Cywilydd (2019)
Bardd hynod hyderus ac aeddfed sydd ag awen annisgwyl. Mewn cerddi medrus mae'n dangos y cyfan mewn lliwiau llachar i ni ond mae hefyd yn dangos y gallai pob dim gael ei droi wyneb i waered drwy'r peth lleiaf oll - dyna yw rhyfeddod bywyd ... mae'r gyfres hon o gerddi'n feistrolgar, yn athronyddol, yn ddiwinyddol, mae'n chwarae gyda'r ymennydd dro ar ôl tro, yn ei ffrwydro hyd yn oed.
An extremely confident poet with an unexpected muse. In skillful poems he shows us all in bright colours, but also shows us that everything could be turned upside down by the smallest of things, and that this is the wonder of life ... this series of poems is masterful, philosophical, and theological. The writer plays with our minds time after time ...

- Osian Rhys Jones ac/and Elinor Wyn Reynolds
Ar Adain (2018)
Gweler hefyd ysgrif Mererid Puw Davies, 'Damcaniaeth Niwmatig Ymarferol: Darllen Cerddi Iestyn Tyne' yn Rhifyn 10 O'r Pedwar Gwynt - ar gael i danysgrifwyr ar wefan y cylchgrawn: https://pedwargwynt.cymru/adolygu/gol/damcaniaeth-niwmatig-ymarferol
See also Mererid Puw Davies' essay in Issue 10 of O'r Pedwar Gwynt - available to subscribers via the link above.
Barddoniaeth y bore wedyn ydi hon - cerddi meddylgary 'pnawniau Sul dibendraw' sy'n llawn difaru, distawrwydd a difrifoldeb ... Sylwa ar bobl, a dal eu cymeriad mewn ychydig eiriau, â'r un craffter llygad a chywreinrwydd llaw ag wrth eu braslunio.
This is 'morning after' poetry - the thoughtful poems of 'endless Sunday afternoons' filled with regret, silence and seriousness ... the poet notices people, and captures their character in a few words, with the same sharpness of eye and hand as when he sketches them.

- Guto Dafydd, Llanw Llyn
Dro ar ôl tro cawn ein hunain yn y lle sydd ar yr ymylon, y darn sydd rhwng y darnau cyfarwydd. Ond o gael mynd yno yng nghwmni Iestyn Tyne agorir ein meddwl i weld posibiliadau gwahanol ... [mae'n] llwyddo i ddal y cyffredin mewn ymadrodd cwbl anghyffredin a chofiadwy.
Time after time we find ourselves in the place on the edge - in the space between familiar pieces. But in going there with Iestyn Tyne, our minds are opened to see different possibilities ... he manages to capture the mundane in ways which are completely unexpected and memorable.

Mererid Hopwood, Y Ffynnon
Afraid dyfynnu, bron, gan mor niferus yw'r disgrifiadau byw a'r cymariaethau llachar ... mae'n eglur ei fod yn feistr ar lunio delweddau cofiadwy ... clymir yr holl waith ynghyd â chyfeiriadau cynnil yma a thraw at ymylon pethau: erchwyn gwely'n aml, min ar garreg ac ochr clogwyn, ynghyd â'r llinell symudol ddisymud rhwng y môr a'r tir.
It is almost unnecessary to quote from this collection, so numerous are the vivid descriptions and dazzling comparisons ... it is clear that he is a master of memorable imagery ... the entire work is drawn together by concise references here and there to the edges of things; often the side of a bed, a sharp stone or a cliff-edge, as well as the ever changing, ever constant boundary between sea and land.

Eurig Salisbury
Addunedau (2017)
Pan mae o'n edrych ar ei gyfnod mae ei lygaid yn agored led y pen. Mae'r prydferth a'r dyrchafol yn ei lyfr newydd, Addunedau, ond does dim hunan dwyll ynglŷn â nhw pan maen nhw'n ymddangos ... dro ar ôl tro mae'n taro ar yr union ymadrodd ac ar yr un pryd yn osgoi'r stroclyd fel tasai o'n bla ...
When he looks at his own period in time, his eyes are wide open. The beautiful and uplifting can be found in his new volume of poetry, Addunedau, but there is no self-deception when they appear ... time after time he hits on the exact phrase, whilst avoiding any contrived style as though it were the plague ...
Alun Jones, Llanw Llŷn