*Nodyn: Rwyf bellach wedi cael ymddiheuriad am y mater hwn, ac wedi'i dderbyn. Nid oedd tynnu sylw at y peth gymaint amdanaf fi'n bersonol ag am sicrhau na fyddai'n digwydd i rywun arall eto. Rwyf yn ffyddiog o'r neges a dderbyniais fod yna fwriad ystyried ac ymrwymo i hynny.
----- Ar dudalen 49 rhifyn diweddaraf cylchgrawn Barddas (348, Gaeaf 2021) ceir englyn o fy ngwaith a gyfansoddwyd mewn ymateb i’r newyddion fod 30 o swyddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dan fygythiad oni bai bod Llywodraeth Cymru yn fodlon rhoi cyllid teg i’r sefydliad hwnnw eu diogelu. Cyhoeddwyd y gerdd hon heb fy nghaniatâd. Nid wyf, ar unrhyw adeg ers cyhoeddi’r englyn ar Twitter, wedi derbyn gohebiaeth o fath yn y byd gan olygydd Barddas i ofyn am ganiatâd i rannu’r gerdd yn y cylchgrawn. Nid yw cyhoeddi gwaith ar-lein gyfystyr ag ildio hawlfraint; ac nid yw’r gerdd chwaith yn gynnyrch comisiwn, a fyddai wedi pasio’r hawliau cyhoeddi ymlaen i barti arall. Nid oes neb arall wedi crybwyll neu ofyn am gael cyhoeddi'r englyn yn y cylchgrawn, chwaith. Ymhellach na hyn, cyhoeddwyd yr englyn gwreiddiol yn ddi-deitl. Mae golygydd Barddas wedi penderfynu ychwanegu ei deitl ei hun, a hwnnw’n deitl na fyddwn wedi ei ddewis fy hun, pa beth bynnag fo gwerth hynny. Penderfynodd hefyd wneud newidiadau i’r atalnodi; eto, heb ymgynghori â’r awdur. Yn goron ar y cyfan, mae’r englyn wedi ei gyhoeddi gyda chamdeipiad yn y cyrch. Yn lle ‘gwario’, ceir ‘gwawrio’, sy’n gwneud holl neges y gerdd yn gwbl ddiystyr. Ceir ail gamdeipiad ar ddiwedd yr ail linell - 'greiriach' (treiglad creiriach) sydd i fod, yn hytrach na'r 'geiriach' sy'n ymddangos. Gall rhywun ddeall, a maddau, gwallau golygyddol. Mae pawb wedi llithro wrth deipio – ond mae dwyn gwaith a’i gyhoeddi heb ganiatâd yn anoddach ymresymu ag o. Fel mae’n digwydd, ac am resymau personol, mae’n debygol iawn y byddwn wedi gwrthod y cais i gyhoeddi pe bai wedi fy nghyrraedd, hefyd. Does gen i ddim amheuaeth na fydd rhai yn fy nghyhuddo o hollti blew; yn dweud y dylwn adael i fater dibwys un gerdd fer fynd heibio. Ond fel awdur sy’n gobeithio adeiladu gyrfa yn y maes creadigol, mae’r ymddygiad golygyddol anghyfrifol yn dibrisio’r llafur y tu ôl i’r gerdd, y cymryd yn ganiataol yn gnoc i’r hyder, a rhoi'r gerdd drwy'r mangl yn chwerwi fymryn ar ganlyniad ymgyrch lwyddiannus yr o’n i’n falch o gael cyfrannu ati. ----- Dyma’r englyn gwreiddiol fel y dylai ddarllen: 'Mae gennym blan amgenach – na gwario gwirion ar hen greiriach. Pa iws cael llyfrgell bellach? Cawn o hon arbedion bach.' ----- Y bwriad wrth gyhoeddi'r neges yn gyhoeddus fel hyn yw sicrhau fod unrhyw drafodaeth sy'n deillio ohoni yn un gwbl agored ac adeiladol.
1 Comment
'Mae gennym blan amgenach na gwario
gwirion ar hen greiriach. Pa iws cael llyfrgell bellach? Cawn o hon arbedion bach.' https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/244641 Newyddion da: https://www.cambrian-news.co.uk/article.cfm?id=135004 |