Dyma gerdd ddiweddaraf prosiect Bardd Preswyl Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2021 - cerdd ar y cyd gan flynyddoedd 3, 4, 5 a 6 yn ysgolion Llanaelhaearn a Chwilog, yn dilyn trafod yr eisteddfod a'r hyn y mae 'hunaniaeth' yn ei olygu i wahanol bobl ...
Does 'na'm trên i Afonwen Does ’na’m trên i Afonwen – dewch ar y bws efo Miss Owen! Dewch dan gysgod Tre’r Ceiri – be welwch chi drwy’r ffenestri? Ifan Garej yn trwsio car, ogla pei o siop y bwtsiar; yn ei glocsia’ ma’ PC Owen yn dawnsio efo Catrin Alwen! Cidwm, ci bach Rhys a Meinir, adfeilion Celtaidd hyd y tir; dacw’r sant a dacw’i ael haearn yn sgleinio yn yr haul. Mr Huw ar yr ukelele a’r pentre’n llawn o hwyl a sbri; pawb yn y Neuadd ar gyfer y steddfod a’r gwartheg yn canu ar gaeau Rhoshafod. Dawnsio mae’r dail ar hyd y Lôn Goed a Gordon Huws ar y llwybr troed, ac o dan y tonnau ger Chwarel Trefor mae’r pysgod yn canu fel côr yn y môr. ---- Diolch am y gwahoddiad i fynd i Ysgol Chwilog i dreulio'r pnawn hefo disgyblion y ddwy ysgol. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at sgwennu cerddi tebyg hefo disgyblion mewn ysgolion eraill dros y flwyddyn nesa, a gweu cerdd groeso enfawr o'r cyfan.
0 Comments
Englyn enwog R. Williams Parry i Neuadd Mynytho biau'r diolch am y teitl, ac wrth i bwyllgorau apêl ar draws Llŷn ac Eifionydd gychwyn ar eu gwaith, mi fydd gan ein neuaddau pentref ni rôl bwysig yn y gwaith o ddwyn pobl ynghyd. Mewn byd brawychus, nid bychan yw gwerth hynny.
Cyd-ddyheu Os, yn fyd-eang, y teimlwn angau a’i wrando astud yng ngraen ein distiau; a’r diawl ar gerdded trwy’n cymunedau yn hwylio’r te ac yn hawlio’r toeau, rhoi nodwydd ar hen edau – trwsio’r gliw wnawn ninnau heddiw yn ein neuaddau. |