*Nodyn: Rwyf bellach wedi cael ymddiheuriad am y mater hwn, ac wedi'i dderbyn. Nid oedd tynnu sylw at y peth gymaint amdanaf fi'n bersonol ag am sicrhau na fyddai'n digwydd i rywun arall eto. Rwyf yn ffyddiog o'r neges a dderbyniais fod yna fwriad ystyried ac ymrwymo i hynny.
----- Ar dudalen 49 rhifyn diweddaraf cylchgrawn Barddas (348, Gaeaf 2021) ceir englyn o fy ngwaith a gyfansoddwyd mewn ymateb i’r newyddion fod 30 o swyddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dan fygythiad oni bai bod Llywodraeth Cymru yn fodlon rhoi cyllid teg i’r sefydliad hwnnw eu diogelu. Cyhoeddwyd y gerdd hon heb fy nghaniatâd. Nid wyf, ar unrhyw adeg ers cyhoeddi’r englyn ar Twitter, wedi derbyn gohebiaeth o fath yn y byd gan olygydd Barddas i ofyn am ganiatâd i rannu’r gerdd yn y cylchgrawn. Nid yw cyhoeddi gwaith ar-lein gyfystyr ag ildio hawlfraint; ac nid yw’r gerdd chwaith yn gynnyrch comisiwn, a fyddai wedi pasio’r hawliau cyhoeddi ymlaen i barti arall. Nid oes neb arall wedi crybwyll neu ofyn am gael cyhoeddi'r englyn yn y cylchgrawn, chwaith. Ymhellach na hyn, cyhoeddwyd yr englyn gwreiddiol yn ddi-deitl. Mae golygydd Barddas wedi penderfynu ychwanegu ei deitl ei hun, a hwnnw’n deitl na fyddwn wedi ei ddewis fy hun, pa beth bynnag fo gwerth hynny. Penderfynodd hefyd wneud newidiadau i’r atalnodi; eto, heb ymgynghori â’r awdur. Yn goron ar y cyfan, mae’r englyn wedi ei gyhoeddi gyda chamdeipiad yn y cyrch. Yn lle ‘gwario’, ceir ‘gwawrio’, sy’n gwneud holl neges y gerdd yn gwbl ddiystyr. Ceir ail gamdeipiad ar ddiwedd yr ail linell - 'greiriach' (treiglad creiriach) sydd i fod, yn hytrach na'r 'geiriach' sy'n ymddangos. Gall rhywun ddeall, a maddau, gwallau golygyddol. Mae pawb wedi llithro wrth deipio – ond mae dwyn gwaith a’i gyhoeddi heb ganiatâd yn anoddach ymresymu ag o. Fel mae’n digwydd, ac am resymau personol, mae’n debygol iawn y byddwn wedi gwrthod y cais i gyhoeddi pe bai wedi fy nghyrraedd, hefyd. Does gen i ddim amheuaeth na fydd rhai yn fy nghyhuddo o hollti blew; yn dweud y dylwn adael i fater dibwys un gerdd fer fynd heibio. Ond fel awdur sy’n gobeithio adeiladu gyrfa yn y maes creadigol, mae’r ymddygiad golygyddol anghyfrifol yn dibrisio’r llafur y tu ôl i’r gerdd, y cymryd yn ganiataol yn gnoc i’r hyder, a rhoi'r gerdd drwy'r mangl yn chwerwi fymryn ar ganlyniad ymgyrch lwyddiannus yr o’n i’n falch o gael cyfrannu ati. ----- Dyma’r englyn gwreiddiol fel y dylai ddarllen: 'Mae gennym blan amgenach – na gwario gwirion ar hen greiriach. Pa iws cael llyfrgell bellach? Cawn o hon arbedion bach.' ----- Y bwriad wrth gyhoeddi'r neges yn gyhoeddus fel hyn yw sicrhau fod unrhyw drafodaeth sy'n deillio ohoni yn un gwbl agored ac adeiladol.
1 Comment
'Mae gennym blan amgenach na gwario
gwirion ar hen greiriach. Pa iws cael llyfrgell bellach? Cawn o hon arbedion bach.' https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/244641 Newyddion da: https://www.cambrian-news.co.uk/article.cfm?id=135004 Pleser oedd ymgymryd â chomisiwn diweddar i ysgrifennu englyn yn anrheg Nadolig cyntaf i Ifan Elis, hanner-Cymro sy'n byw yn yr Alban.
Ifan Elis Er mor fach yw murmur ei fyd - trwy'i iaith, trwy'i wên yr-un-ffunud, y mae rhan o Gymru o hyd yn Alban Ifan hefyd. ----- Cysylltwch os hoffech drafod comisiynu englyn i ddathlu neu goffau achlysur neu berson. Comisiynwyd yr englynion hyn gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer sesiwn 'Cerddi AmGen ein Prifeirdd' yn eisteddfod ddigidol 2020 / These englynion were comissioned by the National Eisteddfod for the digital eisteddfod of 2020. Garddio
Gweithred hardd ydy garddio. Yn araf cei wared â'r rhuo yn dy ben, er gwaethed y bo; cei freuder, mwynder y mendio a rhyw reidrwydd dirodres, yn haul braf ar ddysgl bridd gynnes, i godi rhaw, torchi llawes, a phlannu hadau llysiau lles. Roedd yn braf cael gwahoddiad i gyfrannu at Oedfa Radio Cymru ar 24 Mai, dan arweiniad aelodau Urdd Gobaith Cymru ar ddechrau wythnos Eisteddfod-T. Gallwch glywed cerdd gen i, 'Wedyn (IV)', yn ystod y rhaglen, sydd ar gael i wrando yn ôl am fis yma:
https://www.bbc.co.uk/programmes/m000jdwn Diolch i griw Llanw Llŷn am y gwahoddiad i feirniadu'r gystadleuaeth flynyddol hon am eleni, a llongyfarchiadau i Llŷr Titus am ei hennill hi.
Mae gweddill rhifyn Mai y Llanw ar gael i'w darllen yma. Mae ein noson lenyddol ddiweddar o'r Cymoedd bellach ar gael i bawb ei hailfyw ac ailfwynhau'r cyfoeth o straeon a cherddi a gafwyd gan y pedwar awdur.
Mae pamffled digidol o waith y noson ar gael o https://www.ystamp.cymru/llyfraudigidol Diolch i Grug Muse am gynnwys 'Cywilydd III' ar ei rhestr o gerddi ar gyfer cyfnod ansicr. Gellir darllen yr eitem ar wefan Cymru Fyw yma:
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52487631 Cynghanedd Workshop: Zoom, Sunday 28 June - 3-4pm
Guided poetry workshop by Iestyn Tyne from Y Stamp: 'An introduction to the Welsh poetic art of cynghanedd.' We will explore how its principles can be applied and adapted to writing in English. Tickets: https://www.eventbrite.com/e/where-im-coming-from-digital-events-tickets-104200524574
|