Mae hi wastad yn anodd i feirniad pan fydd yn derbyn un ymgais yn unig mewn cystadleuaeth lenyddol. O’r herwydd, gall fod yn anodd iawn gosod ffon fesur a phenderfynu ar y safon gyffredinol a ddisgwylir. Yn yr un gwynt, rwyf yn ddiolchgar iawn am ymgais DILYS yn y gystadleuaeth hon, sef cerdd dan y teitl ‘Ffenestri dwy’.
Sgwrs rhwng dwy y tybiais i ddechrau bod llwybrau bywyd wedi eu gyrru ar wahân a gawn gan DILYS. Defnyddir ffenestri gwahanol ym mywydau’r ddwy – ‘ffenest fechan dy wlad’, ‘ffenest fechan wen / dy heddiw’, ‘ffenest fechan goch / dy ddyfodol’ yn eu plith – i gyfleu’r ddwy yn cyfarch ei gilydd. Ond wedyn, fe sylweddolais o bosib mai cyfeirio at hanes Y Wladfa a wneir yma, o fynd yn ôl i graffu ar rai o’r llinellau – ‘ymadael i gael rhyddhad’, er enghraifft. Mae’n bosib mai mam a merch sydd yma, ond mae’n bosib mai cymeriad yn y presennol yn cyfarch un o gymeriadau’r gorffennol – un o’r mudwyr cyntaf, efallai – sydd yma hefyd. Yn yr ‘efallai’ a’r ‘o bosib’ yma y gwelir gwendid y gerdd, mewn gwirionedd; sef y teimlir bod neges neu weledigaeth y bardd yn mynd ar goll ar brydiau. Hwyrach y byddai rhyw frawddeg o ragymadrodd yn fuddiol yn yr achos yma. Ar y llaw arall, o’i darllen â golwg mwy cyffredinol ac heb geisio dadansoddi yr union stori sydd yma, mae’r gerdd ar ei gorau yn llwyddo i gyffwrdd rhywun heb ostwng yn ormodol i sentimentalwch. Mae’r gerdd wedi ei gosod mewn modd difyr ac effeithiol, gyda phenillion y cymeriadau am yn ail ar y chwith a’r dde i’r dudalen. Unir eu hanesion yn y bennill olaf, sydd wedi ei osod ar ganol y dudalen, ac sy’n dod â’r cyfanwaith i ben yn gynnil ac emosiynol: Ac un diwrnod, clywir sibrydion deuawdau ein ddoe a heddiw wrth imi gau fy llenni am y tro olaf. Mae naws delynegaidd ac agos-atoch yn y llinellau uchod, sy’n glo cryf i’r gerdd. Gyda hynny o eiriau, rwyf yn fodlon fod DILYS yn teilyngu’r wobr gyntaf a Thlws Telyn Eisteddfod Mimosa. Llongyfarchiadau i Ana Chiabrando, enillydd Tlws Telyn Eisteddfod Mimosa, Porth Madryn 2019.
0 Comments
Annwyl Bwyllgor Gwaith, Rwyf wedi bod yn aelod o’r Gymdeithas Gerdd Dafod ers 2016, blwyddyn ei deugain-mlwyddiant. Yng ngholofn olygyddol cyntaf un cylchgrawn Barddas, yn rhifyn Hydref 1976, fe ddatganodd Alan Llwyd mai nod cylchgrawn Barddas fyddai ‘gwarchod un agwedd hynafol a chyfoes ar ein diwylliant ni’, ond, ‘nid ei gwarchod yn amgueddfaol fel ag y gwneir gydag amryw o’n pethau ni fel cenedl, ond ei gwarchod a’i hybu fel rhywbeth byw, cyfoes a thanbaid.’ Roedd y chwyldro, yn ôl pob tebyg, ar droed. Roedd y bwriad yn un anrhydeddus, y geiriau’n rhai gwresog, a’r argoel yn dda. Nid oes gwadu am eiliad gyfraniad cylchgrawn a chyhoeddiadau Barddas i fyd barddoniaeth Gymraeg; ac mae’r gymdeithas yn hwylio i gyfeiriad hanner canrif o fodolaeth, sydd yn gamp ynddo’i hun. Ond mae’n rhaid cydnabod yn ogystal nad gorffennol di-nam yw gorffennol Barddas. Gwnaeth y cylchgrawn enw iddo’i hun yn gynnar iawn yn ei hanes am beidio ag adlewyrchu’n deg drwch y gweithgarwch ym myd barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig yng nghyd-destun diffyg cynrychiolaeth o leisiau menywod. Yn wir, fe gymerodd hyd ganol yr 80au, bron i ddegawd wedi sefydlu’r cylchgrawn, i ysgrif gan ferch ymddangos rhwng y tudalennau. Dynodwyd rhifyn cyfan Ebrill 2018 o gylchgrawn National Geographic fel ‘The Race Issue’. Yn y rhifyn hwnnw, a oedd yn bwrw golwg ar faterion yn ymwneud â hil, roedd erthygl gan John Edwin Mason, Athro ym Mhrifysgol Virginia, a gomisiynwyd gan y cylchgrawn i archwilio eu hanes eu hunain o hiliaeth, cyn troi eu golygon ato mewn cyd-destunau eraill. Fel y dywedodd Susan Goldberg, Uwch-olygydd y cylchgrawn (a’r ferch a’r Iddewes gyntaf i ddal y swydd honno) – ‘To rise above the racism of the past, we must acknowledge it’. Rhowch unrhyw agwedd annifyr arall yn lle ‘racism’ yn y frawddeg yna, ac mae’n sefyll yr un fath. Y gwir yw hyn: er mwyn goroesi a chadw ei hygrededd fel cyhoeddiad yn yr unfed ganrif ar hugain, mae’n rhaid i gylchgrawn Barddas a’r Gymdeithas Gerdd Dafod fynd ati yn yr un modd i ddadorchuddio eu hanes o wahaniaethu ar sail rhywedd; dim ond trwy gydnabod bodolaeth problem o’r fath y mae modd symud ymlaen i’w datrys. Dywedaf ‘datrys’, am fy mod yn berffaith sicr bod y broblem sy’n deillio o hyn yn fyw ac yn iach (os ‘iach’ yw’r gair). Fe welir o’r tabl yn yr atodiad mai’r gymhareb yn ôl rhywedd ar gyfer 10 rhifyn diweddaraf Barddas ar gyfartaledd yw 25 o ddynion i 5 o ferched; neu mewn geiriau eraill, cymhareb o 5:1. Mewn gwirionedd, dyma’r unig ystadegyn sydd ei angen i brofi bod problem ddybryd yn bodoli o hyd, ac y byddai peidio â mynd i’r afael ag o yn anghyfrifol ac yn gamgymeriad difrifol. Fe wnaeth Elan Grug Muse sylw yn ddiweddar i’r perwyl hwn: os yw llai na 20% o gyfrannwyr cylchgrawn yn ferched, a bod y cyhoeddiad hwnnw ddim fel pe bai’n cydnabod fod hynny’n broblem nac yn cymryd camau amlwg i newid y sefyllfa, a ddylai fod yn derbyn nawdd cyhoeddus o gwbl? Mae hwn yn sylw eithriadol o deg. Cyhoeddir Barddas gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru, ac fe nodir hynny’n dwt ar dudalen gyntaf pob rhifyn. Corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw hwn, ac arian y trethdalwr sydd felly yn gyfrifol am alluogi i gyhoeddiad fel Barddas barhau. Os nad yw Barddas yn ymdrechu’n deg i gynrychioli trawstoriad teg o’r boblogaeth sy’n ei noddi, a yw’n rhesymol disgwyl y bydd y llaw sy’n porthi yn parhau i borthi’n ddigwestiwn a diderfyn? Yr ateb a geir yn gyffredin i gwynion o’r math hwn yw nad yw’r cyhoeddiad yn gwahaniaethu yn erbyn menywod am eu bod yr un mor agored i dderbyn cyfraniadau gan fenywod ag y maent gan ddynion. Fe glywais i fardd nid anenwog ddweud yn ddiweddar ‘nad oes deddf yn rhwystro merched rhag barddoni’. Nid wyf yn amau nac yn awgrymu nad yw golygydd Barddas yr un mor agored i dderbyn cyfraniadau gan fenywod ag y mae gan ddynion, ond lle mae gwahaniaethu wedi bod, a hynny dros gyfnod hir o amser; mae’n rhaid mynd ymhellach na dweud bod croeso i fenywod gyfrannu. Mae’n rhaid bod yn rhagweithiol, yn hytrach na honni nad oes dim i’w wneud am y broblem, am mai dewis yr unigolyn yw cyfrannu. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn annog gweithredu positif, sef camau gwirfoddol i’w cymryd tuag at gyflawni’r nodau a ganlyn:
Mewn sefyllfa o’r fath, lle mae’r nifer o fenywod sydd wedi eu cynnwys yn ôl-rifynnau Barddas yn arbennig o isel, mae’n rhaid mynd ymhellach a thu hwnt i ddatgan bod croeso i fenywod gyfrannu. Dylai golygydd y cylchgrawn fod yn anelu at gynrychiolaeth gytbwys. Os yw’n digwydd gweld bod llawer o gyfraniadau at rifyn gan ddynion, dylai wedyn fod yn chwilio’n weithredol am gyfraniadau gan fenywod i gydbwyso hynny. Mae lle hefyd i ystyried y cydbwysedd sydd yn nhermau colofnwyr sefydlog y cylchgrawn a’r sawl sy’n gyfrifol am ei roi at ei gilydd. Trwy wneud hynny, dros amser, rwy’n berffaith sicr y byddai nifer y cyfraniadau gan fenywod sy’n dod i law yn ddiofyn yn tyfu’n organig, am y byddai’r canfyddiad o’r cylchgrawn fel lle diogel a chynhwysol i fenywod rannu eu gwaith yn gwella. Gellir annog yr un agwedd yn union yn yr ymgais i gynnwys grwpiau cymdeithasol eraill sydd wedi eu tan-gynrhychioli: pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl ddosbarth gweithiol, pobl anabl, pobl hoyw a deurywiol, pobl drawsryweddol, ac yn y blaen. Dylai unrhyw gyhoeddiad yn yr unfed ganrif ar hugain fod yn ceisio dal rhwng ei gloriau gymaint â phosib o’r tapestri amryliw o leisiau sydd o fewn ein cymdeithas ac sy’n haeddu cael eu clywed. Rwy’n mawr obeithio y byddwch yn ystyried cynnwys y llythyr hwn o ddifri, ac y bydd yn sbarduno trafodaeth yn eich plith. Rwyf yn grediniol y byddai gwella ar yr agwedd hon o gylchgrawn Barddas yn galluogi i’r cyhoeddiad symud ymlaen yn hyderus i hanner canrif nesaf ei fodolaeth. yn ddiffuant, Iestyn Tyne |