Mae Iestyn Tyne wedi ennill coron a chadair Eisteddfod yr Urdd ac wedi ei ddewis yn fardd preswyl Eisteddfod Genedlaethol 2021, ond fe allai bywyd wedi bod yn wahanol iawn i'r bardd o Ben Llŷn pe na bai ei rieni o dde Lloegr wedi penderfynu ceisio am swydd i redeg fferm ar Ynys Enlli.
Daw tad Iestyn, Tim Tyne o Lundain yn wreiddiol, a'i fam Dot, o Sussex, ac er nad oedd amaethyddiaeth yn rhan o'u cefndir teuluol o gwbl, penderfynodd y ddau fynd i astudio'r pwnc yn Aberystwyth. "Fe wnaethon nhw gyfarfod yn y Coleg Amaethyddol yn Aberystwyth yn y 90au," eglurai Iestyn. "Fe gawson nhw wedyn eu cyflogi i redeg y fferm ar Ynys Enlli. darllen mwy / read more
0 Comments
Leave a Reply. |