Cerdd 4 pennill 6 llinell o gywydd, neu gyfres o chwe englyn – ‘Teyrnged i unrhyw Gymro neu Gymraes, byw neu farw.’
Y pethau cyntaf i’w dweud am y gystadleuaeth hon yw bod y pedwar bardd yn gwbl gyfforddus yn trin y gynghanedd, a bod hynny’n rhoi’r gwaith pleserus i feirniad o ddewis rhwng cerddi cyson a chaboledig eu crefft, heb orfod mynd ar ôl rhyw lawer o fanion technegol.
Yn nheyrnged fywiog Edmygwr i’r ddarlledwraig Beti George y cawn hiwmor y gystadleuaeth – ‘Mae Beti George yn gorjys’, meddai, a phwy yn ei iawn bwyll a anghytunai â’r gosodiad hwnnw? Ceir yma drawiadau crefftus (‘doethur rhwydwaith y radio’, ‘a chwilota fel a fyn’) a chwareustra wrth gyfeirio at hirhoeledd gyrfa’r gwrthrych (‘eicon cŵl ers bron cyn co’). Hwyrach mai cam gwag oedd y trosiadau o fyd cŵn yn y trydydd pennill:
Efo dawn ci defaid da
ein heilunod gorlanna;
twria ag anian terier ...
Ond mae yma wreiddioldeb a hwyl, heb os. Gellid tynhau ambell linell – ‘yn oes hon y gwasanaeth’, er enghraifft, lle mae’r gystrawen fymryn yn chwithig, a byddai to bach i droi ‘gwrw’ yn ‘gŵrw’ wedi arbed ennyd o ddryswch i’r beirniad! Mae hon yn deyrnged ysgafn ond eto’n llwyddo i ddangos, fel yr awgryma’r ffugenw, edmygedd mawr.
Cawsom sawl teyrnged amserol dros y flwyddyn ddiwethaf i Geraint Jarman – yn fwyaf nodedig, soned Emyr Lewis ac awdl deilwng Huw Meirion Edwards yn Eisteddfod y Garreg Las. Mae Huwcyn yn mynd ati i foli un oedd yn aelod o Gynganeddwyr Jarman, y gitarydd carismatig Tich Gwilym, sy’n fwyaf enwog am ei fersiwn Hendrix-aidd o ‘Hen Wlad fy Nhadau’ – ‘a’n hanthem ni / a daniodd y dadeni’, meddai Huwcyn. Cyfres o englynion sydd yma, ac mae rhai llinellau cofiadwy iawn – ‘yn hudolus seicadeilig’, ‘athrylith yr alaw’, neu ‘rhegi tiwn a wnâi’r gitâr’. Teimlwn fod y newid amser yn drysu pethau braidd yn y gerdd hon – o fwriad ai peidio – roedd hi weithiau’n ‘oedd’ ac weithiau’n ‘sydd’, a’r rhesymeg dros hynny heb fod yn glir iawn. Hwyrach mai rhyw ddiffyg gen i yw hynny, cofiwch. A tha waeth am hynny, dyma fardd all greu naws a delweddu’n fyw iawn:
Eco’r bît sy’n rocio’r bar – â chorwynt
o chwarae a chlochdar;
mewn fflach o olau llachar
rhegi tiwn a wnâi’r gitâr.
Rydym yno’n syth, a Tich ar lwyfan eto – pa well teyrnged na hynny?
Cerddor amlwg arall aeth a bryd Brawd Houdini, a phrin fod rhaid crybwyll mai Meic Stevens (nid Stephens fel nododd y bardd – gwahanol Feic oedd hwnnw!) sy’n cael sylw y tro hwn. Defnyddiodd Brawd Houdini deitlau caneuon Meic Stevens ym mhob un o’r englynion, a’r cyfeiriadau hyn sy’n cario’r cyfan, o’r ‘wawr yn llawn Tryweryn’ hyd ‘Nos du, nos da, naws y daith’. Fel sy’n arferol gyda’r math yma o ganu, mae’n deg dweud fod rhai trawiadau yn fwy effeithiol na’i gilydd – mae ‘Bibopalwla’n ei le’ yn llinell dda sy’n haeddu gwell partneres. Mewn rhai englynion, aeth yr awydd i gyfeirio yn drech; a chreu’r ymdeimlad weithiau mai chwe englyn ar wahân sydd yma, yn hytrach na chyfanwaith sy’n llifo i’w gilydd. Serch hynny, dyma deyrnged ddiffuant.
Cerdd ddiymdrech yw ymgais Foryd ar un olwg; ond tro sâl â chrefft y bardd talentog hwn fyddai cadw at yr ansoddair hwnnw. Mae gwrthrych y gerdd hon hefyd yn ffigwr amlwg o bwys cenedlaethol, sef Rhiannon Parry o Fôn, Llansannan a Phenygroes – cenedlaetholwraig, athrawes, brodwraig, sylfaenydd papur bro, awdur dramâu a gohebydd celf, fel y disgrifiwyd hi yn is-deitl ysgrif goffa Angharad Tomos yn Barn wedi’i marwolaeth y llynedd. Ond yma, fe deimlwn mai teyrnged rhywun a adnabai Rhiannon yn bersonol a gawn; rhywun all weld y cyfan, y pell ac agos – y golled ar lefel Cymru, cymuned ac aelwyd:
Yn glos, neu ar lwyfan gwlad,
yr un oedd ei chyfraniad.
Cerdd annwyl sy’n grymuso fwyfwy wrth fynd rhagddi yw teyrnged Foryd; cymerer y trydydd pennill yn ei grynswth, lle mae’r bardd yn cofnodi’r tywyllwch a’r gobaith ochr yn ochr, ac yn rhoi cip inni ar wir artist yn bwrw ei phoen ei hun i’w gwaith:
Y mae’n werth cofio’r chwerthin,
er i bla anhwylder blin
y canser fynnu’i herio,
ymladdodd, trechodd bob tro,
ddydd ’rôl dydd, cofnodai daith
ei brwydyr yn ei brodwaith.
Hyfryd yw’r cyffyrddiadau ysgafnach yma ac acw hefyd (‘weithiau’n ddi-glem, fohemaidd’, ‘hyn i gyd – a chlamp o gês!’) ac mae’r cyfan yn asio’n ddarlun crwn, ac yn deyrnged y dychmygaf y bydd o gysur a balchder mawr i deulu a chydnabod yr ymadawedig.
Does dim dwywaith nad Foryd sydd flaenaf yma, a dyfarnaf y wobr gyntaf yn llawen iddynt. Mae hi’n agos rhwng gweddill y pac, ac mae’n bosib y byddai beirniad arall yn ei gweld yn wahanol, ond bywiogrwydd Huwcyn sydd yn ail, a hiwmor Edmygydd yn drydydd.
Cerdd ar fesur ‘Pe bawn i yn artist’ – testun agored
Am gerdd ar yr un mesur â ‘Pe bawn i yn artist’ T. Rowland Hughes y gofynnir – nid o reidrwydd am gerdd sy’n mynd ati’n fwriadol i barodïo’r testun hwnnw; serch hynny, mae ym mwyafrif os nad yr holl gynigion adleisiau o’r gwreiddiol.
Hanes bywydau cwpwl a gyfarfu ‘mewn disgo, yn ymyl y traeth’ yn yr oes o’r blaen sydd gan Draw dros y don, ac o bennill i bennill awn o’r gwirioni cyntaf i’r syrthio mewn cariad, y berthynas o bell a’r plentyn a enir yn ganlyniad i’w cyfarfyddiad. Erbyn y pennill olaf, ‘Hedfanodd degawdau mor gyflym â’r gwynt / un ŵyr ac un wyres sy’n tyfu yn gynt’, ac mae’r hen gwpwl yn dychwelyd i’r un traeth am ‘un ddawns fach olaf’ cyn diwedd y daith. Dyma ymgais ysgafn ac annwyl; wedi dweud hynny, mae angen tynhau yn gystrawennol yma ac acw, a theimlwn fod y diweddglo yn dod o nunlle braidd – hynny yw, roedd angen cryn naid rhwng y ‘tri yn y llun’ a myfyrdod diwedd oes.
Does dim amheuaeth beth yw safbwynt Jim Cro Crystyn ar dwristiaeth anghynaladwy yn yr union fro y canodd bardd ‘Pe bawn i’ iddi – nid ‘rhyfeddod y machlud’ sy’n dwyn sylw’r darpar artist hwn, ond ‘y confoi o geir yn gadael Pen Llŷn!’ Nid lle i gynildeb yw cynfas y gerdd hon, ond ni ellir dweud fod yma fynd dros ben llestri chwaith – dim ond trawiadau tyn a chrafog, at ei gilydd. A gwreiddioldeb:
Rhwng cloddiau’r eithin ymlwybrant mewn rhes
a’r nitrous ocsid yn gymysg â’r tes.
Hoffais yr ymgais hwn yn fawr, ac mae yma ddisgyblaeth a chrefft dan yr wyneb ffwrdd-â-hi, heb os – gan orffen gyda’r cwpled hwn, sy’n cyfeirio at gerdd arall glodforus i’r ‘haul hwyr’ yn Llŷn:
Pen Llŷn, Bro’r Lledrith ar ymyl y lli,
lle i enaid gael llonydd, ’nôl y si!
Lionel Messi ddaeth o’r pecyn wedyn, ac fel yr awgryma’r ffugenw, breuddwydio am fod yn artist o fath gwahanol y mae’r bardd hwn – ‘mae Match of the Day yn fy nghanmol lot / a rhaglen Sgorio ’di gwirioni’n bot.’ Dyma gerdd arall sydd wedi’i saernïo’n dwt iawn, ac mae’r torri ar draws y llif gan fam y llefarydd yn y pumed pennill yn effeithiol, gan arwain at yr un sylweddoliad, yn y bôn, â TRH:
Mor braf yw breuddwydio, ond decinî,
yn chwip o beldroediwr, ni fyddaf i!
Druan o Lionel Messi. Os yw’n ddribliwr di-herc ar y cae, mae angen gwylio ambell fagliad yn y mydr wrth geisio croesi i rwyd y gystadleuaeth hon – ‘coch, ysgarlad, heb ddiferyn o chwys’ yw’r enghraifft amlycaf o hyn. Ond dyma ymgais dda iawn – a cherdd allai hawlio ei lle mewn cyfrol o farddoniaeth i blant, heb os.
Mae cerdd Matt Is yn barodi mwy confensiynol. Fel hyn y mae’n agor:
Pe bawn i yn wleidydd mi dynnwn lun
A hwnnw’n un da ohonaf fi’n hun.
A dyna osod y disgwyliad ar gyfer gweddill y gwaith, lle cawn ddarlun o wleidydd diegwyddor, anfoesgar, sy’n mynd i’r Senedd er mwyn ei fuddion ei hun yn fwy na neb arall. Mae’n ymroi yn llwyr i’r syniadau ystrydebol sydd gennym am y math hwn o wleidydd, sy’n llawn addewidion ond yn cyflawni dim, mwy na byw yn fras. Efallai mai yn y dychan hwn mae ymgais Matt Is ar ei fwyaf llwyddiannus; teimlaf y gellid cryfhau’r tro yn y gynffon, er bod y syniad yn un llwyddiannus. At beth, er enghraifft, y cyfeiria ‘dros ruo y lli’? Byddai Matt Is yn nes at y brig o gynnal safon y cwpledi agoriadol hyd at y diwedd.
Greta Thunberg sydd wedi rhoi i Greta eu ffugenw – oherwydd unigolyn sy’n poeni’n ddybryd am effeithiau’r argyfwng hinsawdd sydd yma. Ac fe restrir llawer o’r effeithiau hynny:
Hinsoddau yn waeth bob tymor a ddaw
Mewn gwres anioddefol neu strem o law.
Mae cerdd Greta yn alwad hefyd, i gymryd camau ‘pendant bras’ er mwyn ‘adfer y byd o’i dynged cas’. Mae’n gri ddiffuant, ac un yr ydw i’n ei gymeradwyo. Wedi dweud hynny, rhaid i mi feirniadu ar sail crefft hefyd, ac mae’n deg nodi fod y mynegiant yma ac acw yn glogyrnaidd – dan emosiwn y neges, o bosib. Ceir ‘Rhaid inni wneud camau’, er enghraifft (byddai ‘cymryd’ yn gywirach, efallai), a defnydd o ambell air ychydig yn chwithig, fel yn ‘Mae’r byd hwn yn poethi, bob dydd yn ffri’, lle mae’n bosib fod yr odl wedi arwain y dweud.
Taith trwy Gymru yw testun Trempyn, ac awn gyda’r trempyn hwnnw a’r ei dramp ar hyd ‘Arfordir hir Cymru a chyffro’r lli’. Mae rhywbeth o Dewi Emrys a ‘Rhigymau’r Ffordd Fawr’ yn y bardd hwn – yn wir, ceir cyfeirio at Bwllderi yn y pedwerydd pennill; ac mae’r ‘trempyn’ yn cysylltu gwahanol rannau o’r daith gyda gwahanol arwyddion o’i dlodi – ‘Fe awn i fegera wrth Bont y Borth’, neu ‘Mae twll ym mhob esgid, cyrhaeddais Mwnt’. Y sylweddoliad araf erbyn diwedd y daith ddychmygol hon yw bod cyfoeth yn y tlodi crwydrol hwn – ‘Er y dillad carpiog,’ meddir, ‘rwyf eto’n rhydd’. Dyma fardd sicr ei gerddediad.
Cefais fy mhlesio gan y gystadleuaeth hon, mae’n rhaid dweud, ac mae gan bawb afael go gadarn ar y mesur a’r testun. Fel mae’n digwydd, y cerddi gyda thinc ysgafnach sydd wedi mynd a fy mryd y tro hwn – Jim Cro Crystyn sydd ar y blaen, Matt Is yn ail, a Lionel Messi yn drydydd.
Cerdd ar fesur triban (hyd at 24 llinell) – ‘Caer’
‘Caer’ oedd testun y tribannau, ac nid ‘ceyrydd’ lluosog, sylwer; ac mae’r gwahaniaeth hwnnw yn cyfri yn erbyn ambell un o’r pedwar bardd, am eu bod wedi canu i sawl caer yn hytrach nac i gaer benodol.
Cyfarch caerau ym mhob cwr o’r wlad a wna Pennard, o’r Fflint i Benrhyn Gŵyr; a chymerir y ffugenw gan gaer hefyd, sef Castell Pennard, un o gestyll y Normaniaid gerllaw Abertawe. Mae yma wibdaith trwy Gymru, gan nodi rhai o’r cestyll cynhenid yn ogystal â rhai’r gormeswyr, a chyfeirir at godi Castell Caernarfon yn ‘nhref y Cofi’, er bod y ‘waliau tal’ yn parhau i sibrwd mai Caernarfon yw ‘calon Cymru’.
Ceir yma ddweud digon tlws, ond weithiau’n ystrydebol, ac er bod y gafael ar y mesur yn saff at ei gilydd, mae angen mwy o ofal yma ac acw i wylio rhag camacennu neu ollwng sillafau, e.e. yn y llinellau ‘I Benrhyn Gŵyr fe ddaw’r haid’ (er y gallai ‘I Benrhyn Gwyr fel ddaw yr haid’ weithio fel trydedd linell triban arall; a ‘trodd yn hen ŵr: gwylio mae’ lle mae sillaf yn brin o’r drydedd linell (ond yn hawdd trwsio gydag ‘a’, er enghraifft).
Un arall sy’n mynd ar daith trwy Gymru mewn cyfnodau gwahanol yw Brython, gan ddisgrifio codi cestyll Caerfyrddin a Chaerffili i warchod y trefi hynny. Mae safbwynt Brython yn ein taro’n annisgwyl – dim ond oherwydd rhagdybiaethau’r beirniad hwn am dueddiadau cyffredinol ym marddoniaeth y Gymraeg – wrth i’r bardd ddisgrifio arwisgiad 1969, a Siarl yn dod ‘yn d’wysog ar ein gwlad / Yn Gymro mad o hirbell’. Y tro yng nghynffon y gerdd yw’r sylweddoliad nad oes yr un gaer, er mor ysblennydd y lleill i gyd, mor safadwy a chadarn â’r ‘bwthyn bychan’. Teimlais ambell waith nad oedd y bardd hwn wedi chwilota’n ddigon dyfal am y gair iawn, gan adael i ofynion odli’r mesur arwain y ffordd – nid yw ‘purdan’ yn gwneud synnwyr yn y cyd-destun, er enghraifft, ac mae ‘cyfoes’ y llinell olaf fymryn yn chwithig hefyd.
Credaf fod Heulwen a Caer yr Oesoedd wedi ateb gofyn y testun yn well na’u cydymgeiswyr.
Cymru ei hun yw ‘caer’ Caer yr Oesoedd, os ydw i wedi deall yn iawn, a’i brwydrau lawer dros y canrifoedd i ddal ei thir yn erbyn grymoedd gormesol. Mae’r agoriad yn drawiadol, os fymryn yn niwlog:
Hen ffin ein hamddiffyniad
Ar foelydd ein hymrwymiad,
Sŵn udo blaidd dros glawdd a ffos
Ymaros ymosodiad.
Gall y bardd hwn yn sicr greu naws, ac mae’r braidd-gyffyrddiadau cynganeddol yma ac acw yn ychwanegu at hynny. Pendilio rhwng negatifrwydd a gobaith a wna; er y mudo sy’n ‘mygu’ caerau’r ‘hendy’ a’r ‘ffermdy’, ac er bod y ‘gwyntoedd yn ein herbyn’, gwêl Caer yr Oesoedd gynhaliaeth mewn diwylliant a chrefydd – yr ‘Eisteddfodau mawr a mân’ a’r weddi agos, bersonol, yn y capel bach. Erbyn clo’r gerdd, mae’r bardd hwn yn ddigon hyderus i ddatgan fod gwell i ddod:
A Chaer o’n Plaid ym Mae Caerdydd,
Mae’n ffydd mewn gwell yfory.
Cafodd Caer yr Oesoedd hwyl dda arni, er nad yw pob triban mor llwyddianus â’i gilydd.
Heulwen gafodd yr olwg fwyaf gwreiddiol ar y testun, ac roedd hynny i’w groesawu yn syth. At hynny, mae’r bardd wedi gwneud yn dda i drosi’r syniad a gawsai yn gyfres o dribannau twt iawn. Canodd Heulwen i Gaernarfon, ei chastell a’i phobl – ei beirdd a’i chwedlau. Ond y tro annisgwyl a gawn yn y gerdd hon yw ei bod, tua’r hanner ffordd, yn newid yn fyfyrdod ar fygythiadau’r argyfwng hinsawdd, gan ddefnyddio’r dref arfordirol hon fel llwyfan i’r meddyliau hynny. Llwyddir i weu’r straeon a glywodd y bardd gan feirdd y dref am ‘wlad o fri aeth dan y lli’ (Cantre’r Gwaelod, fe dybiwn) trwy’r pryderon cyfoes:
Fel hanes yr hen gantref
mae’n rhaid i mi gyfaddef,
o ben y mur mi welaf gur
byd natur yn dioddef.
Enghreifftir yma hefyd nodwedd apelgar arall yng ngherdd Heulwen, sef yr arfer o ymestyn yr odl fewnol arferol yn dri thrawiad – rhwng canol a diwedd llinell 3, a chanol llinell 4. Mae hyn yn rhoi rhyw symudiad sionc ychwanegol i’r dweud, ac fe’i hoffais yn fawr. Gellid tynhau ar y dweud weithiau – mae’r linell hon yn y triban olaf, er enghraifft, yn dod yn rhy rhwydd: ‘fod newid o mor anodd’; ond mae’r cwpled clo yn drawiadol, heb os:
mewn storm neu wres a ddown yn nes
at hanes yn ailadrodd?
Nid yw’n gerdd ddifefl hollol, ond dyma’r ymgais sy’n llifo, yn dweud rhywbeth mwy a hynny gyda gwreiddioldeb. Heulwen sydd ar y blaen, gyda Caer yr Oesoedd yn ail; a rhennir y wobr ariannol rhyngddynt - £80 i’r cyntaf a £40 i’r ail.
Cystadleuaeth i rai dan 25 oed (hyd at 16 llinell) – ‘Balchder’
Ychydig yn siomedig oedd derbyn dwy ymgais yn unig ar destun apelgar. Braf, yn yr un gwynt, oedd mai dwy gerdd am hunaniaeth gwiar, sy’n ychwanegu at lenyddiaeth LHDTC+ y Gymraeg, a gafwyd yn y gystadleuaeth hon i bobl ifanc.
Synwhyraf fod Gwyfyn yn ymrafael â’r iaith fel peth byw iawn, ac yn dal i weithio ar ei dofi i ddweud yr hyn sydd arnynt eisiau ei ddweud. Does dim dwywaith nad yw’n cael dileit o chwarae â sŵn a chyseinedd, sy’n rhoi ansawdd lled-gynganeddol, bron, i’r llinellau:
Nid goel oll ydi’w golud o eginoedd
Na wreiddiau deilliol o wreiddod lle barhaol ...
Yr her i Gwyfyn rŵan fydd priodi’r holl elfennau – crefft, gramadeg, cystrawen ac ystyr – yn daclusach, er mwyn creu cerddi sy’n canu. Diolch am gystadlu, a diolch am gyfuniadau annisgwyl o eiriau sydd weithiau’n effeithiol iawn – ‘bodau brithweithiol’, ‘blaguro’i flodau anneuaidd’, ac yn y blaen.
Dwyn i gof ddigwyddiad Balchder yn Aberystwyth wna Dwynwen, mewn cerdd fydr ac odl gynnil-hyderus, sy’n defnyddio tywydd y dref lan môr at ddibenion ei neges. Dyma’r pennill agoriadol:
 bwrlwm yn sisial yn y glannau,
gwawria’r aber yn fyw,
ei belydrau’n deffro’r dref gyfan
i ddathlu mai cariad yw
ac yna ceir goferu effeithiol drosodd i ddechrau’r pennill nesaf – ‘dawnsio’n droednoeth dan y lleuad / neu gonffeti’r glaw’, ac felly ymlaen. Effeithiolrwydd y trosiad estynedig yw bod tywydd yn rhywbeth cyfnewidiol, anrhagweladwy; a lleol iawn, weithiau, hefyd. Ac os oes hafan fach o dywydd braf i’w chael am gyfnod yn y dref hon ar y diwrnod hwn, ‘parha halltineb y môr / i hisian yn groch’; hynny yw, y byd go-iawn, realiti dyddiol cymaint o bobl LHDTC+ o orfod wynebu casineb cwiarffobig. Llwydda Dwynwen i gadw dysgl wastad rhwng y dathliadol a’r rhybuddiol, heb adael i’r un o’r ddau fod yn drech na’r llall, ac mae hynny’n gamp pan fo cymaint i boeni yn ei gylch.
Ceir herc neu ddwy yn y mydr, ac rydw i’n credu y gallai’r bardd fod wedi chwilio am air gwell – neu fwy cyfarwydd – na ‘ffroch’ i gloi. Ond tynnu ar fanion ydi hynny – llongyfarchiadau i Dwynwen.
Cerdd ysgafn (hyd at 30 llinell) addas i’w pherfformio mewn stomp werin – ‘Cerdd Dant’
Ni fu, efallai, gystadleuaeth â chynifer o in-jokes posib â hon yn hanes ein llên – cerdd ysgafn ar y testun ‘Cerdd Dant’, yn yr Ŵyl Gerdd Dant o bob man. Yr her felly mewn ffordd oedd ceisio cydbwyso hynny â rhywbeth fyddai hefyd yn apelio ar ryw lefel i aelodau llai cerdd-dantllyd y cyhoedd. Ac mi gafwyd hynny.
Mynd i hwyl ag odlau wna Aberdesach yn fwy na dim, yn enwedig wrth lambastio sŵn y gelfyddyd unigryw hon:
Bît cerdd dant yn gwichio’r delyn
Ceg ar agor, tonsils melyn,
Sŵn annaearol dydd lladd mochyn.
Hwyrach mai ychydig yn undonog yw’r penillion byrion, tri llinell hyn, lle mae’r ymgeiswyr eraill wedi llwyddo i greu mwy o stori ohoni. Casgliad Aberdesach, er gwaethaf ceisio pob dull posib i ddianc rhag cerdd dant, yw mai dychwelyd at hen draddodiad ac ymroddiad y bydd yn y pendraw.
Mae’r ddau ymgeisydd arall ar dir tipyn yn uwch y tro hwn, a hynny am y gallaf weld eu gwaith hwy yn cael derbyniad gwresog mewn stomp werin – maent wedi llunio straeon ffraeth, dychanol, sy’n llawn ergydion difyr a dychmygus. Rhwng In Camera ac Anti Karen yr aiff y wobr ariannol yn y gystadleuaeth hon.
Hanes cofi bach a’i ffrind ‘Osh’ ydi ‘Gŵyl Cef Dant’ gan Anti Karen, lle cyflwynir ein llefarydd i ‘ryw Cef Dant’, gan achosi sawl camddealltwriaeth a drama yng nghwrs y gerdd. Mae gan Anti Karen allu i fod yn wirebol-grafog yn gymysg â’r hiwmor mwy slapstic. Dyma enghraifft o’r math hwnnw o arsylwi craff:
Ond udai ’tha chi pwy arall oedd yno
Oedd y plant bach Cymraeg ’ma i gyd.
“Da ni gyd yn siarad ’run peth” udodd Osh.
Jes bo’ rei yn ’i siarad hi ’ipyn mwy posh.
Mae gweld y cyfan trwy lygad plentyn nad yw wedi llawn ddeall yn ddull da iawn i ddychanu confensiynau’r maes – ‘Dyma lleill yn dechrau ysgwyd i gyd / A dyna nuson ni wedyn drw’ pnawn’. Mae angen perfformio hon!
Felly hefyd gerdd In Camera, yr ymgais orau y tro hwn, heb os. Mae comedic timing y bardd hwn i’r dim; ac mae’n deall sut i droi syniad digon cyffredin yn reiat o ddoniolwch:
Mi gana-i chi bwt o osodiad
A ges i gan Menai drw’r post,
Y gainc ydi Codiad yr Hedydd
A nes i ddim cwiblo ei chost.
Yr hyn a geir wedyn yw’r rhestr hirfaith o ofynion penodol (a’r rhesymau amdanynt) sydd gan y llefarydd wrth i Menai Williams fynd ati i lunio’r gosodiad; ac yna’r sylweddoliad fod yr hybarch osodydd wedi cymryd y cyfan yn rhy llythrennol – ‘Pan ganis i’r peth oedd o’n boring uffernol’, meddai, a chanlyniad hynny yw fod Trefnydd yr Ŵyl Gerdd Dant, a’r diwylliant cyfan, dan y lach. Mae’n anodd cyfleu mewn beirniadaeth sych yr hwyl gafodd In Camera wrth ddarganfod yr hiwmor yn y sefyllfa hon; alla i ond gobeithio y daw In Camera â hon i lwyfan stomp werin rhyw ben, i bawb gael ei mwynhau!
Llongyfarchiadau i In Camera, ac i Anti Karen, sy’n cael gweddill y wobr ariannol.