IESTYN TYNE
  • Hafan / Home
  • Cerddor / Musician
    • Recordiau / Records
    • FIDEOS / VIDEOS
  • Awdur / Writer
    • Cyhoeddiadau / Publications
    • Barddoniaeth / Poetry >
      • Comisiynu / Commissioning
      • Adolygiadau / Reviews
    • Ymchwil / Research
    • Gwobrau / Awards
  • Golygydd / Editor
  • DYDDIADUR / DIARY
  • Cysylltu / Contact
  • Blog

Cerdd #3: 'Does 'na'm trên i Afonwen ...'

27/2/2020

0 Comments

 
Picture
Dyma gerdd ddiweddaraf prosiect Bardd Preswyl Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2021 - cerdd ar y cyd gan flynyddoedd 3, 4, 5 a 6 yn ysgolion Llanaelhaearn a Chwilog, yn dilyn trafod yr eisteddfod a'r hyn y mae 'hunaniaeth' yn ei olygu i wahanol bobl ...

Does 'na'm trên i Afonwen

Does ’na’m trên i Afonwen –
dewch ar y bws efo Miss Owen!
Dewch dan gysgod Tre’r Ceiri –
be welwch chi drwy’r ffenestri?
 
Ifan Garej yn trwsio car,
ogla pei o siop y bwtsiar;
yn ei glocsia’ ma’ PC Owen
yn dawnsio efo Catrin Alwen!
 
Cidwm, ci bach Rhys a Meinir,
adfeilion Celtaidd hyd y tir;
dacw’r sant a dacw’i ael
haearn yn sgleinio yn yr haul.
 
Mr Huw ar yr ukelele
a’r pentre’n llawn o hwyl a sbri;
pawb yn y Neuadd ar gyfer y steddfod
a’r gwartheg yn canu ar gaeau Rhoshafod.
 
Dawnsio mae’r dail ar hyd y Lôn Goed
a Gordon Huws ar y llwybr troed,
ac o dan y tonnau ger Chwarel Trefor
mae’r pysgod yn canu fel côr yn y môr.

----

Diolch am y gwahoddiad i fynd i Ysgol Chwilog i dreulio'r pnawn hefo disgyblion y ddwy ysgol. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at sgwennu cerddi tebyg hefo disgyblion mewn ysgolion eraill dros y flwyddyn nesa, a gweu cerdd groeso enfawr o'r cyfan.
0 Comments



Leave a Reply.

    Archifau

    February 2021
    January 2021
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    February 2020
    January 2020
    December 2019
    November 2019
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    May 2017

    Categorïau

    All
    Bardd Preswyl Yr Eisteddfod Genedlaethol Y Cerddi
    Bardd Preswyl Yr Eisteddfod Genedlaethol - Y Cerddi

    RSS Feed

CYMDEITHASOL

#yndarllen / #amreading
Land: How the Hunger for Ownership Shaped the Modern World - Simon Winchester
Proffil GoodReads Profile
Hawlfraint / Copyright  Iestyn Tyne 2021
  • Hafan / Home
  • Cerddor / Musician
    • Recordiau / Records
    • FIDEOS / VIDEOS
  • Awdur / Writer
    • Cyhoeddiadau / Publications
    • Barddoniaeth / Poetry >
      • Comisiynu / Commissioning
      • Adolygiadau / Reviews
    • Ymchwil / Research
    • Gwobrau / Awards
  • Golygydd / Editor
  • DYDDIADUR / DIARY
  • Cysylltu / Contact
  • Blog