IESTYN TYNE
  • Hafan / Home
  • Cerddor / Musician
    • Recordiau / Records
    • FIDEOS / VIDEOS
  • Awdur / Writer
    • Cyhoeddiadau / Publications
    • Barddoniaeth / Poetry >
      • Comisiynu / Commissioning
      • Adolygiadau / Reviews
    • Rhyddiaith / Prose
    • Ymchwil / Research
    • Gwobrau / Awards
  • Art / Celf
  • Golygydd / Editor
  • DYDDIADUR / DIARY
    • Archif / Archive
  • Cysylltu / Contact
  • Blog

Beirniadaeth Tlws Telyn Eisteddfod Mimosa, Patagonia - Awst 2019

2/8/2019

0 Comments

 
Mae hi wastad yn anodd i feirniad pan fydd yn derbyn un ymgais yn unig mewn cystadleuaeth lenyddol. O’r herwydd, gall fod yn anodd iawn gosod ffon fesur a phenderfynu ar y safon gyffredinol a ddisgwylir. Yn yr un gwynt, rwyf yn ddiolchgar iawn am ymgais DILYS yn y gystadleuaeth hon, sef cerdd dan y teitl ‘Ffenestri dwy’.

Sgwrs rhwng dwy y tybiais i ddechrau bod llwybrau bywyd wedi eu gyrru ar wahân a gawn gan DILYS. Defnyddir ffenestri gwahanol ym mywydau’r ddwy – ‘ffenest fechan dy wlad’, ‘ffenest fechan wen / dy heddiw’, ‘ffenest fechan goch / dy ddyfodol’ yn eu plith – i gyfleu’r ddwy yn cyfarch ei gilydd. Ond wedyn, fe sylweddolais o bosib mai cyfeirio at hanes Y Wladfa a wneir yma, o fynd yn ôl i graffu ar rai o’r llinellau – ‘ymadael i gael rhyddhad’, er enghraifft.

Mae’n bosib mai mam a merch sydd yma, ond mae’n bosib mai cymeriad yn y presennol yn cyfarch un o gymeriadau’r gorffennol – un o’r mudwyr cyntaf, efallai – sydd yma hefyd. Yn yr ‘efallai’ a’r ‘o bosib’ yma y gwelir gwendid y gerdd, mewn gwirionedd; sef y teimlir bod neges neu weledigaeth y bardd yn mynd ar goll ar brydiau. Hwyrach y byddai rhyw frawddeg o ragymadrodd yn fuddiol yn yr achos yma. Ar y llaw arall, o’i darllen â golwg mwy cyffredinol ac heb geisio dadansoddi yr union stori sydd yma, mae’r gerdd ar ei gorau yn llwyddo i gyffwrdd rhywun heb ostwng yn ormodol i sentimentalwch. Mae’r gerdd wedi ei gosod mewn modd difyr ac effeithiol, gyda phenillion y cymeriadau am yn ail ar y chwith a’r dde i’r dudalen. Unir eu hanesion yn y bennill olaf, sydd wedi ei osod ar ganol y dudalen, ac sy’n dod â’r cyfanwaith i ben yn gynnil ac emosiynol:

Ac un diwrnod,
clywir sibrydion
deuawdau ein ddoe a heddiw
wrth imi gau fy llenni
                                       am y tro olaf.
 
Mae naws delynegaidd ac agos-atoch yn y llinellau uchod, sy’n glo cryf i’r gerdd.
​
Gyda hynny o eiriau, rwyf yn fodlon fod DILYS yn teilyngu’r wobr gyntaf a Thlws Telyn Eisteddfod Mimosa.

Llongyfarchiadau i Ana Chiabrando, enillydd Tlws Telyn Eisteddfod Mimosa, Porth Madryn 2019.
0 Comments



Leave a Reply.

    Archifau

    February 2021
    January 2021
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    February 2020
    January 2020
    December 2019
    November 2019
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    May 2017

    Categorïau

    All
    Bardd Preswyl Yr Eisteddfod Genedlaethol Y Cerddi
    Bardd Preswyl Yr Eisteddfod Genedlaethol - Y Cerddi

    RSS Feed

CYMDEITHASOL

#yndarllen / #amreading
Wanderlust - Rebecca Solnit
Proffil GoodReads Profile
Hawlfraint / Copyright  Iestyn Tyne 2021
  • Hafan / Home
  • Cerddor / Musician
    • Recordiau / Records
    • FIDEOS / VIDEOS
  • Awdur / Writer
    • Cyhoeddiadau / Publications
    • Barddoniaeth / Poetry >
      • Comisiynu / Commissioning
      • Adolygiadau / Reviews
    • Rhyddiaith / Prose
    • Ymchwil / Research
    • Gwobrau / Awards
  • Art / Celf
  • Golygydd / Editor
  • DYDDIADUR / DIARY
    • Archif / Archive
  • Cysylltu / Contact
  • Blog