Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid 2026
Cystadleuaeth y Gadair – ‘Egni’
ar y cyd â Hywel Griffiths
Er mai pum ymgais yn unig ddaeth i law, roedd hon yn gystadleuaeth dda iawn. Gofynnwyd am gerdd neu ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd heb fod yn hwy na 80 llinell, ac mae’r ornest rhwng pump o gynganeddwyr dibynadwy iawn – rhwng pump o feirdd y gallem fod wedi dadlau achos teilyngdod gwaith pob un ohonynt pe bai angen gwneud hynny. Un peth braf am gystadleuaeth lai niferus yw bod modd i mi roi ychydig amser yma i drafod gwaith y cystadleuwyr i gyd.
Cywydd er cof am Geraint Jarman yw ymgais Gobaith Mawr y Ganrif, ac mae’n deyrnged llawn edmygedd i’r bardd a’r cerddor – ar lefel bersonol i’r llefarydd ac fel colled i Gymru gyfan a’r Gymraeg. Ar ei orau mae cwpledi’r ymgeisydd hwn yn llifo a goferu’n naturiol iawn; ac mae Hywel yn nodi mai dyma’r cynganeddwr cywiraf a sicraf eu crefft yn y gystadleuaeth:
wedi mynd o’i wlad y mae
Geraint, ac nid oes geiriau –
dim Jarman na chynghanedd,
Alfred Street a’i bît mewn bedd [...]
Cerddi Alfred St. oedd y gyfrol gyntaf a gyhoeddwyd o gerddi Jarman, sy’n dod â ni at un o brif nodweddion cerdd Gobaith Mawr y Ganrif, sef yr awydd ysol sydd ganddynt i lunio trawiadau cynganeddol sy’n cyfeirio at eiriau caneuon a cherddi’r wrthrych. Canlyniad anorfod hynny yw fod y bardd weithiau’n taro’r nod (‘eco ska mewn tracwisg werdd’, ‘Ac yng Ngwesty Cymru’n co’), a thro arall yn gorfod ystumio gormod ar ei ddweud er mwyn gwasgu’r gyfeiriadaeth i fewn (‘opws i Ethiopia’, ‘waeth tŷ cownsil i’r hil hon / oedd galed o ddigalon). Creu argraff o ddiffyg hunanfeirniadaeth y mae hyn, gwaetha’r modd, yn enwedig yn y gyfres o benillion pedair llinell sydd yng nghanol y cywydd. At hynny, fe hoffwn i’n bersonol fod wedi gweld ychydig o amrywio ar y mesur – fel enghraifft, mae’r penillion pedair llinell hynny fel pe baent yn arwyddo rhyw ymgais i greu newid yng nghywair a thempo’r gerdd, ond byddai troi at gyfres o englynion, dyweder, wedi pwysleisio’r newid hwnnw yn well. Y perygl gyda chanu cerdd hir ar un mesur – a mesur cwpledol y cywydd, yn arbennig – yw llithro i undonedd. Serch hyn, mae yma weledigaeth glir a’r grefft i’w wireddu, ac mae’r modd y mae diweddglo’r gerdd yn adleisio’r llinellau agoriadol yn cau pen y mwdwl yn effeithiol.
Casgliad o gerddi byrion ar amrywiol fesurau yn talu teyrnged i wahanol athrawon ym mywyd y llefarydd a gafwyd gan Alaw. At ei gilydd, gan y canu mwy diriaethol am athrawon dynol (ceir cerddi yma sy’n ystyried ‘Cymuned’ a ‘Byd Natur’ yn athrawon hefyd) y cefais i fy swyno – y deyrnged annwyl i John Hywyn, yr athro barddol, er enghraifft, sydd
Yn fêt, f’athro cyntaf i
a’i hyder mewn cwpledi
neu linell, llinell a aeth
yn aelwyd o gynhaliaeth [...]
Mae’n drueni am ambell wall gramadegol a chystrawennol yma ac acw yn y cerddi hyn – cofier nad yw cynghanedd gywir yn werth dim os oes rhaid aberthu cywirdeb iaith! – ac efallai fod Alaw yn euog weithiau o beidio dychwelyd at linellau, a bodloni ar y trawiad cyntaf. Enghraifft o hyn yw llinell glo’r gerdd ‘Athro Barddol’ – ‘ond dwi’n hwyr, rhy hwyr i hyn’. Dyma linell ardderchog i’w defnyddio yn rhywle, ond nid yw’n teimlo fel cymar da i’w rhagflaenydd, na diweddglo cwbl synhwyrol i’r gerdd hon. Mae ‘nad yw’r byd i gyd o’i go’ i gloi’r casgliad yn drawiad eithaf cyfarwydd, a byddai ‘yn fy mhrysur gysuro’ yn gywirach yn y llinell o’i blaen.
‘Chwilio’n fwy gofalus am y ddelwedd, cymhariaeth neu linell wreiddiol newydd’ ydi cyngor Hywel i Alaw, ac mi fyddwn innau’n amen-io hynny. Ond dyma fanion hawdd eu trwsio mewn casgliad diffuant gan un sydd ar ei orau’n medru canu’n dlws iawn, fel yn y llinellau hyn yn y gerdd i’r ‘Athro Ysgol Sul’:
Roedd grym arferiad yn ei dreftadaeth
A dôr ei feudy’n faes i drafodaeth.
Bardd hyderus a medrus yw Owain, a gyflwynodd gasgliad o gerddi am yr iaith Gymraeg, a ddisgrifir yn y gerdd gyntaf, ‘Gwreiddiau’, fel derwen a fu unwaith yn fesen, a dyfodd yn fawr ac sydd bellach yn clafychu a gwywo. Mae’n rhaid i mi gyfaddef – er y grefft – y teimlwn mai trosiad rhy gyfarwydd oedd hwn i’r bardd allu mynd ag o i unrhyw gyfeiriad newydd neu arbennig o wreiddiol. Noda Hywel fel yr ymddengys y gair ‘rhuddin’ deirgwaith, a gellir meddwl am lawer iawn o’r math hwn o ganu, yn enwedig ym marddoniaeth y 70au hwyr a’r 80au cynnar:
Ond ’leni, a hi mor hen, melynach,
eiddilach yw’r ddeilen,
daeth pryder am y dderwen
o’i gwanu, a phry i’w phren.
Mewn dilyniant byr, efallai fod y gerdd i ‘Jenny’, y ddysgwraig, yn cymryd gormod o le. Yr hyn a geir yw Cymraes na ‘rannodd ei rhieni / eiriau’i chyndadau â hi’, a’r gobaith a wêl y llefarydd yn ei hymdrech i ailhawlio’r iaith iddi hi ei hun. Byddwn wedi hoffi gweld mwy o gynildeb yma; neu hwyrach ymdriniaeth lai du a gwyn o’r sefyllfa – pam, tybed, na fyddai’r rhieni wedi trosglwyddo’r iaith iddi? Mae ‘I hon fe fu’r fron yn frad’ yn ddweud hegar iawn (‘delweddu caled’, meddai Hywel) mewn difri, ac hwyrach y gellid bod wedi dod at y pwnc mewn modd mwy sensitif a threiddgar. Mae’r hir-a-thoddaid sy’n cloi’r casgliad yn uchafbwynt, ac yn mynegi’n effeithiol yr holl rwystredigaeth a chroes-dyniant sy’n rhan gyfarwydd o brofiad siaradwr iaith leiafrifedig:
Hi’r wên a’r galar, a’r ateb parod,
eos yr hirnos, a gwawr pob diwrnod [...]
Er bod y tri a enwyd yn feirdd talentog, mae’r ddau ohonom yn gytûn mai goreuon y gystadleuaeth yw Fflach ac Oliver.
Does dim dwywaith nad yw rhagymadrodd Fflach, sy’n crynhoi’r modd y ffurfiodd daeareg Cymru trwy gyfnodau gwahanol, yn ddarllen difyr; yn bersonol, mi fyddwn i’n cwestiynu’r dewis i gynnwys tudalen gyfan o ryddiaith cyn cyrraedd at y farddoniaeth, yn enwedig pan fo’r bardd yn llwyddo i gyfleu llawer o’r hyn sydd yn ei gyflwyniad o fewn llinellau’r gerdd. Ond, fel nododd Hywel, does yr un o’r ddau ohonom yn ddaearegwyr – er ei fod o’n nes ati o beth wmbredd nac ydw i! – ac yn hynny o beth, efallai nad yw ambell nodyn eglurhaol yn ddrwg o beth. Llwyddodd hefyd i gynganeddu ‘Gondwana’ o fewn ei ragymadrodd, er nad yw’n cael unrhyw bwyntiau bonws am wneud hynny!
Ond a bod o ddifri, cynganeddwr cadarn iawn yw Fflach – cadarn o ran cywirdeb, a chadarn hefyd yn ystyr y dweud grymus, mawreddog bron, sy’n nodweddu’r ddwy gerdd. Mae’r naill yn awdl fer sy’n fydryddiad o hanes ffurfiant daeareg Cymru yn nychymyg y llefarydd, wrth iddynt ddod o hyd i damaid tephra a’i ddal yng nghledr llaw; a’r llall yn gerdd gynilach, mwy personol, wedi’i lleoli ar Gader Idris yr oes bresennol.
Mae Fflach yn aml yn troi at eirfa sy’n hynafol ac weithiau’n anghyfarwydd iawn (uthrwres, lwrw, creuan, ufel – i enwi rhai); byddai hyn yn fwy o wendid mewn dwylo llai medrus, a chan fod y math yma o eirfa rywsut yn gweddu i arddull gyffredinol y cerddi, mae’n wir eu bod yn tynnu llai o sylw at eu hunain nag y byddent fel arfer. Eto i gyd, rydym yn cytuno y gallai’r bardd herio ambell benderfyniad er mwyn taro’r cydbwysedd rhwng arddel hen eiriau a dealladwyedd y gerdd i’r darllenydd. Byddwn yn mynd mor bell â dweud fod twtsh o ddylanwad barddoniaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg yma, a chlywaf adleisiau o awdlau cystadleuaeth enwog Aberffraw 1849 i’r ‘Greadigaeth’ yn y modd y mae Fflach yn disgrifio dechreuadau ffyrnig y ddaear fel yr adnabyddwn hi:
Poerwyd ef o gopa’r das,
A’r awyron yn eirias.
Tan uthrwres yr eplesu
Rhwygwyd ais y creigiau du,
Ac ufel yn magnelu
Mewn tanchwa o fagma fu.
Yn ogystal â chyfleu’r cyffro dinistriol-ffurfiannol hwn, gall y bardd hefyd ganu’n wirebol, fel yn y cwpled hwn i’r uwchgyfandiroedd, oedd yn uchafbwynt gan y ddau ohonom:
Hen gyfandiroedd oeddynt,
Hen yn wir cyn geni’r gwynt.
Ac mae’r hir-a-thoddaid hwn yn enghraifft o sut y gall fynegi syniad gwyddonol – symudiad platiau tectonig yn yr achos hwn – yn gofiadwy, heb i’r mesur na’r gynghanedd fynd yn drech:
Wrth greu cadernid, suddwyd gwendidau –
Hafnau drwy groen ac hyd ddyfnder grynnau.
Yna mae gwân y dyfnion dyniannau
A thanom graith yn ymagor weithiau.
Hedyn daeargryniadau – yw’r rhuglo,
Hen wraidd yn llithro tan ruddin llethrau.
‘Ar Gader Idris’, wedyn, mae’r llefarydd yn ei gael ei hun, trwy’r myfyrio hwn ar y grymoedd annirnad a luniodd y dirwedd o’i gwmpas, yn ystyried ei le a’i ran fach ei hun yn hyn oll; yn y garreg sydd yn ei law, mae holl ynni’r creu yn crynhoi, a dyna’r wefr a’r dychryn yn un:
Yn y llaw hon yn llonydd – mae hanes,
Mae ynni’r llosgfynydd,
Anhunedd ei foreddydd,
Hunedd oer diwedd ei ddydd.
Fflach yw meddyliwr dwys y gystadleuaeth, ond nid yw’n colli gafael ar ei athronyddu, ac mae ergyd ei ddiweddglo yn crynhoi’r cyfan yn drawiadol.
Dwy gyflafan saethu mewn ysgolion yw’r gefnlen i gerddi Oliver – trychineb Dunblane ym 1996, ddeng mlynedd ar hugain yn ôl eleni; a Parkland, Florida, yn 2018. Yr ‘egni’ sydd yma yw’r ymgyrchoedd a dyfodd maes o law ac yn sgil y trais, mewn ymgais i greu gwell byd – byd lle gobeithir na all y fath bethau ddigwydd eto. Yn achos Dunblane, mae’r bardd yn tynnu sylw at grŵp ymgyrchu Snowdrop, a lwyddodd i gryfhau deddfwriaeth drylliau llaw yn Lloegr, yr Alban a Chymru; ac mae’r ail gerdd er cof am Joaquin Oliver, un o’r plant a laddwyd yn Parkland, yr ailgrewyd ei lais gyda Deallusrwydd Artiffisial er mwyn gyrru neges ffôn i bigo cydwybod y rhai sydd â grym dros benderfyniadau yn ymwneud a rheoli gynnau.
Mae’r syniad yn un gwreiddiol a dirdynnol, felly, ac mae cerdd gyntaf Oliver yn cychwyn yn drawiadol trwy ddisgrifio’r gofgolofn yn Dunblane:
Ein llethu wna bob llathen – o’r garreg,
y Gair a’r golomen,
drwy’r staen sy’ ym mhob haenen
daw lleisiau blodau Dunblane.
ac yna:
rhosynnod, rhesi enwau
a ias oer Mawrth yn nesáu.
Pwyslais Oliver yn y gerdd hon yw’r hyn a dyfodd allan o’r drychineb, yn hytrach na’r drychineb ei hun; yn wir, cerdd obeithiol ydyw, gyda llinellau fel ‘O’u diwrnod daeth cadernid’ a ‘rhieni’n rhoi arweiniad’ yn frith drwyddi. Mae’r safbwynt a fynegir yn un dilys iawn, ac wrth gwrs ei bod yn bwysig clodfori’r camau breision a fu, a chryfder a dewrder yr ymgyrchwyr; yn yr un gwynt, mae angen gofalu weithiau i beidio dilyn y gynghanedd yn unig, gan fod y dweud yn hwylio’n agos at orwelion chwaeth ar brydiau – gyda llinell fel ‘rhai a allodd drechu’r drylliau’, er enghraifft, ro’n i’n fy nghael fy hun yn gwingo fymryn. Ni all cnawd drechu dryll, ac er mai cyfeirio at y ddeddfwriaeth newydd yw’r bwriad yma, mae’n bwysig meddwl am isleisiau a chynodiadau yr hyn a ysgrifennwn.
Tra bod y gerdd ‘Cofio Dunblane’ weithiau’n troi yn ei hunfan wrth fynd yn ei blaen, roeddem ein dau o’r farn fod y cywydd er cof am Joaquin Oliver yn rhagorol. Mae’n newydd iawn hefyd, a hynny am fod pwnc y gerdd, sef yr AI a ddefnyddir i ailgreu llais y plentyn, yn rhywbeth na welwyd gennym mewn cerdd cyn hyn. Mae pob cerdd dda angen rhyw fath o densiwn neu wrth-ddweud, a pha wrth-ddweud grymusach na llais o’r tu draw i’r bedd?
O’r fynwent daw sgwrs plentyn,
o’r maen oer mae hwn yn hŷn;
darnio llais a’i droi yn llên
wna’r A.I. yn gystrawen [...]
Mae angen tacluso yma ac acw, a dylai Oliver fod wedi prawfddarllen y cerddi’n fanylach er mwyn chwynnu gwallau teipio, ond gallwn ddyfynnu’n helaeth o linellau a chwpledi cofiadwy y cywydd yn enwedig, mewn gwaith a luniwyd ar bwnc o bwys gan fardd angerddol.
Byddwch wedi synhwyro o’r dechrau’n deg y bydd cadeirio heddiw. Roedd y penderfyniad rhwng canu sydd weithiau’n gyfoes iawn, a chanu sydd ar ryw olwg mor ddiymddiheuriad hen-ffasiwn ei fod yn teimlo’n gwbl ffres; rhwng ymdriniaeth â gwrthdaro dynol ac ymdriniaeth â’r gwrthdaro sydd yng nghramen a mantell y ddaear ei hun. Yn y pendraw, teimlem fod un bardd wedi llunio cyfanwaith mwy gwastad ei safon lle roedd y weledigaeth yn gwbl eglur, ac at hynny, yn cynnig rhywbeth hollol newydd. Gydag Oliver yn go dynn wrth ei sodlau, cadeirier Fflach, â phob clod.