Eisteddfod Ieuenctid Bontnewydd 2025 - beirniadaethau llên

Y Gadair – Uwchradd (Bl. 7, 8 a 9)

Cystadlodd naw o sgwenwyr ifanc yn yr adran uwchradd; pedwar ohonyn nhw wedi gyrru rhyddiaith, a phump wedi anfon cerddi.

Cystadleuaeth dda iawn oedd hi, mewn difri, a’i goreuon wedi cyflwyno darnau fyddai wedi hen ddal eu tir mewn cystadleuaeth â therfyn oedran llawer uwch. Roedd Miri yn ysgrifenu’n fywiog am helyntion Asiant O, merch un ar ddeg oed sy’n ceisio achub ei ffrind rhag cynllwyniau ciaidd Bob ap Tecwyn a’i griw; ac mae cerdd Lleu yn deyrnged annwyl a phwyllog i gartref cynnes a theulu. Fe wnes i fwynhau dychymyg swréal Sali Mali, a gyflwynodd ymson hosan unig mewn dror, sy’n gobeithio bob dydd mai heddiw yw’r dydd y bydd ei pherchennog yn dewis ei gwisgo. Mentrodd cerdd Mwclis ddisgrifio golygfeydd dychrynllyd y tannau yn Los Angeles yn gynharach eleni, ac mae Llwyn Têr yn mynegi’r profiad o fod yn actor sy’n dod yn fyw ar lwyfan.

Mae dwy gerdd y teimlwn eu bod yn codi i dir ychydig yn uwch wedyn, ac sy’n haeddu canmoliaeth arbennig:

‘Y Llong’ gan Walter Thomas – mae hi’n go anarferol gweld sgwenwr mor ifanc yn cael y fath hwyl ar farddoni mewn mydr ac odl. Gan amlaf, y cyngor y mae rhywun yn ei glywed (ac yn wir, ei roi, weithiau) yw i beidio â phoeni yn ormodol am gadw’n rhy gaeth wrth gychwyn barddoni; ond mi faswn i’n sicr yn awgrymu y dylai Walter Thomas ddal ati. Roedd y cwpledi hyn yn arbennig o gofiadwy:

Rhwng craig ar ol craig – tros don ar ol ton,

Fel nodwydd trwy ddefnydd y llywiais fy llong.

Canais y corn trwy’r niwl trwchus, llaith,

Anelais y nodwydd at derfyn y daith.

Gwych.

‘Yr Actor’ wedyn, gan Sali Mali eto. Cerdd foel iawn ydi hon, heb ormod o ansoddeiriau na chymariaethau na throsiadau sy’n tynnu sylw. Felly mae hi i fod, ac mae’n defnyddio hynny i gyfarch testun dyrys iawn, sef trais domestig, a hynny o safbwynt y plentyn sy’n tystio i’r cyfan sy’n digwydd cyn gorfod troi o’r cartref i wynebu’r byd fel pe na bai dim o’i le.

Mynd adra

a chysgu.

Cerddoriaeth

i osgoi’r ffraeo a’r hen stori

sy’n ailadrodd

ei hun.

Dyma ddweud plwmp a phlaen, a ffordd dda o fynd ati i ddehongli testun fel ‘Yr Actor’ hefyd.

Dyna fi wedi enwi saith. Dwy stori fer ar y testun ‘Adar o’r Unlliw’ sydd ar ôl.

I fyd dystopaidd pobl sy’n gweithio i ryw fath o gwmni neu gorff o’r enw ADAR yr awn ni yn stori Elliott, wrth i ni gyfarfod Cai, sy’n ceisio darganfod beth yn union sy’n mynd ymlaen, a pha fwriadau anllad sydd gan Rwbi, perchennog ADAR.

Gall Elliott ddeialogi’n fyw, a chadw stori i symud yn gyflym a chyffrous, tra hefyd yn dod o hyd i adegau tawel yn ei stori, lle mae wir yn mynd dan groen ei gymeriadau i’w troi yn bobl amlhaenog, llawn emosiwn. ‘Gwaeth fyth na’r carchar o gartref oedd ganddo oedd y carchar tu fewn i’w feddwl’, meddai’r awdur ar un adeg. Mae hefyd yn llwyddo i ddangos gormes y cwmni ar y gweithwyr heb ddweud hynny’n rhy llythrennol; er enghraifft, y modd y sylwn nad yw Cai yn deall beth yw tocyn ‘return’ wrth ddal y bws – a hynny am ei fod ar y tu allan i gymdeithas arferol.

Pe na byddai gwaith Porth yr Arian yn y gystadleuaeth, byddwn i’n fwy na bodlon rhoi’r gadair i Elliott.

Llwydda Porth yr Arian i greu argraff o gymeriad lle a pherson gydag un disgrifiad bach, neu un tamaid o ddeialog, ac mae hynny’n dipyn o gamp, hyd yn oed i awdur profiadol. Meddyliwch am ddisgrifio caffi fel hyn: ‘y math o gaffi lle mae’n rhaid gofyn am sos coch a lle nad ydi’r halen yn dod allan oherwydd y tamprwydd’. Mae’n mynd â chi yno’n syth, yn creu cysylltiadau ym mhen y darllenydd, yn eu hatgoffa o fannau tebyg y maen nhw’n eu hadnabod. Ac yna, rhyw gyffyrddiadau fel hyn:

Am ganol y ferch oedd yn gweini’r byrddau roedd ffedog efo ‘Tenerife 1978’ yn fawr ond ei fod wedi ffedio i ddim bron.

O ran strwythur, rydym yn pendilio rhwng safbwynt lleidr, wrth iddo gymryd rhan mewn cyfres o droseddau mwyfwy powld, a chriw sy’n ymgasglu mewn caffi i hel clecs – gan gynnwys trafod a damcaniaethu pwy sy’n gyfrifol am y lladrad diweddaraf. Wnaeth Porth yr Arian ddim dewis cynfas eang – mae’n well ganddyn nhw fanylu a dangos ymwneud pobl â’i gilydd, ac maent yn llwyddo’n rhyfeddol o dda i wneud hynny. Mae’r modd y datgelir yn araf ragrith a rhagfarn criw’r caffi, gan ein gadael i deimlo’n gymysglyd ynghylch pwy yn union – os unrhyw un o gwbl – yw’r drwg a’r da yn y stori hon, yn grefftus dros ben.

Dyfernir y Gadair ac ugain punt i Porth yr Arian, ac mae Elliott yn cael degpunt o’r wobr am stori fer gofiadwy arall.

Y Gadair – Cynradd (disgyblion Ysgol Bontnewydd)

Ar gyfer y wobr hon, roedd disgwyl i mi ddewis y darn gwaith unigol mwyaf addawol o blith popeth a gyflwynwyd yn yr adran lenyddiaeth oed cynradd.

Doedd hynny ddim yn dasg hawdd, yn enwedig gan fod y tasgau oedd wedi eu cyflwyno fesul dosbarth yn dilyn patrwm ymarferion sgwennu, a dim llawer yn amrywio yn y darnau o ran eu strwythur. Roedd yn rhaid chwilio’n fanylach felly, am y fflachiadau o ddychymyg, yr hiwmor, y dawn dweud a’r defnydd iaith cadarn.

Gan gofio mai gwobrwyo addewid oedd y nod, doedd hi ddim yn beth cwbl ddigwestiwn mai i un o’r plant hŷn fyddai’r wobr yn mynd, ac roeddwn i’n ceisio ystyried pawb o fewn cyd-destun eu grwp oedran eu hunain, felly. Wedi i mi ddarllen popeth, roedd dau yr oeddwn i’n eu hystyried ar gyfer y gadair.

Ma un ohonyn nhw, Rhif 16, ymhlith y plant ieuengaf. Y dasg oedd wedi’i gosod i ddisgyblion Blwyddyn 2 oedd ysgrifennu llythyr o safbwynt Llywelyn Fawr wedi iddo ladd ei gi ffyddlon, Gelert, ar ddamwain. Sbardunodd yr her hon sawl ymateb arbennig o dda, ond roedd rhywbeth neilltuol o fywiog a chofiadwy am ddarn Rhif 16; y defnydd o bytiau o ddeialog o fewn y llythyr yn effeithiol, yr iaith yn groyw – a diwyg y gwaith a’r llawysgrifen yn gymen.

Penderfynais felly y byddwn yn rhoi cymeradwyaeth arbennig a phum punt i Rhif 16.

Ond y darn wnaeth yr argraff fwyaf arnaf fel darn gorffenedig o ysgrifennu creadigol medrus, hoffus, gan sgwenwr addawol, oedd gwaith dan y ffugenw Billy yng nghystadleuaeth Blwyddyn 5. Roedd gofyn i blant Blwyddyn 5 gyflwyno Dyddiadur yr Hugan Fach Goch; ac er fod cymaint ohonyn nhw wedi ailddychmygu’r stori gyfarwydd yn eu ffordd unigryw eu hunain, roedd disgrifiadau Billy â rhyw fymryn o sglein ychwanegol arnyn nhw. Er enghraifft:

Casglais un neu ddau o flodau oedd ar ochr y ffordd a’u rhoi yn y fasged. Pan fentrais yn bellach i’r goedwig, aeth yr haul o’r golwg. Doedd dim smic i’w glywed ond swn fy anadlu ...

Dyna i chi greu tensiwn! Gan Billy hefyd y ces i frawddeg mwya cofiadwy a doniol y cwbl, wrth i’r Hugan Fach Goch ei gwadnu hi o gartref ei nain a dod wyneb yn wyneb â’r bwyellwyr yn y goedwig:

Penderfynais siarad gyda’r saer coed arall, ond roedd hi’n gwrando ar gerddoriaeth ar ei chlustffonau.

Am ddod â’r Hugan Fach i fyd Gen Z, ac am eu hiwmor a dychymyg, mae Billy yn cael y gadair am y darn mwyaf addawol yn y cystadlaethau cynradd, ynghyd â phymtheg punt.

Next
Next

Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd 2025 - beirniadaethau rhyddiaith