Diolch i PYST a BBC Radio Cymru am wneud trac o'r Unnos Gwerin, 'Mynwent Eglwys' yn Drac yr Wythnos. Mae 'Mynwent Eglwys' yn gân werin unigryw ac iasol, ac mae dehongliad lleisiol Sian James a Casi Wyn ohoni'n hudolus. Roedd hi'n fraint arbennig cyfansoddi trydydd pennill at y ddwy wreiddiol. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau ei chlywed hi ar y tonfeddi.
Thanks to PYST and Radio Cymru for making one of the Unnos Gwerin tracks their Track of the Week for this week. 'Mynwent Eglwys' is an unique and hauting folk song, and Sian James and Casi Wyn's vocal interpretation makes it even more so. The first two verses are traditional, and I composed the third during our session at the National Library over the weekend. I hope you enjoy it.
0 Comments
I nodi canmlwyddiant geni’r casglwr a’r canwr gwerin Meredydd Evans mae 6 o gerddorion gwerin yn rhoi gwisg newydd i gasgliad o ganeuon hen a newydd. Y cerddorion sydd wedi derbyn yr her o gyfansoddi trefniannau newydd i rai o ganeuon gwerin amlyca’ Cymru, a hynny mewn llai na 12 awr, ydy Siân James, Gai Toms, Gareth Bonello, Casi Wyn, Iestyn Tyne a Gwenan Gibbard. To note the centenary of the folk singer and collector, Meredydd Evans, six folk musicians revisit Merêd and Phyllis' archive of music. The musicians who have received the challenge of composing new arrangements for some of Wales' folk songs in under 12 hours, are Siân James, Gai Toms, Gareth Bonello, Casi Wyn, Iestyn Tyne and Gwenan Gibbard, Perfformiad/Performance: https://www.bbc.co.uk/programmes/p07pn1n8 Rhaglen/Programme: https://www.bbc.co.uk/programmes/m0008wqy Mae hi wastad yn anodd i feirniad pan fydd yn derbyn un ymgais yn unig mewn cystadleuaeth lenyddol. O’r herwydd, gall fod yn anodd iawn gosod ffon fesur a phenderfynu ar y safon gyffredinol a ddisgwylir. Yn yr un gwynt, rwyf yn ddiolchgar iawn am ymgais DILYS yn y gystadleuaeth hon, sef cerdd dan y teitl ‘Ffenestri dwy’.
Sgwrs rhwng dwy y tybiais i ddechrau bod llwybrau bywyd wedi eu gyrru ar wahân a gawn gan DILYS. Defnyddir ffenestri gwahanol ym mywydau’r ddwy – ‘ffenest fechan dy wlad’, ‘ffenest fechan wen / dy heddiw’, ‘ffenest fechan goch / dy ddyfodol’ yn eu plith – i gyfleu’r ddwy yn cyfarch ei gilydd. Ond wedyn, fe sylweddolais o bosib mai cyfeirio at hanes Y Wladfa a wneir yma, o fynd yn ôl i graffu ar rai o’r llinellau – ‘ymadael i gael rhyddhad’, er enghraifft. Mae’n bosib mai mam a merch sydd yma, ond mae’n bosib mai cymeriad yn y presennol yn cyfarch un o gymeriadau’r gorffennol – un o’r mudwyr cyntaf, efallai – sydd yma hefyd. Yn yr ‘efallai’ a’r ‘o bosib’ yma y gwelir gwendid y gerdd, mewn gwirionedd; sef y teimlir bod neges neu weledigaeth y bardd yn mynd ar goll ar brydiau. Hwyrach y byddai rhyw frawddeg o ragymadrodd yn fuddiol yn yr achos yma. Ar y llaw arall, o’i darllen â golwg mwy cyffredinol ac heb geisio dadansoddi yr union stori sydd yma, mae’r gerdd ar ei gorau yn llwyddo i gyffwrdd rhywun heb ostwng yn ormodol i sentimentalwch. Mae’r gerdd wedi ei gosod mewn modd difyr ac effeithiol, gyda phenillion y cymeriadau am yn ail ar y chwith a’r dde i’r dudalen. Unir eu hanesion yn y bennill olaf, sydd wedi ei osod ar ganol y dudalen, ac sy’n dod â’r cyfanwaith i ben yn gynnil ac emosiynol: Ac un diwrnod, clywir sibrydion deuawdau ein ddoe a heddiw wrth imi gau fy llenni am y tro olaf. Mae naws delynegaidd ac agos-atoch yn y llinellau uchod, sy’n glo cryf i’r gerdd. Gyda hynny o eiriau, rwyf yn fodlon fod DILYS yn teilyngu’r wobr gyntaf a Thlws Telyn Eisteddfod Mimosa. Llongyfarchiadau i Ana Chiabrando, enillydd Tlws Telyn Eisteddfod Mimosa, Porth Madryn 2019. Annwyl Bwyllgor Gwaith, Rwyf wedi bod yn aelod o’r Gymdeithas Gerdd Dafod ers 2016, blwyddyn ei deugain-mlwyddiant. Yng ngholofn olygyddol cyntaf un cylchgrawn Barddas, yn rhifyn Hydref 1976, fe ddatganodd Alan Llwyd mai nod cylchgrawn Barddas fyddai ‘gwarchod un agwedd hynafol a chyfoes ar ein diwylliant ni’, ond, ‘nid ei gwarchod yn amgueddfaol fel ag y gwneir gydag amryw o’n pethau ni fel cenedl, ond ei gwarchod a’i hybu fel rhywbeth byw, cyfoes a thanbaid.’ Roedd y chwyldro, yn ôl pob tebyg, ar droed. Roedd y bwriad yn un anrhydeddus, y geiriau’n rhai gwresog, a’r argoel yn dda. Nid oes gwadu am eiliad gyfraniad cylchgrawn a chyhoeddiadau Barddas i fyd barddoniaeth Gymraeg; ac mae’r gymdeithas yn hwylio i gyfeiriad hanner canrif o fodolaeth, sydd yn gamp ynddo’i hun. Ond mae’n rhaid cydnabod yn ogystal nad gorffennol di-nam yw gorffennol Barddas. Gwnaeth y cylchgrawn enw iddo’i hun yn gynnar iawn yn ei hanes am beidio ag adlewyrchu’n deg drwch y gweithgarwch ym myd barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig yng nghyd-destun diffyg cynrychiolaeth o leisiau menywod. Yn wir, fe gymerodd hyd ganol yr 80au, bron i ddegawd wedi sefydlu’r cylchgrawn, i ysgrif gan ferch ymddangos rhwng y tudalennau. Dynodwyd rhifyn cyfan Ebrill 2018 o gylchgrawn National Geographic fel ‘The Race Issue’. Yn y rhifyn hwnnw, a oedd yn bwrw golwg ar faterion yn ymwneud â hil, roedd erthygl gan John Edwin Mason, Athro ym Mhrifysgol Virginia, a gomisiynwyd gan y cylchgrawn i archwilio eu hanes eu hunain o hiliaeth, cyn troi eu golygon ato mewn cyd-destunau eraill. Fel y dywedodd Susan Goldberg, Uwch-olygydd y cylchgrawn (a’r ferch a’r Iddewes gyntaf i ddal y swydd honno) – ‘To rise above the racism of the past, we must acknowledge it’. Rhowch unrhyw agwedd annifyr arall yn lle ‘racism’ yn y frawddeg yna, ac mae’n sefyll yr un fath. Y gwir yw hyn: er mwyn goroesi a chadw ei hygrededd fel cyhoeddiad yn yr unfed ganrif ar hugain, mae’n rhaid i gylchgrawn Barddas a’r Gymdeithas Gerdd Dafod fynd ati yn yr un modd i ddadorchuddio eu hanes o wahaniaethu ar sail rhywedd; dim ond trwy gydnabod bodolaeth problem o’r fath y mae modd symud ymlaen i’w datrys. Dywedaf ‘datrys’, am fy mod yn berffaith sicr bod y broblem sy’n deillio o hyn yn fyw ac yn iach (os ‘iach’ yw’r gair). Fe welir o’r tabl yn yr atodiad mai’r gymhareb yn ôl rhywedd ar gyfer 10 rhifyn diweddaraf Barddas ar gyfartaledd yw 25 o ddynion i 5 o ferched; neu mewn geiriau eraill, cymhareb o 5:1. Mewn gwirionedd, dyma’r unig ystadegyn sydd ei angen i brofi bod problem ddybryd yn bodoli o hyd, ac y byddai peidio â mynd i’r afael ag o yn anghyfrifol ac yn gamgymeriad difrifol. Fe wnaeth Elan Grug Muse sylw yn ddiweddar i’r perwyl hwn: os yw llai na 20% o gyfrannwyr cylchgrawn yn ferched, a bod y cyhoeddiad hwnnw ddim fel pe bai’n cydnabod fod hynny’n broblem nac yn cymryd camau amlwg i newid y sefyllfa, a ddylai fod yn derbyn nawdd cyhoeddus o gwbl? Mae hwn yn sylw eithriadol o deg. Cyhoeddir Barddas gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru, ac fe nodir hynny’n dwt ar dudalen gyntaf pob rhifyn. Corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw hwn, ac arian y trethdalwr sydd felly yn gyfrifol am alluogi i gyhoeddiad fel Barddas barhau. Os nad yw Barddas yn ymdrechu’n deg i gynrychioli trawstoriad teg o’r boblogaeth sy’n ei noddi, a yw’n rhesymol disgwyl y bydd y llaw sy’n porthi yn parhau i borthi’n ddigwestiwn a diderfyn? Yr ateb a geir yn gyffredin i gwynion o’r math hwn yw nad yw’r cyhoeddiad yn gwahaniaethu yn erbyn menywod am eu bod yr un mor agored i dderbyn cyfraniadau gan fenywod ag y maent gan ddynion. Fe glywais i fardd nid anenwog ddweud yn ddiweddar ‘nad oes deddf yn rhwystro merched rhag barddoni’. Nid wyf yn amau nac yn awgrymu nad yw golygydd Barddas yr un mor agored i dderbyn cyfraniadau gan fenywod ag y mae gan ddynion, ond lle mae gwahaniaethu wedi bod, a hynny dros gyfnod hir o amser; mae’n rhaid mynd ymhellach na dweud bod croeso i fenywod gyfrannu. Mae’n rhaid bod yn rhagweithiol, yn hytrach na honni nad oes dim i’w wneud am y broblem, am mai dewis yr unigolyn yw cyfrannu. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn annog gweithredu positif, sef camau gwirfoddol i’w cymryd tuag at gyflawni’r nodau a ganlyn:
Mewn sefyllfa o’r fath, lle mae’r nifer o fenywod sydd wedi eu cynnwys yn ôl-rifynnau Barddas yn arbennig o isel, mae’n rhaid mynd ymhellach a thu hwnt i ddatgan bod croeso i fenywod gyfrannu. Dylai golygydd y cylchgrawn fod yn anelu at gynrychiolaeth gytbwys. Os yw’n digwydd gweld bod llawer o gyfraniadau at rifyn gan ddynion, dylai wedyn fod yn chwilio’n weithredol am gyfraniadau gan fenywod i gydbwyso hynny. Mae lle hefyd i ystyried y cydbwysedd sydd yn nhermau colofnwyr sefydlog y cylchgrawn a’r sawl sy’n gyfrifol am ei roi at ei gilydd. Trwy wneud hynny, dros amser, rwy’n berffaith sicr y byddai nifer y cyfraniadau gan fenywod sy’n dod i law yn ddiofyn yn tyfu’n organig, am y byddai’r canfyddiad o’r cylchgrawn fel lle diogel a chynhwysol i fenywod rannu eu gwaith yn gwella. Gellir annog yr un agwedd yn union yn yr ymgais i gynnwys grwpiau cymdeithasol eraill sydd wedi eu tan-gynrhychioli: pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl ddosbarth gweithiol, pobl anabl, pobl hoyw a deurywiol, pobl drawsryweddol, ac yn y blaen. Dylai unrhyw gyhoeddiad yn yr unfed ganrif ar hugain fod yn ceisio dal rhwng ei gloriau gymaint â phosib o’r tapestri amryliw o leisiau sydd o fewn ein cymdeithas ac sy’n haeddu cael eu clywed. Rwy’n mawr obeithio y byddwch yn ystyried cynnwys y llythyr hwn o ddifri, ac y bydd yn sbarduno trafodaeth yn eich plith. Rwyf yn grediniol y byddai gwella ar yr agwedd hon o gylchgrawn Barddas yn galluogi i’r cyhoeddiad symud ymlaen yn hyderus i hanner canrif nesaf ei fodolaeth. yn ddiffuant, Iestyn Tyne 1. Cystadleuaeth y Gadair – Cerdd ar y testun ‘Alawon.’
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch o galon i bwyllgor yr eisteddfod am y gwahoddiad i feirniadu cystadleuaeth y gadair eleni. Rwyf wedi edrych ymlaen ers derbyn y gwahoddiad, ac wedi mwynhau fy amser yng nghwmni’r beirdd! Yr her a roddwyd i’r beirdd eleni oedd i gyfansoddi cerdd ar y testun ‘Alawon,’ a hoffwn longyfarch y pwyllgor ar ddewis testun â chymaint o ddehongliadau posib iddi. Siomedig oedd nifer y cerddi a ddaeth i law, ac yr oedd y safon yn anwastad. Serch hynny, y mae ambell fflach yng ngwaith y tair ymgeisydd sydd yn dangos cryn addewid yng ngwaith y beirdd o fynd ati i ddisgyblu a mireinio eu crefft. Ailadrodd y cwestiwn ‘Ga i glywed yr hen alawon eto?’ a wna SEREN, a chawn ddisgrifiadau o atgofion plentyndod sy’n cael eu sbarduno gan yr hen alawon; ‘Taid yn eistedd wrth y piano,’ ac ambell i linell hyfryd megis ‘dan glychau’r poplys a’r gwair golchi traed’. Tinc hiraethus a geir drwyddi draw gan orffen gyda’r cwpled; ‘Ga i hedfan nôl i’r gorffennol / a theimlo’r hen alawon eto?’ Nid oes dim yn newydd am gerdd SEREN, a theimlaf y gallai’r bardd fod wedi dweud rhywbeth mwy wrthom yn hytrach na rhestru atgofion yn unig. Mae’r ailadrodd ar y gair ‘alawon’ ychydig yn feichus ar brydiau – byddai mwy o gynildeb wedi gwella’r gerdd. Wedi dweud hynny mae yma gyffyrddiadau annwyl fel ‘caledwch clyd hen goeden’ sydd yn talu am eu lle yn hawdd. Dalier ati, ac fe allai’r gadair hon fod o fewn gafael y bardd yn y dyfodol. Y mae DISGYNNYDD wedi llyncu geiriadur! Gormod o bwdin i mi braidd oedd y gerdd hon, a gor-ddibyniaeth ar restru fel arf. Cymerer y llinellau hyn, er enghraifft; ‘…am Walia wen, rhinweddau a doniau / ei beirdd, gwladgarwyr, cantorion a chenhadon.’ Nid wyf yn amau bod neges cerdd DISGYNNYDD yn gryfach nac un SEREN, ond gallai fel SEREN fod wedi cwtogi a bod yn fwy beirniadol o’i waith ei hun. Y mae ergyd llinellau clo y gerdd braidd yn aneglur i mi – mae’n bosib bod angen mynd yn ôl at y rhain i weithio arnynt eto. Er gwaethaf y diffygion yn y mynegiant, credaf bod llais diffuant a gonest gan DISGYNYDD, ac mae hynny i’w ganmol. O ddal ati i ddatblygu gall y bardd hwn fel SEREN fod yn ymgeisydd peryglus yn y dyfodol. Gan CROES Y DE y cafwyd mynegiant mwyaf ffres y gystadleuaeth. Tybiaf mai cystadleuydd iau ydyw, ac y mae’n sôn am brofiad a gaiff ar y traeth wedi gadael capel bychan Mwnt yn Ne Sir Geredigion. Dyma flas o’i ganu gorau: Hallt ac oer a miniog yw’r alaw sy’n dawnsio o’n cwmpas, gwahoddai [sic] i mi glywed sgwrs ysgafn fy ffrindiau annwyl eu hanadl gwyrddlas a’u chwerthin mwyn. Y mae hwn ar ei orau yn fardd da sydd â chryn addewid, ond mae llinellau meithion, rhyddieithol a mynegiant chwithig yn ei adael i lawr ar brydiau, megis y rhai hyn: Rwyf wedi symud ymlaen ochr yma’r Iwerydd, ymhellach, ac ar y dibyn rwy’n sefyll nawr, yn nes i’r dŵr. Bid a fo am hynny, y mae hwn yn un sydd yn deall sŵn barddoniaeth, ac y mae’r ffordd yr aeth ati i ddehongli’r testun yn dangos peth gwreiddioldeb hefyd. Mi fum yn hir yn crafu pen ar gwestiwn teilyngdod, gan mai cadeirio addewid a fyddwn yma, yn hytrach na bardd yn ei lawn dŵf. Mae un ymgais yn sefyll uwchlaw’r lleill o dipyn, a chredaf mai teg fyddai cyflwyno’r gadair am y gerdd honno, gyda her i’r bardd i fynd ati i ddatblygu ei grefft ymhellach. Gyda gwaith caled, ni allaf weld rheswm pam na all gipio sawl cadair eto yn y dyfodol, a hei lwc iddo neu iddi ar y genhadaeth honno! Mae’n bleser gennyf gyhoeddi felly mai CROES Y DE sydd yn deilwng o gadair Eisteddfod Bro Hydref, Trevelin 2017, gyda SEREN a DISGYNNYDD yn gydradd drydydd. Llongyfarchiadau mawr i CROES Y DE. 1 - CROES Y DE 2 - NEB YN DEILWNG =3 – SEREN / DISGYNNYDD Braf oedd clywed mai Sara Borda Green o Batagonia sy'n astudio ym mhrifysgol Caerdydd oedd CROES Y DE. Llongyfarchiadau gwresog iddi. 4. Stori fer – ‘Neithiwr’ Siom oedd derbyn un ymgais yn unig i’r gystadleuaeth hon. Rwy’n annog unrhyw un i gefnogi cystadlaethau fel hyn yn y dyfodol – y mae safon cystadlaethau’r ysgrif a’r hunangofiant yn dangos bod hynny o fewn gallu sawl un. Mae stori HYDREF yn disgyn i’r hen ystrydeb o dro yn y gynffon sy’n datgelu mai breuddwyd yw’r cyfan. Y mae hefyd yn stori fer iawn! Am mai ef yw’r unig ymgais, dyfarnaf y wobr gyntaf iddo. 1 – HYDREF 5. Ysgrif – ‘Plentyndod’ Daeth tair ymgais i law yn y gystadleuaeth hon; dwy yn llawer byrrach na’r llall! Mae’n braf gweld y tri ymgeisydd yn mynd ati i ddehongli testun mewn ffyrdd gwahanol i’w gilydd. Gosodaf AIL BLENTYNDOD yn drydydd yn y gystadleuaeth, am ysgrif sy’n edrych ar blentyndod o ochr y gwyddonydd a’r Cristion. Mae hon yn ysgrif sydd yn llawn o ffeithiau, ac er mor ddifyr yw’r rheiny, mae’n bosib mai oddi yma y daw gwendid yr ysgrif hefyd, gan nad oedd yn llifo cystal â’r ysgrifau a osodwyd yn uwch. Er hynny, roedd yn ddifyr i’w ddarllen. Daw UN OHONYNT yn ail am ysgrif ddigon treiddgar, os ychydig yn fyr, yn edrych ar ei blentyndod o safbwynt sut y gallai rhywun arall fod wedi ei weld. Ceir dweud hyfryd sydd yn taro goleuni ar blentyndod yr unigolyn a’r hen ffordd o fyw; ‘Cael pryd o fwyd oer ar ganol dydd, megis picnic, cymryd rhan yn yr Ysgol Sul, adrodd ar ein cof adroddiad o’r Beibl; cael te wedyn o dan y coed “maitenes”, a chadw distawrwydd ar hyd y cwrdd gweddi… ac adref yn y cerbyd o ddau geffyl cyd a’r nos.’ Yr ysgrif sy’n dod i’r brig yw ysgrif swmpus CARDI. Y mae’r ysgrif hon yn rhoi golwg fanwl i ni ar blentyndod yng Ngheredigion yn y 1950au. Mae’r iaith yn rymus a’r mynegiant yn gadarn drwyddi draw, ac mae’n bleser gen i ddyfarnu’r wobr iddi. 1 – CARDI 2 – UN OHONYNT 3 – AIL BLENTYNDOD 6. Hunangofiant hen goeden Dyma syniad gwreiddiol a gwych am gystadleuaeth! Daeth tair ymgais i law, a phob un yn dangos gwir ymdrech. Yn drydydd gosodaf UN OHONYNT, am hunangofiant a ddysgodd lawer i mi, fel un o Gymru, am y ffordd o fyw ym Mhatagonia. Hoffaf y syniad y bydd y goeden o ddefnydd hyd yn oed wedi iddi farw, fel ember i grasu cig asado. Daw YMA O HYD yn ail yn y gystadleuaeth am hunangofiant hen goeden sydd yn gweld pobl yn mynd a dod i fyw yn y tŷ wrth ei ochr, ac yn gweld mai ei ddyletswydd fydd eu gwarchod rhag tymhestloedd bywyd, yn ogystal a rhoi pricyll iddynt eu bwyta! Mae’r rhod yn troi erbyn diwedd yr hunangofiant lle mae’r hen goeden yn gweld coeden newydd yn tyfu wrth ei ochr, ‘yn union fel ac yr oeddwn i bron i hanner canrif yn ôl.’ Helygen Wylofus (Weeping Willow) yw testun hunangofiant COFIO, ac mae ei hunangofiant yn un annwyl ac effeithiol. Dyma flas ar ei ysgrifennu naturiol a chartrefol: ‘Cinio syml oedd o, cinio teulu ffarm; sleisen o gig ar ddarn o fara cartre a phawb yn eistedd o gwmpas yn mwynhau. Pwdin llaeth i orffen falle. Dim helynt, dim ffys.’ Y mae COFIO yn llwyr deilwng o’r wobr gyntaf. 1 – COFIO 2 – YMA O HYD 3 – UN OHONYNT |