taith CARNEDDI tour
Bydd union fanylion a dolenni yr holl ddigwyddiadau ar y daith yn cael eu hychwanegu isod wrth gael eu cadarnhau / Exact details and links for all events on the tour will be added below as they are confirmed.
Mae ffotograff Geoff Charles o Carneddog a Catrin Griffith yn ‘edrych dros y bryniau pell’ wrth baratoi i ymadael â’u fferm fynyddig ar lethrau Moel y Dyniewyd yn Eryri yn un o ddelweddau mwyaf eiconig y Gymru Gymraeg. Ar wahân i amgylchiadau trasig sefyllfa’r cymeriadau o’i fewn, daeth y llun i gynrychioli dirywiad ffordd o fyw, iaith a diwylliant yng nghefn gwlad Cymru. Bydd y perfformiadau hyn yn cynnwys yr albym cysyniadol Carneddi yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â rhoi rhywfaint o gefndir y gwaith a rhannu deunydd archifol ychwanegol.
Geoff Charles’ photograph of Carneddog and Catrin Griffith looking out ‘across the distant hills’ as they prepared to leave their hill farm in Eryri became one of the Welsh-speaking Wales’ most iconic images. Apart from the tragic circumstances that led to it being taken, the picture came to represent the decline of a way of life, language and culture in rural Wales. These performances will include the conceptual album Carneddi in its entirety, as well as some of the background to the work and sharing of additional archival material.
Diolch i bawb ddaeth i berfformiadau Carneddi yn Wrecsam, Aberystwyth, Trawsfynydd a Chaernarfon. Un dyddiad yn weddill / Thanks to everyone who came to the Carneddi performances in Wrexham, Aberystwyth, Trawsfynydd and Caernarfon. One date remaining:
18.09.2025 | 09:30
NANTMOR / Taith gerdded
**WEDI GOHIRIO / POSTPONED
18.09.2025 | 18:30
NANTMOR / Capel Peniel
Dim angen archebu ymlaen llaw - mynediad trwy gyfraniad i’r capel / no need to book beforehand - entry through contributions to the chapel