Comisiynwyd yr englynion hyn gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer sesiwn 'Cerddi AmGen ein Prifeirdd' yn eisteddfod ddigidol 2020 / These englynion were comissioned by the National Eisteddfod for the digital eisteddfod of 2020. Garddio
Gweithred hardd ydy garddio. Yn araf cei wared â'r rhuo yn dy ben, er gwaethed y bo; cei freuder, mwynder y mendio a rhyw reidrwydd dirodres, yn haul braf ar ddysgl bridd gynnes, i godi rhaw, torchi llawes, a phlannu hadau llysiau lles.
0 Comments
|