Fy ngherdd gyntaf fel Bardd Preswyl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2021, a ddarlledwyd ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru. Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus i ddechrau ar y gwaith, mae'n defnyddio enwau rhai o'r caeau fydd yn ffurfio Maes yr Eisteddfod ym Moduan. (Llun: Illtud Daniel/Prosiect Cynefin)
’Steddfod y Lloeau Mae ’na sibrwd yn y cloddiau a sôn ar hyd y fro bod y jamborî blynyddol yn dod atom ni am dro; mi wn y daw y byd a’i nain i’r seiad fawr yng Nghae Llo Main. Mi fydd pafiliwn Bodfel yn destun chwedlau lu; a thiroedd glas Boduan y maes prydfertha’ fu; Gwir yw’r straeon – daeth yr awr A’n prifwyl ni yng Nghae Llo Mawr! A phan ddaw’n amser pacio tan gwmwl, fore Sul a’i mwydro hi am adra ar hyd y cefnffyrdd cul go chwith fydd gorfod canu’n iach i’r ’steddfod fu yng Nghae Llo Bach.
12 Comments
|