Roedd yn braf cael gwahoddiad i gyfrannu at Oedfa Radio Cymru ar 24 Mai, dan arweiniad aelodau Urdd Gobaith Cymru ar ddechrau wythnos Eisteddfod-T. Gallwch glywed cerdd gen i, 'Wedyn (IV)', yn ystod y rhaglen, sydd ar gael i wrando yn ôl am fis yma:
https://www.bbc.co.uk/programmes/m000jdwn
0 Comments
Diolch i griw Llanw Llŷn am y gwahoddiad i feirniadu'r gystadleuaeth flynyddol hon am eleni, a llongyfarchiadau i Llŷr Titus am ei hennill hi.
Mae gweddill rhifyn Mai y Llanw ar gael i'w darllen yma. Mae ein noson lenyddol ddiweddar o'r Cymoedd bellach ar gael i bawb ei hailfyw ac ailfwynhau'r cyfoeth o straeon a cherddi a gafwyd gan y pedwar awdur.
Mae pamffled digidol o waith y noson ar gael o https://www.ystamp.cymru/llyfraudigidol Diolch i Grug Muse am gynnwys 'Cywilydd III' ar ei rhestr o gerddi ar gyfer cyfnod ansicr. Gellir darllen yr eitem ar wefan Cymru Fyw yma:
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52487631 Cynghanedd Workshop: Zoom, Sunday 28 June - 3-4pm
Guided poetry workshop by Iestyn Tyne from Y Stamp: 'An introduction to the Welsh poetic art of cynghanedd.' We will explore how its principles can be applied and adapted to writing in English. Tickets: https://www.eventbrite.com/e/where-im-coming-from-digital-events-tickets-104200524574 |