebol am brofiadau cyffredinol – Coeden a Carreg am gyfnod y Nadolig (‘Mae’r goeden a’i golau’n llachar / Yn disgleirio yn y gornel yn chwaraegar’; neu ‘Tymor llawn partis Nadolig / I ddathlu’r newydd anedig); a Cacan Ffenast am yr iaith Gymraeg, rydw i’n cymryd (colli’n ffydd, / colli’n hawen a gorffen gyda’r / ebychiad tawelaf fu). Cynigiaf yma ambell awgrym allai fod o ddefnydd a diddordeb i’r criw wrth ddyfalbarhau (gobeithio!):
Meddyliwch am linellau! Mae gan bob llinell, pob cyfuniad o eiriau yn yr iaith, ei rhythmau naturiol ei hun – gwaith barddoniaeth ydi manteisio ar rheiny, a dathlu’u gogoniannau nhw; dyma sy’n ei osod ar wahân i ryddiaith. Felly mae angen meddwl yn fwriadol am le yn union y torrir llinell. Mae gorau’r gystadleuaeth hon, fel mae’n digwydd, wedi cyflwyno gwaith ar fesur, yn hytrach na cherddi vers libre. Nid yw hyn yn rheidrwydd, ond mae yn un ffordd o ddatblygu disgyblaeth a chrefft ac ymdeimlad â rhythm i fardd penrhydd.
Mae aceniad odlau mewn cerddi mydr ac odl yn bwysig – dydi dau air sy’n diweddu gyda’r un cyfuniad o lythrennau ddim bob amser yn creu odl.
Beth am arbrofi â ffurf? Byddwn wedi croesawu instagerddi, cerddi concrit – gwaith sy’n torri’n rhydd o’r syniad mai rhes o linellau toredig ar ochr chwith y dudalen ydi’r unig beth y gall cerdd fod.
Y cyngor pwysicaf, o bosib: darllenwch a gwrandewch ar farddoniaeth – nid y cerddi sydd ar eich meysydd llafur yn unig, ond dod o hyd i’r hyn rydach chi yn ei fwynhau mewn cerdd. Beth am wrando ar Y Talwrn, neu ddarllen cylchgronau a chyfnodolion barddoniaeth gyfoes, er mwyn canfod gwaith beirdd sy’n ysgrifennu rŵan am bethau sy’n digwydd heddiw?
Mae’r rhain yn awgrymiadau sy’n berthnasol i feirdd y dosbarth cyntaf hefyd; er bod mwy o fflachiadau disglair yng ngwaith y tri hynny.
Llefarir cerdd fydr ac odl Nodyn, ‘Cyfle’, gan fam wrth ei merch – cerddor siomedig ‘ar ôl derbyn ei chanlyniad Cerdd UG’. Cyfres o benillion yn llawn anwyldeb hoffus sydd yma, ac os yw’n llithro weithiau, mae gan y bardd afael dda ar fydr ar y cyfan:
Wyt ti’n ei glywed, gerddor bach,
er nad yw’r curo’n groch?
Mae’n nesu’n dyner atat,
fel anadl ar foch.
Beth sy’n nesu? Wel, y cyfle y gŵyr y fam y daw i’r ffidlwraig ond iddi ddyfalbarhau gyda’i chrefft a’i dawn. Mae ychydig o ysbryd yr affirmations epigramatig a gyhoeddir ar-lein i’r penillion hyn, a does dim amheuaeth nad yw Nodyn yn cyfleu’r un math o anogaeth:
Mae’r byd yn barod.
Dechreua di.
Mae’r llwyfan yma.
A’r gân ynot ti.
Dwy gerdd benrhydd a gafwyd gan Adlais, a cheir dyfyniadau o waith y beirdd E. V. Rogina a Warsan Shire yn isdeitlau i’r ddwy. Roedd hynny yn ei hun yn arwydd addawol wrth fwrw iddi i ddarllen; arwydd fod yma sgwennwr ifanc yn ymhyfrydu mewn barddoniaeth gyfoes. Mae llinellau agoriadol trawiadol Adlais yn dangos cryn addewid:
Roeddwn i’n eneth wydr
pan oeddwn i’n iau,
ond erbyn hyn,
rydw i wedi hen arfer
â cherdded ar y darnau miniog
o bwy oeddwn i gynt [...]
Maen tramgwydd y bardd hwn ar hyn o bryd yw bod y mynegiant braidd yn anystwyth ar brydiau, a’r Gymraeg yn aml fel pe bai’n cael ei harwain gan gystrawen y Saesneg:
y tedi bach mae pawb yn gallu
ei guro a’i glwyfo a’i bychanu
pryd bynnag y mynnent –
er doeddwn i erioed yn hoffi ei chwarae
na deall pam fi oedd yr un
i ddioddef.
Er mai gan Adlais y ceir rhai o linellau mwyaf dychmygus a gwreiddiol y gystadleuaeth (‘Gwisgwn fy nghalon naïf / fel breichled’, er enghraifft), nid yw’r cerddi mor gaboledig â rhai’r ymgeisydd sydd ar ôl.
‘Apostasi’ – sef y weithred ffurfiol o ymwrthod neu ymadael â chrefydd neu gred grefyddol – yw teitl casgliad Y Gwrthgiliwr o dair cerdd. A dyna destun Y Gwrthgiliwr, sef dadrithiad chwerw â Duw sy’n absennol, yn ymddangosiadol ddi-hid. Mae’r gerdd gyntaf ar batrwm cyfres o limrigau, mesur sy’n ychwanegu at goegni bwriadol-anghynnil y bardd:
Mae ’na sôn bod ein Duw ni yn cysgu,
Tra bod Aries a Limos yn ffynnu.
Dwi’n siŵr ’neith o ddeffro
O glywed y bomio;
Doedd Duw Ysgol Sul byth yn diogi.
Ac ar fesurau ffurfiol y dewisodd Y Gwrthgiliwr ganu – penderfyniad da, gan fod yma fardd sydd, ar hyn o bryd, yn cael budd o’r ffrwyn a’r ddisgyblaeth y rhydd ambell reol i frwdfrydedd afieithus yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud. Mae ‘Hiraeth am fylbiau gwynias’ yn grefftus iawn yn ei llinellau goferog a’i chadw gofalus at strwythur glasurol y soned Shakespearaidd, a chywydd byr yw ‘Fy Nghwymp’, cerdd ola’r casgliad. Mae’n debyg mai cynganeddwr pur newydd yw’r Gwrthgiliwr gan mai tri chwpled ar yr un patrwm a geir yma: dilyn llinell o lusg (diacen) gyda llinell o draws (acennog) bob tro. O ystyried yr argraff a gaf mai un yn cychwyn ymrafael â cherdd dafod yw’r bardd hwn, mae’r dweud yn syndod o llithrig a dealladwy:
Am eiliad, ces baradwys
A bod yn angel o bwys.
Pared rhyngof ac Eden
Yw’r pris am afal o’r pren.
Mae hen ddigon o rinweddau i’r cerddi hyn sy’n fy argyhoeddi fod yma lais difyr, gwreiddiol ac addawol iawn; mae’n wir eu bod yn ei gorwneud hi weithiau, ond gellid dadlau hefyd fod hynny’n cyfleu rhuthr lliwgar a sicli byd Gen-Z i’r dim. Dylem allu edrych ymlaen at glywed llawer mwy gan y Gwrthgiliwr yn y dyfodol, ac fe’u cadeirir felly gyda chlod a chyffro.
Tlws Llên yr Ifanc (dan 25 oed)
Gyrrodd 27 o bobl ifanc eu gwaith i’r gystadleuaeth hon – nifer sy’n glod i’r eisteddfod ac i bob un o’r ymgeiswyr. Maddeuer, oherwydd y nifer, mai gair cyffredinol a geir am waith y rhai na chyrhaeddasant y dosbarthiadau uwch y tro hwn.
Diolch i Macabre, Cae Clyd, Glwys, Llew, Ping, Ifan, Eleri, Madrun, Capten, Delwedd, Gwen, Blodyn, Edsgwennu, Meg a Lena am eu cynigion.
Roedd hi’n braf ofnadwy gweld y fath amrywiaeth yn ffurf y darnau – o ymsonau a straeon byrion i ddarnau mwy ysgrifol a llên meicro – ac o ran cynnwys hefyd; ychydig iawn o’r gwaith mewn difri oedd yn mynd i rigolau disgwyliedig, ac fe gafwyd llawer o straeon dirgelwch ac arswyd, a dogn iach o high school drama – cariad, cyffro a thorcalon! Ambell gyngor cyffredin i lawer o ymgeiswyr y dosbarth hwn fyddai:
Dangos, nid dweud. Mae show, don’t tell yn gyngor i sgwennwyr a ailadroddir hyd syrffed – ond ei wirionedd yw’r rheswm am hynny.
Wrth weld y diwedd yn dod – pwyllwch! Osgowch y demtasiwn i orffen pethau gyda’r datrysiad mwyaf cyfleus; ac er fod cynildeb a gadael pethau heb eu dweud yn bwysig, rhaid i’r darllenydd gael digon i ymddiried yn yr awdur fod y bylchau hynny yn rhai bwriadol.
Does dim rhaid cadw o fewn cylch eich profiad eich hun wrth ysgrifennu’n greadigol, wrth reswm – ond cofiwch mai am yr hyn yr ydych chi wedi ei fyw y gwyddoch orau, a bod cloddio i’r emosiynau a’r profiadau hynny, hyd yn oed wrth ysgrifennu am bethau hollol wahanol, yn mynd i gyfoethogi eich gwaith.
Drafftio, ac ailddrafftio – herio pob penderfyniad bach wnaethoch chi wrth sgwennu. Anaml rydan ni’n cynhyrchu’r fersiwn orau o’r gwaith ar yr eisteddiad cyntaf.
Yn codi i dir uwch, ac felly’n ffurfio’r ail ddosbarth yn y gystadleuaeth hon, mae cynigion Blasau Nain, Ciarra, Dic, Chwiban, Artist, Cheesecake a Beuno.
Roedd rhinweddau addawol iawn yng ngwaith y saith hyn; stori gaboledig a thwt, yn llawn anwyldeb, gan Beuno, wrth i Tecwyn ddychwelyd at fainc goffa, ddeng mlynedd wedi colli ei wraig; ysgrif unigryw Cheesecake, oedd yn mynegi’r anhawster y caiff person ifanc yn y byd ohoni wrth geisio canfod heddwch mewnol – ‘y blerwch sydd mewn heddwch’; ‘Y Portread’ gan Artist, stori fer am artist sy’n paentio portread o’i dychymyg bob dydd Llun, gyda thro annisgwyl yn y gynffon; darnau hanesyddol uchelgeisiol Chwiban a Ciarra, y naill yn gosod eu stori fer mewn gwersyll crynhoi yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, a’r llall yn cyflwyno, trwy ymson merch 14 oed yn yr Almaen ym 1928, ofnau arswydus o berthnasol i’n hoes ni ein hunain; Dic, sy’n cyfleu’r doomscroll yn arddull eu darn creadigol am effeithiau TikTok; a Blasau Nain, sy’n bortread o ddibyniaeth, ei effaith ar glymau teulu ac fel y gall ymddangos ar sawl ffurf wahanol.
Mae gwaith pump awdur ifanc yn weddill ar fy mhentwr – Broc Môr, Oriawr, Cowboi, Petri a Nidelva. Rhain oedd y darnau y gwnes i eu rhoi i’r ochr ar y darlleniad cyntaf; y rhai a lwyddodd i gynnal diddordeb o’r dechrau hyd y diwedd gydag ysgrifennu gafaelgar; nid syniadau da yn unig, ond yr adnoddau a’r gallu i’w gwireddu yn go llwyddiannus ar y cyfan. Mae’r awduron hyn hefyd yn rhannu’r ddawn i ddatgelu’n araf, a dal ergydion yn ôl fel bod darllen yn brofiad cyffrous ac annisgwyl yn aml; nhw felly sy’n ffurfio’r dosbarth cyntaf.
Mae gwaith Nidelva yn agor gyda’r prif gymeriad yn nhe angladd ei mab, Victor. Gyda Nidelva rydym yng nghwmni awdur sy’n gallu cefnlennu’r profiad personol â grymoedd gwleidyddol a hanesyddol ehangach heb oramlygu hynny; dweud rhywbeth am bwnc llosg bron heb inni sylwi. Wrth araf ddatgelu’r amheuon ynghylch marwolaeth Victor, a natur ei berthynas â’i gariad, Hans, fe’n cedwir o olwg llawnder y stori hyd y brawddegau olaf, pryd y mae’n rhaid i’r llefarydd ymgodymu â gwirionedd anodd iawn. Weithiau, dim ond weithiau, mae ôl y geiriadur neu’r thesawrws yn gwneud i ambell ymadrodd a chymhariaeth daro’n orymdrechgar; ac eto mae’r awydd hwnnw i ddod o hyd i ddweud gwreiddiolach yn beth i’w ganmol yn yr un gwynt. Mae yma ddisgrifio, deialogi a chymeriadu byw a chredadwy dros ben.
Cyflwynodd Petri dri darn o ryddiaith a gydiodd ynof yn syth oherwydd eu swrealaeth gynnil; yn enwedig yn achos y stori fer, ‘Emyr’. Mae gwaith Petri ar dir canol ffaith a breuddwyd, ac mae’n consurio sefyllfaoedd rhyfedd ac anghysurus sy’n gwneud llefarwyr eu straeon yn ansicr ai gwirionedd ynteu rhith yw’r profiadau a ddisgrifiant; fel prif gymeriad y darn ‘Teithio’, sy’n gweld yr un dyn ar ei daith ar y trên bob bore, ond wedyn: ‘pan dwi’n cerdded heibio’r ffenest ac yn chwilio am ei siâp yn y sedd, tydi o ddim yno, nag ar y platfform, nag ar y grisiau ar y ffordd allan o’r stesion.’ Mae yna arswyd tawel, disgybledig, yn y darnau hyn.
I aros gyda’r trioedd, tair ysgrif a gafwyd gan Cowboi, a braf cael ysgrifennu o’r math hwn sy’n profi nad oes yn rhaid i ryddiaith greadigol fod yn ffuglennol. Llais angerddol sydd y tu ôl i’r ffugenw hwn, llais sy’n digio wrth weld arwyddion ‘For Sale’ o flaen cartrefi lleol, yn tynnu sylwadau ffwrdd-â-hi am Ben Llŷn yn gareiau mân, ac yn myfyrio uwch y diffiniad o ‘deulu’. Does dim amheuaeth mai’r dosbarth cyntaf yw lle’r awdur hwn o ganlyniad i’r dweud hyderus, cyhyrog; ar yr un pryd, cynilo fydd y gamp i Cowboi wrth fynd rhagddynt. Mae angen gordd weithiau – ond mae pluen yn dwyn perswâd effeithiol hefyd, a chyfuniad o’r ddeubeth sydd ei angen yn aml, er mwyn archwilio’r llwyd, yn ogystal â’r du a gwyn.
Credaf mai gan Oriawr y cafwyd rhai o gyffyrddiadau gorau’r gystadleuaeth – brawddegau unigol sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain gan eu haeddfedrwydd a’u gweledigaeth. Lluniodd Oriawr eu stori fer ar fformat ffurflen ddigidol i gefnogi unigolion sydd wedi’u heffeithio gan ddementia – ac eto ni roddodd hyn ffrwyn ar arddull greadigol gyfoethog yr ysgrifennu. Beth oedd effaith y digwyddiad hwn arnoch? gofynna un o gwestiynau’r ffurflen. A dyma ddechrau’r ymateb:
Llusgodd y misoedd heibio.
Dechreuais weddïo am y tro cyntaf erioed.
Aeth fy nhu mewn yn fach.
Ardderchog. Os yw’r pwnc yn un braidd yn dreuliedig mewn cystadlaethau ysgrifennu i bobl ifanc, mae dull ymdriniaeth Oriawr yn newydd ac annisgwyl. Gallwn ddyfynnu’n helaeth o’r ysgrifennu crefftus ac argyhoeddiadol hwn. Yr unig wendid, fel sy’n wir am ambell ddarn addawol iawn yn y gystadleuaeth, yw’r diweddglo (sef yr ymateb i gwestiwn ola’r ffurflen), y byddwn i’n sicr yn annog yr ymgeisydd i ddychwelyd ato a’i ailwampio.
Ac yna, Broc Môr gyda’r stori fer ‘Cadwyni’, sy’n symud trwy sawl cyfnod ym mywydau dau frawd gaiff eu cam-drin yn y cartref – yn gorfforol ac yn feddyliol – gan eu rhieni. Digwydd agoriad a chlo’r stori mewn llys barn, wrth i’r ddau ohonynt dystio yn erbyn eu mam a’u tad. Crefftus iawn yw’r modd y mae’r awdur hwn yn cyfleu’r brawd bach yn tystio ac yn dod i raddol ddeall y gamdriniaeth gorfforol yn erbyn ei frawd mawr. Mae’r ymwneud â phobl oddi allan i uned y cartref yn argyhoeddi ac yn sobri – y cyfrinachau, yr esgusodion a’r anghysondeb. Os yw diwedd y stori yn dod ar ras braidd, a lle i ailweithio ac ymestyn a pheidio estyn am ystrydeb ry hawdd, mae yma ymdriniaeth sensitif a thrawiadol.
Byddwn yn rhoi’r tlws yn llawen i unrhyw un o’r llenorion sydd yn y dosbarth cyntaf, ond mae’r penderfyniad ar frig ucha’r gystadleuaeth rhwng tri: Oriawr, Nidelva, a Petri. Er nad oes llawer ynddi, mae un o’r rhain gam bach ar y blaen eto – a hynny am waith sydd mewn mannau yn peri i’r darllenydd anghofio mai egin-awdur sydd wrthi, ac ymddiried yn llwyr yn ei droadau annisgwyl. Caiff Oriawr yn y drydedd safle, a Nidelva, sy’n ail, ganmoliaeth uchel; Petri sy’n mynd â’r wobr.
Englyn - ‘Dyled’
Deunaw o englynion a gefais i’w cloriannu. Hyd yn oed yn yr englynion yr ystyriaf i eu bod yn wallus, mae digon i ddangos fod y beirdd yn deall hanfodion y gynghanedd a’r ffurf.
Rhoddais ambell nodyn ar gopïau englynion Moelwen, Ifan, Peris a Cyfaill, nad ydynt wedi cael popeth yn gywir y tro hwn ond sydd ill pedwar yn agos ati. Gobeithio y bydd y sylwadau hynny o ryw fudd.
Gyda’r rhain hefyd y gosodir ymgais Jest. Lluniodd englyn o fawl i’r seiclwr Geraint Thomas, ac mae’r cynganeddu yn hollol gywir. Fodd bynnag, mae’r cywirdeb hwnnw yn llinell agoriadol Jest, ‘Yn ei ddwrn, beic yw ei ddeyrnas’, yn dibynnu ar gamdreiglad, ac felly rhaid i’r bardd fodloni ar y dosbarth isaf y tro hwn. Fel arall, mae’r mynegiant yma braidd yn herciog, a rhywbeth yn anfoddhaus yn y syniad fod beic Geraint Thomas ‘yn ei ddwrn’, hefyd.
Mae saith o englynion yn yr ail ddosbarth – eiddo Paddington, Clwyd, Modryb, Hilda, Morgan, Meudwy, a Crimpen frandi. Dyma englynion cywir gan feirdd hyderus, ond bod yna duedd efallai tuag at feiau fel bodloni ar linell or-rwydd, neu gymysgu delweddau yn ormodol. Rhoddaf frawddeg neu ddwy am bob un.
Llinell glo Meudwy, ‘Daw eli o o Ward Alaw’ (sef ward gancr Ysbyty Gwynedd) yw eu llinell orau – fel arall, mae’r mynegiant braidd yn haniaethol a dystion/distaw yn teimlo fel hen drawiad yn y cyd-destun hwn.
Mae dau hanner i englyn gwirebol Morgan – agoriad addawol (I’r gorau mae’n her gwario – o gyllid / yn gall a chynilo), a diweddglo braidd yn straenllyd; yr ‘ond’ yw’r broblem fwyaf i mi – parhau gyda’r un gwirionedd yr ydym trwy’r englyn, yn hytrach na chyflawni awgrym yr ‘ond’, sef cyflwyno gwrthbwynt. Ymgais da, yr un fath.
Atgof plentyndod o fam yn coginio ar stôf sydd gan Hilda – mae’r agoriad synhwyrus yn hyfryd, ond niwlog iawn yw’r cwpled clo: ‘trysor cudd yw tresi’r cof / i fwynion sy’n fyw ynof’. Byddwn hefyd yn herio ‘ddaw i’r atgof’ – byddai’r ‘cof’ yn fwy addas yma, er deall mai er mwyn anghenion y ffurf y dewiswyd y gair diacen.
‘Achlysur barbeciw Ysgol Gymraeg Llundain’ yw testun ‘dyled’ Modryb. Hoffaf y syniad o gyfosod maeth y bwyd a maeth yr addysg dros ‘[d]ri deng mlynedd o wledda’. Yn anffodus, mae ‘hindda’ y llinell glo yn drysu’r cyfosodiad braidd. Gwylier yr acennu yn y drydedd linell hefyd – ‘am hansh, o gig a jam ha’. Mae’n rhaid sgipio’n go chwim dros ‘ogigajam’ i’r gynghanedd hon weithio ar lafar.
Tybiaf mai englyn gan yr un ymgeisydd yw’r diolch i Glenys ac Alan am arhosiad yn Llanelian gan Clwyd. Eto, mae angen gwylio’r drydedd linell honno a’i chynghanedd sain – ‘am le, gwylie gwlad y gwlân’. Mynn y glust oedi’n rhy hir ar ‘gwlad’; mae’n tynnu llawer gormod o sylw ato’i hun yn y llinell hon.
Yn ôl i Ysgol Gymraeg Llundain yr awn yng nghwmni Paddington; mae’r syniad o loeren yn un da, ac yn cael ei gynnal wedyn gyda’r cyfeiriad at ‘ofod’ a ‘gwawrddydd’. Braidd yn gyffredin yw’r esgyll sy’n cyd-fynd, er yn ddigon twt fel crynodeb o gymwynas yr ysgol – ‘a hon sy’n meithrin cynnydd / a hud iaith i’w phlant bob dydd.’
Mae englyn Crimpen frandi yn cychwyn ar ganol llinell, a hanner cyntaf y llinell agoriadol yn ffurfio cynghanedd lusg â’r is-deitl – ‘Doedd dim dyled / ... yn Eden’. Y pechod gwreiddol a’n Cwymp (priflythyren) wedi hynny sydd yma – i fywyd ‘fel gwas, caeth / lafur a chyfalafiaeth’. Clogyrnaidd braidd yw’r dweud.
Gosodaf chwech o englynion yn y dosbarth cyntaf – gwaith Boi Blinedig, Berwyn, Hywel, Costa Costus, Cilcain a Ffeinal Notus. Gan y rhain y cafwyd y syniadau mwyaf crwn a gorffenedig.
Rhyw stori fer o bennill sydd gan Berwyn:
Y teulu’n awr sy’n talu’n ôl, i wneud
yn iawn am orffennol
eu hoff Em, â’i gamblo ffôl
a’i yfed anghyfrifol.
Mae sawl haen o ddyled yma – dyled gwreiddiol y cymeriad; dyled y teulu, a’i ddyledion yntau i’w deulu wedi iddynt ‘wneud / yn iawn’ am ei orffennol. Ac a oes gwneud yn iawn i fod am hynny?
Mae sŵn hen ddihareb i ymgais Hywel:
Rhy hawdd yw llithro iddi, â beichiau
mawr a bach yn corddi;
eiddo’r diawl yw ei hawl hi –
anodd dianc ohoni.
O dynnu popeth rhwng y llinell gyntaf a’r olaf allan, byddai’n dal i sefyll fel cwpled epigramataidd twt. Efallai bod y modd y cyfeirir at y ‘ddyled’ trwy’r ‘iddi’ yn dwyn i gof ddull dwtsh yn hen ffasiwn o ganu englyn ar destun gosod – ond mae’n gweithio, a’r englyn yn uned syniadol tynn.
Englyn hiraethus yn mynegi dyled i rieni sydd gan Cilcain:
Eu cariad sydd eto’n curo – o’m mewn
a minnau’n cofleidio
hi â’i dawn a’i freuddwyd o;
rhoddion i’m cyfarwyddo.
Mae’n annwyl iawn. Efallai fod cariad/curo yn drawiad braidd yn rhwydd estyn amdani, a theimlaf fod y symud rhwng y paladr a’r esgyll braidd yn chwithig – ‘cofleidio / hi’. Byddai ‘ei chofleidio hi’ yn gywirach.
Englyn ysgafn a thafodieithol Costa Costus wedyn:
Do, wyliais yn dy waled – a dwgyd
degau o dy boced
i dalu off ein dyled,
sef pris fy mis yn y Med.
Bûm yn hir syllu ar ‘wyliais’ cyn deall mai ‘chwilio’ sydd yma, a dyna’r cyfan yn gwneud synnwyr! Ymddangosiadol ffwrdd-â-hi – ond crefftus.
Bu’r Boi Blinedig yn llithro rhwng yr ail ddosbarth a’r dosbarth cyntaf wrth feirniadu, ond credaf mai dyma’i le:
Drud yw trysor yfory – yn yr hwyr
a’r oriau’n pentyrru;
daw’r wawr â’i disgleirder hy
a’th ddyled heb ei thalu.
Doeddwn i ddim yn siŵr i ddechrau ai englyn da ynteu englyn a swniai’n dda oedd hwn. Fy nehongliad i yw mai pennill yn yr un byd ag eiddo Berwyn ydi hwn, ac mai rhyw fath o ddibyniaeth sydd yma – gamblo ar-lein, o bosib. Hynny yw, ‘trysor yfory’ sy’n hudo’r sawl sy’n hapchwarae i roi un cynnig arall ... ac un arall, ac felly ymlaen am oriau. ‘Disgleirder hy’ golau’r bore ydi’r dadrithiwr mawr, sy’n dangos nad oes ennill, ac na thelir y ddyled – nad oes trysor, ac nad yw ‘yfory’ yn cyrraedd mewn difrif. Cynyddodd fy hoffter o’r englyn hwn gyda phob darlleniad.
Mae englyn Ffeinal Notus bron a bod yn ei ddosbarth unigryw ei hun – oherwydd rheg ardderchog y gair cyrch, yn un peth.
Amlen wen a ddaeth i ’nhŷ. ’Ocinél,
Parkin’ Eye sy’n mynnu’n
snîci iawn, mewn Saesneg hy,
fy arian erbyn fory.
Adeiladwyd ebychiad o englyn o amgylch un trawiad gwreiddiol, chwareus. Ac eto, mae yna fin i’r ffaith mai ‘yn snîci iawn, mewn Saesneg hy’ y daw’r gorchymyn, a chwmni ParkingEye yn hen gyfarwydd â beirniadaeth am wrthod derbyn apelau a chwynion yn y Gymraeg.
Diolch i gynifer am gystadlu. Hywel sy’n drydydd, Boi Blinedig yn ail, ond yr ysgafnder aiff â hi y tro hwn – llongyfarchiadau i Ffeinal Notus.
Triban - i unrhyw le yng Nghymru
Cystadleuaeth neilltuol boblogaidd oedd hon, gyda 29 o dribannau i’w cloriannu; nifer anghytbwys o fawr ohonynt yn clodfori mannau yng Ngheredigion, beth bynnag yw’r rheswm am hynny!
Crybwyllaf yn gyntaf y cystadleuwyr hynny sydd ychydig yn ansicr eu gafael ar y mesur. Mae Mihangel, Milwr a Lleol ill tri wedi deall bron yn berffaith ofynion moel y triban – y patrwm sillafau (7, 7, 8, 7), y patrwm prifodlau (a, a, b, a); a’r angen am odl gyrch i gysylltu diwedd y drydedd linell a chanol y llinell olaf. Cofiwch, fodd bynnag, mai mesur i’w ganu ydi’r triban, a bod iddo batrwm mydryddu penodol iawn hefyd.
Fel yng nghystadleuaeth y limrig, gyrrodd rhai cystadleuwyr ddyrnaid o dribannau; a’r rheiny yn aml yn perthyn i’w gilydd, fel pum ymgais Phillip, sy’n talu teyrnged i rannau o Geredigion: Ystrad Meurig, Trefenter, Aberarth, Llangwyryfon a Chiliau Aeron. Mae’r mesur yn go ystwyth yn nwylo Phillip, er bod ôl straen ar ambell linell (‘mewn angerdd yn freintiedig’, er enghraifft). Dyma ddarluniau bach twt o fro sy’n annwyl i’r bardd.
Yng Ngheredigion hefyd y cawn dri thriban Gwawr; hoffais yr ymgais i greu adleisiau rhwng y tri yn yr achos hwn; tribannau i Ffair Rhos, Llanrhystud ac Aberarth. Y pennill i Ffair Rhos sydd fwyaf llwyddiannus:
Bro’r mawn a bro’r dwyfolion,
Bro’r beirdd a bro’r llenorion,
Yng ngweithdy’r crydd ar sgwâr Ffair Rhos
[Fin] nos bu sawl ymryson.
Mae Arwyn yn yr un byd gyda phum triban arall; cawn gyfeirio at feirdd Ffair Rhos eto ond nid yw’r dweud mor afaelgar ag yn ymgais Gwawr. Gellid caboli tipyn ar rai o’r rhain, er eu bod â rhyw ddiniweidrwydd braf yn perthyn iddynt. Felly hefyd Betsan, sy’n disgrifio’i hardaloedd fel rhai o’r lleill mewn modd ffeithiol iawn.
Daeth pedwar wedyn gan Dafydd Wyn; ond gan nad yw dau o’r rhain yn cyfeirio at leoedd yng Nghymru – hyd y gwelaf i, beth bynnag – bu’n rhaid eu llwyr ddiystyru. Y cyntaf o dribannau Dafydd Wyn yw’r unig un y gellir dweud ei fod yn ateb geiriad y gystadleuaeth yn llawn; ond mae’r pennill hwn i dref Llangollen yn gorffen yn hynod ddryslyd wrth ddisgrifio’r syniad fod y sôn sydd o hyd am y ‘ledis hael’ (sef Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, Plas Newydd) yn ‘fythol hudol hufen’.
Aeth y Creyr Glas â ni at lannau afon Tryweryn; a chafodd syniad da wrth gyferbynnu’r gymuned a fu gyda’r defnydd adloniannol sydd ar y lle bellach gan ‘estron ŵr / Ym merw’r dŵr yn rafftio’. Fodd bynnag, nid yw ‘lle’r oedd cymuned untro’ yn taro deg na deuddeg; teimlir mai ‘un tro’ oedd eisiau yma, ond y byddai hynny wrth gwrs wedi chwalu’r gofyn am air diacen ar y brifodl. ‘Untro’ i’m meddwl i yw single use (fel cwpan goffi); ac er y gellid dadlau fod yna drosiad da yn dod i’r fei yn hynny, tybiaf nad dyna fwriad yr awdur yn yr achos hwn.
Roedd triban Caffi Glanmor yn taro’n amserol o ystyried yr is-etholiad sydd newydd fod. Mae’r mynegiant yn dwt a’r triban yn llifo:
Edmygaf gaerau Cymru:
Cas-gwent, Y Fflint a Choety,
Ond diolch [wnaf] â llawen gân
Am furiau glân Caerffili.
Apeliodd rhesymeg di-wâd y Cardi Bach, a gyflwynodd y triban cofiadwy hwn i Lanfihangel Genau’r Glyn, at fy synnwyr digrifiwch:
Dau enw sydd i’r pentre’,
Ac un o’r rhain yw Llandre,
Ond Llanfihangel Genau’r Glyn
O’r enwau hyn yw’r gore’.
Cerdd ffwrdd-â-hi ar un olwg; ond eto, un peth yw cael y syniad a pheth arall gwneud iddo weithio. Llwyddodd y Cardi Bach, a gwybod fod rhythm a hyd enw’r lle oedd dan sylw yn gweithio i’r dim yn nhrydedd linell y mesur.
I Ddyffryn Ogwen y canodd Llechen Lân, ac mae annifyrrwch annisgwyl yn perthyn i’r ymgais hwn:
Rhwng Tryfan a’r Carneddau
yng ngwaddod y rhewlifau,
mae creithiau hen chwareli’r fro
yn llithro lawr y llethrau.
Mae’r cyfosodiad rhwng dau symudiad; y rhewlifoedd fu’n cerfio’r dirwedd yn y lle cyntaf, ac olion y diwydiant sydd fel pe’n bygwth trigolion presennol y dyffryn o’r uchelfannau, yn effeithiol iawn.
Ond dychwelwn o hyd at delyneg fach o driban gan Cors Fochno, triban sydd â sŵn hen bennill hiraethus iddo, ac odl gyrch grefftus, gudd, yn ei linell olaf. Mae’r llefarydd yn gymeriad yn y triban hwn, yn wahanol i fwyafrif llethol y cynigion, ac mae hynny hefyd elfen sy’n apelio:
Yr wyf ar ben fy nigon
wrth yrru ar fy union
ar noson dywyll dan y sêr
yn ôl i Geredigion.
Y triban hwn sy’n mynd â hi, gyda’r Cardi Bach yn ail a Llechen Lân yn drydydd.
Telyneg - Cronfa/Cronni
Gan mai telyneg yw gofyniad y gystadleuaeth yn hytrach na cherdd rydd, er enghraifft, y llinyn mesur cyntaf i’w osod yn erbyn y saith cerdd ddaeth i law oedd eu telynegrwydd.
Ymdriniaf â gwaith Mellt a Mam-gu yn yr un gwynt – mae’n edrych yn dra thebygol mai’r un bardd sy’n cuddio y tu ôl i’r ddau ffugenw. ‘Ellyllon’ sy’n cronni yn nyfnder nos sydd gan Mellt, ‘Bwcïod mannau duon / yn suo’n don ar ôl ton’; ac mae’r un math o eirfa yng ngherdd Mam-gu, sy’n folawd i ‘fywyd cudd y coed’ lle mae ‘si cudd yr hen ganeuon’. Er bod yma syniadau byw, roedd yr awydd i greu cyffyrddiadau cynganeddol yn rhy aml yn achosi llinellau astrus, aneglur.
Mae cynnig Alaw, sydd wedi llunio penillion i’r drudwy sy’n ‘cronni’ bob nos ger y môr yn Aberystwyth, yn llawn dweud clasurol-delynegol, ond nid yw’n ddigon cynnil i’r darllenydd deimlo ei fod yn cael cip agos-atoch ar ryw brofiad untro, ac ymateb greddfol y bardd iddo. Dyma enghraifft o lais Alaw:
Ac yn nyfnderoedd gorwel [p]ell
Mae mantell o belydrau
Yn llawn o drysor gwerthfawr drud,
Yn taenu’i hud gusanau.
Er yr ymdrech ganmoliadwy i lunio llinellau ag odlau cyrch, mae’r pennill hwn yn enghreifftio gwendid cyson yn y gerdd, sef troi’r mynegiant yn chwithig er mwyn cael y gair iawn yn y lle iawn i siwtio’r odl.
Rhedeg mewn ‘Ras am Fywyd’ er mwyn codi arian at elusennau ymchwil cancr yw testun Pinc, gyda’r ffugenw yn cyfeirio at y lliw a wisgir gan y rhedwyr:
Ym mhobman fe welwn un lliw
A phinc yn unig i bob criw.
Mae angen i Pinc gofio am y gwahaniaeth rhwng geiriau acennog (fel ‘criw’), a geiriau diacen (fel ‘heddiw’) wrth lunio cerdd fydr ac odl. Dyma ymgais ddiffuant.
Egyr telyneg Amyneddgar yn bur addawol:
Mae yn fy nghalon deimlad
Sy’n gwthio tua’r lan,
A hyn yw fy nymuniad:
Y tyrr ef yn y man.
Mae Amyneddgar yn ysgrifennu mewn modd syml ac annwyl, ac mae’r pennill uchod yn rhoi blas da ar ansawdd y tri sy’n ffurfio’r gerdd. Rhwystredigaeth geiriau’n cronni – yr hyn sydd heb ei fynegi – sydd gan y bardd, ac mae’r sefyllfa yn aros heb ei datrys hyd y diwedd.
Mae telynegion Mel a Ffraid gryn dipyn ar y blaen i weddill y gystadleuaeth.
Y weithred syml o agor drôr (neu ‘ddrâr’ yn nhafodiaith y llefarydd hwn) sy’n sbarduno ymgais Mel. Yn y ddrôr honno mae pob math o drugareddau wedi cronni dros amser, ond mae un gwrthrych yn eu plith sy’n denu’r llygad:
yr un aur
a’i gwêr fel deigryn
wrth ochr ei phaladr,
a’i phabwyren yn ddu [...]
Cannwyll sydd yma a gynheuwyd i rywun, rywdro – ni fynegir yma natur y cynnau hwnnw; a dyna ryfeddod y cynildeb – gallai hon fod yn gannwyll cacen ben-blwydd neu’n gannwyll er cof, ac fe allai’r effaith fod yr un fath, sef teimlo ‘ei fflam / yn twymo / reit trwof’. Mewn un frawddeg estynedig sydd wedi’i rhannu’n gyfres o linellau byrion, lluniodd Mel stori fer am yr hyn sy’n newid ynom pan fyddwn yn digwydd ar rywbeth sy’n ein hatgoffa o orffennol gwahanol. Mae’n gain iawn, a phob gair gofalus yn talu am ei le.
Tebyg yw arddull Ffraid hefyd; mae’r mynegiant yn ddiwastraff iawn, ond ceir llai o densiwn o fewn y ddelwedd a gyfleir. ‘Diwedd y tywydd crasboeth’ yw is-deitl y delyneg hon, ac fe ddisgrifir i’r dim y rhyddhad o weld y dafnau boliog cyntaf o law yn disgyn a’r ymateb bron yn orffwyll:
Gyda’r gwlypter
yn llifo lawr
fy ngruddiau
lapiodd y ffresni
ei freichiau
o’m hamgylch
a ro’n i’n rhydd.
Apeliodd llawenydd y gerdd ataf o’r darlleniad cyntaf, ac fel cerdd Mel, does dim amheuaeth nad telyneg ydyw.
Bum yn pendilio rhwng telynegion Ffraid a Mel, ond mae greddf yn fy nhynnu at amwysedd y gannwyll yn y ddrôr; hwyrach hefyd y gallai Ffraid fod wedi cynnig gwell, cyfoethocach llinell glo nac ‘a ro’n i’n rhydd’. Roedd hi’n agos: Mel sy’n cael y wobr gyntaf, Ffraid sy’n ail gydag Amyneddgar yn drydydd.
Cân ysgafn – parodi ar unrhyw gân werin Gymraeg
Ymranna’r cerddi yn y gystadleuaeth hon yn ddau ddosbarth hafal – tri pharodi sy’n barodïau llawn, a thri y teimlaf nad ydynt yn manteisio digon ar eu cyfle.
Yn yr ail ddosbarth hwnnw mae cynigion Joio Byw (parodi ar ‘Y Gog Lwydlas), Hiraethus (‘Mae ’Nghariad i’n Fenws’), a Robat (‘Bonheddwr Mawr o’r Bala’). Mae cynnig Robat fel pe bai’n rhoi ychydig yn fwy o liw ar y stori wreiddiol, yn hytrach na pharodïo; at hynny, nid yw’r hyn y mae’r ymgeisydd yn ceisio’i wneud yn amlwg, oni bai fy mod i wedi llwyr fethu rhyw gyfeiriadaeth gynnil neu’i gilydd y dylwn i fod wedi’i deall. ‘Mae ’Nghalon i’n Glwyfus’ yw teitl parodi Hiraethus, a’r drafferth gyda’r ymgais hwn – hyd yn oed o ddiystyru’r elfen barodïol – yw nad yw’n gerdd ysgafn. Mae’n drueni nad yw’n cydfynd â geiriad y gystadleuaeth, gan fod gan Hiraethus rai llinellau hyfryd.
Mae’n deg dweud fod Joio Byw yn dod yn nes ati, er eu cadw yn y dosbarth hwn; ‘Y Dydd Perffaith’ yw teitl y parodi, ac mae’r llefarydd, yn syml iawn, yn edrych ymlaen at eu gwyliau penwythnos:
Y dyddiau dwi’n dewis yw Sadwrn a Sul,
A hanner dydd Gwener, mae’r dewis yn gul [...]
Mae hiwmor y parodïau mwy llwyddiannus yn nes at yr wyneb; yn grafog a chyfeiriadol, ac ar adegau’n gwneud hwyl am ben y gwreiddiol, fel llawer o’r parodïau gorau.
‘Fflat Huw Puw’ a ddewisodd Crys Pinc, a Senedd Cymru yw’r cocyn hitio:
Mae sŵn yn y Senedd, sŵn lleisie’n codi,
Seddau gyd yn gwichian, Elin Jones yn gweiddi;
Ni fedra i gredu’r ffwdan yn fy myw,
Rhaid i mi fynd yn aelod llawn o’r Senedd wiw.
Bod yn aelod o’r Senedd yw nod y llefarydd wedyn, fel y bachgen ar y traeth ym Mhorthdinllaen sydd am fynd i’r môr; ac mae paru’r ddau syniad yn creu delwedd o’r Senedd fel rhyw long fawr, afreolus â chriw cecrus a swnllyd. Llwydda Crys Pinc i gynnal disgwyliadau’r agoriad trwy gydol y gân, a cheir aml i gyffyrddiad chwareus a chlyfar.
Dyma linellau agoriadol Hillman Minx:
Mae nghar i yn newydd
Mae nghar i yn biws
Mae nghar i’n gyflymach
Na thractor na bws
Eto, mae’r parodïo yn gwbl amlwg o’r cychwyn, yn enwedig gyda’r tebyrgwydd seinegol rhwng ‘’nghariad’ y gwreiddiol a ‘nghar i’. Car trydan yw’r car newydd, ‘y gwyrdda’n y sir’, ac mae’r llefarydd yn newid i gyfarch y car yn bersonol yn yr ail bennill, sy’n cynyddu’r doniolwch. Er bod y trydydd pennill yn hynod grafog (‘Mae nghar i yn symbol / o’m statws a’m pres’), byddwn i’n herio’r tro sydyn wedi’r ‘Ond’, sydd wedi’i fynegi’n dda ond yn gorffen braidd yn ffwr-bwt.
I fyd Y Talwrn yr aiff cân ysgafn Edmwnd, wrth barodïo ‘Dacw Mam yn Dŵad’. Mae Edmwnd yn fydryddwr slic:
Tim go drwstan
yn chwilio sill neu ddwy
a’r meuryn yn ei stydi
yn gwirio pwy ’di pwy.
Hoffais mewn llinellau fel yr uchod sut y llwyddodd y bardd hwn i fynd â’r barodi y tu hwnt i ystyr y geiriau, a chreu adleisiau o sain y gwreiddiol hefyd. Mae ôl ychydig o straen ar y pennill olaf, gyda’r mynegiant ychydig yn fwy aneglur o’i gymharu â llithrigrwydd ei ragflaenwyr.
Does dim llawer rhwng y tri uchaf. Crys Pinc yw’r enillydd, gyda Hillman Minx yn ail ac Edmwnd yn drydydd.
Limrig - i gynnwys y llinell ‘Weithiau mae’n rhaid anwybyddu’
Rhyw ugain o limrigau a ddaeth yn y pecyn; rhai cystadleuwyr wedi cyflwyno sawl ymgais.
Twyllodrus yw symlrwydd ymddangosiadol y limrig, a beiau cyffredin yw cloffni yn y mydr neu gamacennu. Disgyn i gategori’r bai hwn y mae limrigau Ystwyth, Isfoel (2), Bryn (1, 2), Deio (4).
Tybiaf mai gwaith yr un awdur yw Isfoel, Deio a Bryn; cynigiodd y tri hyn bump o limrigau yr un. Roedd yma ystod eang – o’r gwleidyddol crafog i’r doniolwch domestig a phopeth rhyngddynt. Byddai gweithio llai o benillion gyda mwy o sglein wedi bod yn well, gan fod yma gryn dipyn o frychau iaith a chystrawen, a syniadau da ond herciog eu mynegiant. Mae limrig Bai ar gam yn yr un cae.
Dau fersiwn o’r un weledigaeth sydd gan Marian, sef ein dihidrwydd ni a’n gwleidyddion tuag at y ‘llofruddio, lladrata a saethu’ sydd mewn sawl man o’r byd. Mae’r odl gyrch yn y cynigion hyn i’w groesawu, ond nid yw’r ergyd yn glanio’n hollol llwyddiannus.
Efallai mai limrig hunanymwybodol Afon Morlais yw’r mwyaf llwyddiannus:
Weithiau mae’n rhaid anwybyddu
yr X-Box, y ffôn a’r teledu,
pan mae’r ’steddfod yn dod,
’sgwennu limrig yw’r nod,
neu roi cynnig ar wers [g]ynganeddu ...
Fodd bynnag, nid yw’r cynnig hwn, hyd yn oed, yn fy argyhoeddi ryw lawer. Swmpus ond braidd yn ddi-fflach oedd y gystadleuaeth hon, ac mae’n ddrwg gennyf orfod atal y wobr.
Erthygl neu ysgrif - addas i’w chyhoeddi mewn papur bro
Testun agored, ond i fod o ddiddordeb i ardal leol yr awdur
Gan imi nodi wrth osod testun y gystadleuaeth hon mai am erthygl neu ysgrif addas i’w chyhoeddi mewn papur bro y chwiliwn, roedd hynny’n ystyriaeth wrth fynd ati i feirniadu. Cefais fodd i fyw yng nghwmni’r chwe ymgeisydd; pob un wedi’u hymdrwytho yn hanesion a hynodion eu milltir sgwâr eu hunain. Wrth basio – byddai wedi bod yn dda gweld rhestrau o ffynonellau i gydfynd â rhai o’r darnau lle roedd hi’n amlwg fod ymchwil ehangach na hanesion llafar a gwybodaeth bersonol yn bwydo i’r gwaith.
Does dim llawer o gwbl yn gwahanu ysgrifau Dilys, Catrin, Gwynfor ac Irfon; yn wir, mae’n bur debyg fod mwy nac un ohonynt – os nad y pedair – yn perthyn i’r un awdur. Mae angen golygu’r iaith yn yr ysgrifau hyn cyn y gellid eu cyhoeddi mewn papur bro, ond mae pob un ohonynt yn afaelgar, yn ddifyr, ac yn haeddu cael eu darllen.
Mae ‘Fy Annwyl Fro’ gan Dilys yn defnyddio dyfyniadau o farddoniaeth gan feirdd lleol i yrru’r portread o ardal Llanddewi Brefi yn ei flaen, a hynny’n effeithiol at ei gilydd er y gellid bod wedi cynnwys llai. Er yr arswyd a deimla’r awdur hwn wrth weld y newdiadau sy’n effeithio ar wead y fro sydd mor bwysig iddynt, maent hefyd yn gweld gobaith yn ffyniant mudiadau a sefydliadau lleol fel y ddwy dafarn sy’n cael eu rhedeg gan Gymry, a’r Clwb Ffermwyr Ifanc. Ceir dau bortread wedyn gan Catrin a Gwynfor – y naill i Margaret Jones, mamgu’r awdur; a’r llall i Mari Davies, Berllan Pitter, Aberarth – cymeriad gwrachaidd y cefais bleser ei chwmni yng nghystadleuaeth y triban hefyd! Crwydrol yw naws yr ysgrifennu wrth i’r awdur neidio o atgof i atgof, o hanesyn i hanesyn, a llunio dau ddarlun crwn o ddau gymeriad tra gwahanol i’w gilydd. Yn naturiol ddigon, ymdrinnir â’r gwrthrych mwy cyfarwydd gyda mwy o anwyldeb; ac efallai y byddai wedi bod yn braf gweld ychydig yn fwy o’r anwyldeb hwnnw yn yr astudiaeth ar fywyd Mari Davies.
Cefais flas ar ‘Cymeriadau fy ardal’ gan Irfon – ysgrif nad yw’n gwneud mwy na nodi cymeriadau a gofia’r awdur yn Llanddewi Brefi eu plentyndod ac adrodd ambell hanes amdanynt. Gan fod cymaint o’r atgofion a glywn trwy lygaid plentyn, maent yn aml yn sylwgar a chraff at rinweddau neu ddigwyddiadau ym mywydau’r bobl hyn na theilyngent y cofnod hanesyddol confensiynol.
Mae gwaith Soar ac Emyr Foel gryn dipyn yn fwy caboledig; dyma ddwy erthygl na phetruswn o gwbl rhag eu cyhoeddi mewn papur bro, gan mor ddifyr eu cynnwys ac mor gynnes eu harddull.
Rydw i fymryn yn ansicr o werth teitl Soar, sef ‘Enwau lleoedd, lle i enaid gael llonydd’. Ai dweud y mae’r awdur fod enwau lleoedd yn cynnig lle i enaid gael llonydd, neu a yw’n disgrifio ei ardal ei hun felly? Beth bynnag am hynny, dyma erthygl sy’n cynnig toreth o wybodaeth am enwau yn ardal Blaenplwyf. Mae’n llawn hanesion difyr, gyda’r awdur yn cynnig eu dehongliadau eu hunain o bryd i’w gilydd fel rhyw atodiad i’r consensws cyffredinol; mae’r ysgrifwr hefyd yn gweld fod astudio enwau lleoedd yn trawstorri â diwylliant, diwydiant, celfyddyd a llên, a chymaint o bethau eraill sy’n rhoi i gymuned ac ardal ei hunaniaeth unigryw. Rhoddwyd siâp da ar y cyfan trwy gychwyn a gorffen gyda chyfeiriad at y mast teledu – tirnod amlycaf yr ardal – ac mae’r iaith yn gyhyrog a difrychau. Dyma waith a roddodd lawer o foddhad imi.
Teimla ysgrif Emyr Foel fel sgwrs gynnes; cyfarcha’r awdur y darllenydd (‘Ond sut, meddech chwi, y gellid esbonio hynny?’) a chawn ein tywys i’w fyd ar unwaith. Mae’n gant oed, a bu ar un adeg yn ail bostmon ardal Mynytho. Cyflwyna hyn mewn modd difyr trwy gyfeirio at yr enwau gwledydd sydd ar nifer o’r tai a godwyd yn y pentref gan stâd Nanhoron ar un adeg:
Ychydig flynyddoedd cyn dathlu fy mhen-blwydd yn gant, arferwn grwydro’n bur helaeth lawer bore. Cyn cinio byddwn wedi galw heibio i China a Chaliffornia cyn troi am yr Aifft ac India [...]
Gallaf weld darllenwyr Llanw Llŷn yn dotio at ysgrifennu o’r fath. Rhyw wibdaith a gawn wedyn trwy rai o atgofion yr awdur am y fro yn ei ieuenctid ei hun (bron i ganrif yn ôl, fe gofiwn) – rhagoriaeth cryddion Mynytho, hanes John Jones Tŷ Cerrig a weithiai ar y ffordd ac a ddysgai ganu i’r bechgyn lleol, a’m ffefryn personol – ei atgof o fod yn y cyfarfod i agor Neuadd Mynytho ym 1935, ac R. Williams Parry yn camu i’r llwyfan i ddarllen ei englyn enwog ar goedd am y tro cyntaf.
Cyffes Emyr Foel wrth gloi’r ysgrif yw na ‘wn i ddim bellach beth a gyflwynaf: ai erthygl ai ysgrif.
Yr unig beth y gallaf ei honni’n onest yw fod popeth a grybwyllais – a rhagor – wedi bod o ddiddordeb i mi fel y gofynnai testun y gystadleuaeth amdani.
Roedd o ddiddordeb mawr i minnau hefyd, a didwylledd y profiadau a chynhesrwydd a safon yr ysgrifennu wedi fy swyno. I Emyr Foel yr aiff y wobr, gyda Soar yn ail uchel ei ganmoliaeth, ac Irfon yn drydydd.
Stori fer - Dolen/Dolennau
Annatblygiedig braidd yw cynigion Phillip a Fflur – y ddwy stori fer wedi’u gosod yng ngefn gwlad Ceredigion ac yn ymdebygu ar brydiau i benodau un o raglenni Cardi noir S4C. Os mai’r un awdur yw’r ddau – a thybiaf hynny – byddai wedi bod yn dda iddynt beidio agor y ddwy stori gyda’r un frawddeg yn union (‘Tarodd y cloc hanner nos’). Mae’r symud yma o un peth i’r llall braidd yn wibiog, o ystyried fod y straeon yn ymdrin â marwolaethau a llofruddiaethau. Serch hynny, mae yma ddisgrifiadau hyfryd o’r ardal wledig, fel y sylwi ar ‘fwrlwm gloyw yr hen afon yn llifo’n rhuban arian lawr i’r cwm.’
Stori fer iawn a gafwyd gan Ysbryd, wrth i fachgen ifanc ddianc rhag ‘lleisiau’ sy’n meddiannu ei gartref teuluol, a chael hafan yn nhŷ ffarm ei Anti Elsi. Niwlog braidd yw union ystyr yr hyn sy’n digwydd yma, ond byddwn i’n mentro fod yma ymgais i fynegi profiad rhywun niwroamrywiol y caiff y bobl o’i gwmpas drafferth i’w ddeall. Gallai fy nehongliad fod ymhell ohoni, ac er bod angen ymestyn mwy ar y darn, mae’r ysgrifennu yn lân a chywir, ac mae egin syniad da yma.
Fel yn stori Phillip, trais sydd yn mynd â bryd Kristofferson, sy’n darlunio Chris, a garcharwyd am droseddau cyffuriau, yn edrych yn ôl dros ei fywyd tra ar ganol rhyw weithred na ddatgelir yn iawn tan linellau olaf un y stori fer. Mae hon eto’n stori sy’n symud yn rhy gyflym – dedfryd carchar o bum mlynedd yn pasio rhwng dwy linell, er enghraifft – ond mae’r awdur yn haeddu canmoliaeth am y ddeialog lithrig, lafar, sy’n gredadwy iawn ar adegau.
Mae Llais o’r clawdd yn awdur llawer sicrach na’r gweddill sydd yn y gystadleuaeth. Cyflwynodd stori fer arswyd, lle mae Jon ac Amy a’u merch ifanc, Mair, yn symud i gartref newydd. Dechreua Amy sylwi ar ymddygiad anarferol ym Mair, a hwnnw’n dwysáu. Er nad yw’r syniad y hoelir y stori hon arni yn un newydd o bell ffordd, teimlwn fod y modd y strwythurwyd y gwaith yn dda iawn, ac yn datgelu dychryn y sefyllfa yn grefftus o araf. Er bod yma waith golygu ar y mân wallau iaith a gramadeg, mae’r ddeialog yn fyw, y cymeriadu’n dda, a’r mynegiant yn ystwyth, hyd yn oed wrth ddisgrifio digwyddiadau goruwchnaturiol.
Llais o’r clawdd yw enillydd clir y gystadleuaeth hon; mae Kristofferson yn ail ac Ysbryd yn drydydd.