Englyn enwog R. Williams Parry i Neuadd Mynytho biau'r diolch am y teitl, ac wrth i bwyllgorau apêl ar draws Llŷn ac Eifionydd gychwyn ar eu gwaith, mi fydd gan ein neuaddau pentref ni rôl bwysig yn y gwaith o ddwyn pobl ynghyd. Mewn byd brawychus, nid bychan yw gwerth hynny.
Cyd-ddyheu Os, yn fyd-eang, y teimlwn angau a’i wrando astud yng ngraen ein distiau; a’r diawl ar gerdded trwy’n cymunedau yn hwylio’r te ac yn hawlio’r toeau, rhoi nodwydd ar hen edau – trwsio’r gliw wnawn ninnau heddiw yn ein neuaddau.
4 Comments
|