IESTYN TYNE
  • Hafan / Home
  • Cerddor / Musician
    • Recordiau / Records
    • FIDEOS / VIDEOS
  • Awdur / Writer
    • Cyhoeddiadau / Publications
    • Barddoniaeth / Poetry >
      • Comisiynu / Commissioning
      • Adolygiadau / Reviews
    • Rhyddiaith / Prose
    • Ymchwil / Research
    • Gwobrau / Awards
  • Art / Celf
  • Golygydd / Editor
  • DYDDIADUR / DIARY
    • Archif / Archive
  • Cysylltu / Contact
  • Blog

Beirniadaethau Llên Eisteddfod Bro Hydref, Trevelin, Patagonia 2017

31/5/2017

0 Comments

 
1. Cystadleuaeth y Gadair – Cerdd ar y testun ‘Alawon.’

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch o galon i bwyllgor yr eisteddfod am y gwahoddiad i feirniadu cystadleuaeth y gadair eleni. Rwyf wedi edrych ymlaen ers derbyn y gwahoddiad, ac wedi mwynhau fy amser yng nghwmni’r beirdd!

Yr her a roddwyd i’r beirdd eleni oedd i gyfansoddi cerdd ar y testun ‘Alawon,’ a hoffwn longyfarch y pwyllgor ar ddewis testun â chymaint o ddehongliadau posib iddi.

Siomedig oedd nifer y cerddi a ddaeth i law, ac yr oedd y safon yn anwastad. Serch hynny, y mae ambell fflach yng ngwaith y tair ymgeisydd sydd yn dangos cryn addewid yng ngwaith y beirdd o fynd ati i ddisgyblu a mireinio eu crefft.

Ailadrodd y cwestiwn ‘Ga i glywed yr hen alawon eto?’ a wna SEREN, a chawn ddisgrifiadau o atgofion plentyndod sy’n cael eu sbarduno gan yr hen alawon; ‘Taid yn eistedd wrth y piano,’ ac ambell i linell hyfryd megis ‘dan glychau’r poplys a’r gwair golchi traed’. Tinc hiraethus a geir drwyddi draw gan orffen gyda’r cwpled; ‘Ga i hedfan nôl i’r gorffennol / a theimlo’r hen alawon eto?’  Nid oes dim yn newydd am gerdd SEREN, a theimlaf y gallai’r bardd fod wedi dweud rhywbeth mwy wrthom yn hytrach na rhestru atgofion yn unig. Mae’r ailadrodd ar y gair ‘alawon’ ychydig yn feichus ar brydiau – byddai mwy o gynildeb wedi gwella’r gerdd. Wedi dweud hynny mae yma gyffyrddiadau annwyl fel ‘caledwch clyd hen goeden’ sydd yn talu am eu lle yn hawdd. Dalier ati, ac fe allai’r gadair hon fod o fewn gafael y bardd yn y dyfodol.

Y mae DISGYNNYDD wedi llyncu geiriadur! Gormod o bwdin i mi braidd oedd y gerdd hon, a gor-ddibyniaeth ar restru fel arf. Cymerer y llinellau hyn, er enghraifft; ‘…am Walia wen, rhinweddau a doniau / ei beirdd, gwladgarwyr, cantorion a chenhadon.’ Nid wyf yn amau bod neges cerdd DISGYNNYDD yn gryfach nac un SEREN, ond gallai fel SEREN fod wedi cwtogi a bod yn fwy beirniadol o’i waith ei hun. Y mae ergyd llinellau clo y gerdd braidd yn aneglur i mi – mae’n bosib bod angen mynd yn ôl at y rhain i weithio arnynt eto. Er gwaethaf y diffygion yn y mynegiant, credaf bod llais diffuant a gonest gan DISGYNYDD, ac mae hynny i’w ganmol. O ddal ati i ddatblygu gall y bardd hwn fel SEREN fod yn ymgeisydd peryglus yn y dyfodol.

Gan CROES Y DE y cafwyd mynegiant mwyaf ffres y gystadleuaeth. Tybiaf mai cystadleuydd iau ydyw, ac y mae’n sôn am brofiad a gaiff ar y traeth wedi gadael capel bychan Mwnt yn Ne Sir Geredigion. Dyma flas o’i ganu gorau:

Hallt ac oer a miniog
yw’r alaw sy’n dawnsio o’n cwmpas,
gwahoddai [sic] i mi glywed
sgwrs ysgafn fy ffrindiau annwyl
eu hanadl gwyrddlas
a’u chwerthin mwyn.


Y mae hwn ar ei orau yn fardd da sydd â chryn addewid, ond mae llinellau meithion, rhyddieithol a mynegiant chwithig yn ei adael i lawr ar brydiau, megis y rhai hyn:

Rwyf wedi symud ymlaen ochr yma’r Iwerydd,
ymhellach,
ac ar y dibyn rwy’n sefyll nawr, yn
nes i’r dŵr.


Bid a fo am hynny, y mae hwn yn un sydd yn deall sŵn barddoniaeth, ac y mae’r ffordd yr aeth ati i ddehongli’r testun yn dangos peth gwreiddioldeb hefyd.

Mi fum yn hir yn crafu pen ar gwestiwn teilyngdod, gan mai cadeirio addewid a fyddwn yma, yn hytrach na bardd yn ei lawn dŵf. Mae un ymgais yn sefyll uwchlaw’r lleill o dipyn, a chredaf mai teg fyddai cyflwyno’r gadair am y gerdd honno, gyda her i’r bardd i fynd ati i ddatblygu ei grefft ymhellach. Gyda gwaith caled, ni allaf weld rheswm pam na all gipio sawl cadair eto yn y dyfodol, a hei lwc iddo neu iddi ar y genhadaeth honno! Mae’n bleser gennyf gyhoeddi felly mai CROES Y DE sydd yn deilwng o gadair Eisteddfod Bro Hydref, Trevelin 2017, gyda SEREN a DISGYNNYDD yn gydradd drydydd. Llongyfarchiadau mawr i CROES Y DE.

1 - CROES Y DE
2 - NEB YN DEILWNG
=3 – SEREN / DISGYNNYDD

Braf oedd clywed mai Sara Borda Green o Batagonia sy'n astudio ym mhrifysgol Caerdydd oedd CROES Y DE. Llongyfarchiadau gwresog iddi.

 4. Stori fer – ‘Neithiwr’
Siom oedd derbyn un ymgais yn unig i’r gystadleuaeth hon. Rwy’n annog unrhyw un i gefnogi cystadlaethau fel hyn yn y dyfodol – y mae safon cystadlaethau’r ysgrif a’r hunangofiant yn dangos bod hynny o fewn gallu sawl un.

Mae stori HYDREF yn disgyn i’r hen ystrydeb o dro yn y gynffon sy’n datgelu mai breuddwyd yw’r cyfan. Y mae hefyd yn stori fer iawn! Am mai ef yw’r unig ymgais, dyfarnaf y wobr gyntaf iddo.

1 – HYDREF

5. Ysgrif – ‘Plentyndod’

Daeth tair ymgais i law yn y gystadleuaeth hon; dwy yn llawer byrrach na’r llall! Mae’n braf gweld y tri ymgeisydd yn mynd ati i ddehongli testun mewn ffyrdd gwahanol i’w gilydd.

Gosodaf AIL BLENTYNDOD yn  drydydd yn y gystadleuaeth, am ysgrif sy’n edrych ar blentyndod o ochr y gwyddonydd a’r Cristion. Mae hon yn ysgrif sydd yn llawn o ffeithiau, ac er mor ddifyr yw’r rheiny, mae’n bosib mai oddi yma y daw gwendid yr ysgrif hefyd, gan nad oedd yn llifo cystal â’r ysgrifau a osodwyd yn uwch. Er hynny, roedd yn ddifyr i’w ddarllen.

Daw UN OHONYNT yn ail am ysgrif ddigon treiddgar, os ychydig yn fyr, yn edrych ar ei blentyndod o safbwynt sut y gallai rhywun arall fod wedi ei weld. Ceir dweud hyfryd sydd yn taro goleuni ar blentyndod yr unigolyn a’r hen ffordd o fyw;

‘Cael pryd o fwyd oer ar ganol dydd, megis picnic, cymryd rhan yn yr Ysgol Sul, adrodd ar ein cof adroddiad o’r Beibl; cael te wedyn o dan y coed “maitenes”, a chadw distawrwydd ar hyd y cwrdd gweddi… ac adref yn y cerbyd o ddau geffyl cyd a’r nos.’

Yr ysgrif sy’n dod i’r brig yw ysgrif swmpus CARDI. Y mae’r ysgrif hon yn rhoi golwg fanwl i ni ar blentyndod yng Ngheredigion yn y 1950au. Mae’r iaith yn rymus a’r mynegiant yn gadarn drwyddi draw, ac mae’n bleser gen i ddyfarnu’r wobr iddi.

1 – CARDI
2 – UN OHONYNT
3 – AIL BLENTYNDOD

6. Hunangofiant hen goeden

Dyma syniad gwreiddiol a gwych am gystadleuaeth! Daeth tair ymgais i law, a phob un yn dangos gwir ymdrech.

Yn drydydd gosodaf UN OHONYNT, am hunangofiant a ddysgodd lawer i mi, fel un o Gymru, am y ffordd o fyw ym Mhatagonia. Hoffaf y syniad y bydd y goeden o ddefnydd hyd yn oed wedi iddi farw, fel ember i grasu cig asado.

Daw YMA O HYD yn ail yn y gystadleuaeth am hunangofiant hen goeden sydd yn gweld pobl yn mynd a dod i fyw yn y tŷ wrth ei ochr, ac yn gweld mai ei ddyletswydd fydd eu gwarchod rhag tymhestloedd bywyd, yn ogystal a rhoi pricyll iddynt eu bwyta! Mae’r rhod yn troi erbyn diwedd yr hunangofiant lle mae’r hen goeden yn gweld coeden newydd yn tyfu wrth ei ochr, ‘yn union fel ac yr oeddwn i bron i hanner canrif yn ôl.’

Helygen Wylofus (Weeping Willow) yw testun hunangofiant COFIO, ac mae ei hunangofiant yn un annwyl ac effeithiol. Dyma flas ar ei ysgrifennu naturiol a chartrefol:

‘Cinio syml oedd o, cinio teulu ffarm; sleisen o gig ar ddarn o fara cartre a phawb yn eistedd o gwmpas yn mwynhau. Pwdin llaeth i orffen falle. Dim helynt, dim ffys.’

Y mae COFIO yn llwyr deilwng o’r wobr gyntaf.
​
​1 – COFIO
2 – YMA O HYD
3 – UN OHONYNT
0 Comments



Leave a Reply.

    Archifau

    January 2021
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    February 2020
    January 2020
    December 2019
    November 2019
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    May 2017

    Categorïau

    All
    Bardd Preswyl Yr Eisteddfod Genedlaethol Y Cerddi
    Bardd Preswyl Yr Eisteddfod Genedlaethol - Y Cerddi

    RSS Feed

CYMDEITHASOL

#yndarllen / #amreading
Where the Crawdads Sing - Delia Owens
Proffil GoodReads Profile
Hawlfraint / Copyright  Iestyn Tyne 2020
  • Hafan / Home
  • Cerddor / Musician
    • Recordiau / Records
    • FIDEOS / VIDEOS
  • Awdur / Writer
    • Cyhoeddiadau / Publications
    • Barddoniaeth / Poetry >
      • Comisiynu / Commissioning
      • Adolygiadau / Reviews
    • Rhyddiaith / Prose
    • Ymchwil / Research
    • Gwobrau / Awards
  • Art / Celf
  • Golygydd / Editor
  • DYDDIADUR / DIARY
    • Archif / Archive
  • Cysylltu / Contact
  • Blog